Ceri Sherlock

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 09:18, 14 Awst 2014 gan Marc Haynes (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

Magwyd Ceri Sherlock yn Llanelli. Fe’i haddysgwyd yng Ngholeg Llanymddyfri a Choleg y Brenin, Prifysgol Llundain. Bu’n gweithio’n helaeth fel cyfarwyddwr ym myd yr opera a’r theatr, gan weithio fel cyfarwyddwr cynorthwyol i Jonathan Miller ac yna gyda Peter Stein yn y Schaubuhne, Berlin. Bu’n cyfarwyddo cynyrchiadau operatig yn Nice, Dulyn, Vancouver, Halle, Brwsel, Wexford a Glasgow, a bu’n gweithio ym myd theatr gerddorol gyfoes hefyd. Dychwelodd i Gymru i fod yn Gyfarwyddwr Cysylltiol Theatr Cymru a chynhyrchydd staff gydag Opera Cenedlaethol Cymru, cyn cychwyn ar gyfnod nodedig fel Cyfarwyddwr Artistig yr Actors Touring Company yn Llundain. Yn 1993 symudodd i fyd ffilm gan sgriptio a chyfarwyddo gyda’i ffilm gytnaf, Dafydd (BBC / Dutch NOS). Dangoswyd y ffilm gyntaf yng Ngŵyl Ffilm Rotterdam ac ers hynny fe’i dangoswyd mewn gwyliau o gwmpas y byd a fe'i darlledwyd ar BBC2 hefyd.

Fe wnaeth ei ail ffilm, Fallen Sons, ennill y wobr am y ffilm fer orau yn yr Ŵyl Ffilm a Theledu Celtaidd yn 1994, yn ogystal â gwobrau BAFTA Cymru am y sgriptiwr a’r dylunio gorau. Wedi cyfnod yn astudio ffilm yn UCLA, dychwelodd i Gymru i gyfarwyddo drama lwyddiannus i S4C, Branwen. Lleolir Branwen yng Ngogledd Iwerddon a Gogledd Cymru. Enillodd wobr y Ffilm Orau yn yr Ŵyl Ffilm a Theledu Celtaidd yn 1995 a’r Wobr Arian yng Ngŵyl Ffilm Ryngwladol Houston.

Ei ffilm nodwedd gyntaf ar gyfer y sgrin fawr oedd Cameleon (1997) a enillodd iddo nifer o wobrau rhyngwladol ac a ddangoswyd mewn nifer helaeth o wyliau ffilm. Wedi cyfnod fel Golygydd Comisiynu Cerddoriaeth yn S4C, symudodd i fod yn Gomisiynydd Gweithredol cyntaf y BBC ym maes y celfyddydau.



Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.