Cerlan

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

(Saesneg: terrace)

Figwr 1. Enghraifft o gerlannau ar orlifdir Afon Rheidol.

Arwynebedd cymharol wastad o dir sydd yn bodoli uwchben lefel gyfredol afon, ond a ffurfiwyd ar lefel yr afon yn y gorffennol. Gall amlygrwydd y ffin rhwng y gerlan a’r gorlifdir presennol fod yn amlwg, neu weithiau yn anodd ei adnabod, ond mi fydd y ddau wedi eu rhannu gan lethr sydd wedi ei erydu. Mae bodolaeth cerlan yn awgrymu bod creu gorlifdir, trwy ddyddodiad neu erydiad ochrol gan afon wedi ei ddilyn gan gyfnod o erydiad fertigol (endorri). Bydd hyn yn gadael gorlifdir y gorffennol ar lefel uwch na’r afon gyfredol. Yn yr achos symlaf, bydd y gerlan yn cynnwys deunydd o un cyfnod o weithgaredd yn unig. Fodd bynnag, lle mae cylchrediadau o ddyddodiad a chreu gorlifdiroedd ac endorri wedi digwydd, mae’n bosib bod yna gyfres o gerlannau ar lefelau gwahanol yn bodoli ac yn perthyn i’r cyfnodau gwahanol yma (gweler Ffigwr 1). Yn yr achos yma defnyddir uchder y gerlan fel mesur cymharol o’i hoedran h.y. disgwylir mai’r gerlan uchaf yw’r gerlan hynaf. Weithiau, darnau yn unig o’r cerlannau hyn a fydd yn weddill yn y dyffryn afonol, oherwydd bod erydiad ochrol wedi eu dinistrio ar ôl ffurfiant y cerlannau. Fodd bynnag, lle bo darnau digonol o gerlannau yn weddill, gellir dilyn lefel arwyneb y gerlan i lawr yr afon, a thynnu casgliadau am raddiant llethr y gorlifdir a natur yr afon yn y gorffennol. Gall cerlannau ar ddwy ochr yr afon fod wedi eu paru ar yr un uchder os yw endorri yn gyflym, neu heb eu paru os yw endorri yn raddol, neu os yw erydiad ochrol wedi digwydd. Mae ymgodiad yn lefel y tir, disgyniad yn y waelodfa, newidiadau yng ngallu’r afon i gludo’r dyddodion a fewnbynnir iddi, a natur y mewnbwn yna, yn medru achosi cyfnodau o endorri a dyddodi. Fodd bynnag, ni ellir cymryd yn ganiataol bod un gerlan yn cyfateb i un cyfnod o weithgaredd gan fod prosesau erydiad ysbeidiol ac ymateb cymhleth yn medru arwain at gymhlethdodau yn y gyfres o gerlannau.

Mae cerlannau mewn basnau afonydd yng Nghymru yn dangos tebygrwydd a gwahaniaethau o ran ymateb yr afonydd hynny i newidiadau hinsoddol a dynol. Adnabuwyd pedwar cerlan ym masnau Afon Ddyfi ac Afon Rheidol sydd, o bosib, yn deillio o’r un cyfnod hanesyddol Er enghraifft mae Cerlan Aberffrwd ar Afon Rheidol a Cherlan 1 yn Afon Dyfi yn arddangos nodweddion tebyg, ac mae’n debygol eu bod wedi cael eu dyddodi o dan amodau amgylcheddol tebyg yn dilyn dadrewlifiad yn ystod y Pleistosen Hwyr. Mae wedi profi’n anoddach adnabod tebygrwydd o ran cerlannau rhwng Afon Hafren ac Afon Dyfi ac Afon Rheidol (Brewer et al., 2009). Mewn ardaloedd a orchuddiwyd gan len iâ a rhewlifoedd yn ystod yr Oes Iâ ddiwethaf, fel gogledd orllewin Ewrop, dinistriwyd cerlannau a oedd yn hŷn na’r Oes Iâ ddiwethaf gan rewlifoedd dyffryn. Mewn ardaloedd nas effeithiwyd i’r fath raddau (e.e. gwledydd Môr y Canoldir) mae modd canfod cerlannau sydd yn cofnodi newidiadau hinsoddol gannoedd o filoedd o flynyddoedd oed.

Llyfryddiaeth

  • Brewer P.A., Johnstone E., Macklin M.G. (2009) River dynamics and environmental change in Wales, Rivers of Wales, 17–34.
  • Charlton, R (2009) Fundamentals of fluvial geomorphology, Routledge, Abingdon, 223 tt.
  • Knighton, D. (1998) Fluvial forms and processes: a new perspective, Arnold, Llundain, 376 tt.



Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.