Cernyw, Dylan (g.1970)

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Un o delynorion amlycaf a phrysuraf Cymru. Ganed yn Llandudno. Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Y Creuddyn, Llandudno.

Wedi derbyn hyfforddiant gan delynorion megis Gwennant Pyrs, Dafydd Huw a Robin James Jones, bu’n fuddugol yn Eisteddfodau Cenedlaethol 1989, 1991 ac 1994, ynghyd â bod yn enillydd yn yr Ŵyl Gerdd Dant yn 1992. Bu’n cyfeilio i nifer fawr o gorau a chantorion amlycaf Cymru mewn cyngherddau ledled y wlad, gan gynnwys Katherine Jenkins a Rhydian Roberts.

Rhyddhaodd record hir eponymaidd ar label Sain yn 2000, gan ei dilyn gyda dwy arall yn 2004 a 2011. Yn 2006 ffurfiodd y ddeuawd Piantel gyda’r pianydd Annette Bryn Parri, ac fe ryddhaodd y ddau dair record hir, gan gynnwys un i ddathlu deng mlynedd o berfformio cyson yn 2016.

Disgyddiaeth

  • Dylan Cernyw (Sain SCD2267, 2000)
  • Hirddydd Haf (Sain SCD2441, 2004)
  • Cartref (Sain SCD2665 2012)

gyda Piantel:

  • O’r Galon (Sain SCD2590, 2008)
  • Un Enaid (Sain SCD2644, 2012)
  • Piantel – Dathlu Deg (Sain SCD2757, 2016)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.