Childs, Euros (g.1975)

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

(gw. hefyd Gorky's Zygotic Mynci)

Cerddor o dde Sir Benfro a chyn-aelod o Gorky’s Zygotic Mynci a ddaeth i amlygrwydd fel artist unigol yn ystod blynyddoedd olaf y grŵp. Mireiniodd ei grefft fel cyfansoddwr caneuon yn sgil yr arweiniad artistig a roddodd i’r Gorky’s, a hynny ers ei gyfnod fel disgybl yn Ysgol Bro Myrddin, Caerfyrddin. Bu’n aelod o’r grŵp o’r cychwyn cyntaf ar ddechrau’r 1990au hyd at 2006 pan chwalodd y Gorky’s. Roedd ei rieni hefyd yn gerddorion ac yn arbenigo mewn chwarae offerynnau canoloesol.

Bu Childs yn arbrofi â phrosiectau unigol ers 2005, gyda’i sengl ‘Donkey Island’ yn cael ei rhyddhau ar label Wichita y flwyddyn honno. Fel cerddor byw, bu’n cydweithio’n agos â’i gyfaill o’r Gorky’s, Peter Richardson, a’r canwr-gyfansoddwr Alun Tan Lan. Erbyn chwalu’r grŵp, yr oedd eisoes yn gweithio ar ei albwm unigol cyntaf, Chops (Wichita, 2006), gwaith hynod liwgar ac eclectig oedd yn arddangos dylanwadau yn amrywio o Captain Beefheart a Henry Cow i ganu gwlad a synth pop lo-fi o’r 1980au, ond gydag elfen delynegol amlwg yn treiddio drwy’r cyfan. Dilynwyd Chops flwyddyn yn ddiweddarach gan ail albwm cwbl Gymraeg, Bore Da (Wichita, 2007) ynghyd â’r albwm mwy masnachol, Miracle Inn (Wichita, 2007). Gweithiodd dramor hefyd, gan recordio un albwm dros chwe diwrnod yn Nashville a derbyn cymorth gan gerddorion lleol ar Cheer Gone (Wichita, 2007).

Dangosodd Childs ysbryd hynod arloesol wrth ryddhau ei albwm Son of Euro Child (National Elf Records, 2009) am ddim i’w lawrlwytho ar y rhyngrwyd. Wrth i’r cyfrwng hwnnw dyfu’n allweddol, roedd ambell i fand, gan gynnwys Radiohead, eisoes wedi rhyddhau eu cynnyrch yn y modd hwn, megis In Rainbows (2007). Dengys hyn barodrwydd Childs i ymaddasu ac ymwneud â datblygiadau technolegol a chyfryngol newydd er mwyn hyrwyddo’i gerddoriaeth.

Rhoddodd Tom Pinnock o’r New Musical Express adolygiad gwych iddo am ei albwm Situation Comedy (National Elf Records, 2013), gan ddisgrifio’r gân olaf arni, yr epig, freuddwydiol ‘Trick of the Mind’ fel ‘o bosib cân brydferthaf Childs’ (Pinnock 2013). Roedd Childs yn parhau i ddefnyddio’r swrealaeth arbrofol a glywid yn ei waith gyda’r Gorky’s ac sy’n awgrymu bod deunydd yr albwm yr un mor llwyddiannus â’r hyn a gynhyrchodd gyda’r grŵp. Er hyn, nid yw Childs wedi cael yr un math o lwyddiant masnachol fel artist unigol.

Nid artist sy’n fodlon dilyn confensiwn yw Euros Childs ac mae ei ganeuon a’i eiriau yn adlewyrchu hyn. Ar brydiau, mae ei weledigaethau yn seicedelig eu natur, gyda’i felodïau bachog a syml, yn ogystal â’i gerddoriaeth ddychmygus, yn atseinio cyfnod Britpop a ‘Cool Cymru’. Daeth Childs yn arwr i aelodau o’i genhedlaeth, megis y digrifwr a’r cyflwynydd radio o Gaerfyrddin, Elis James a’r gantores, Cate Le Bon. Y mae, felly, yn un o gerddorion dwyieithog pwysicaf ei genhedlaeth.

Gethin Griffiths

Disgyddiaeth

  • Chops (Wichita WEBB094, 2006)
  • Bore Da (Wichita WEBB121, 2007)
  • The Miracle Inn (Wichita WEBB123, 2007)
  • Cheer Gone (Wichita WEBB179, 2008)
  • Son of Euro Child (National Elf NE001, 2009)
  • Face Dripping (National Elf NE002, 2010)
  • Ends (National Elf NE003, 2011)
  • Summer Special (National Elf NE005, 2012)
  • Situation Comedy (National Elf NE007, 2013)
  • Eilaaig (National Elf NE008, 2014)
  • Sweetheart (National Elf NE009, 2015)

Llyfryddiaeth



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.