Church, Charlotte (g.1986)

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Ganed y gantores Charlotte Church (Charlotte Maria Reed oedd ei henw gwreiddiol) yn Llandaf, Caerdydd. Mynychodd ei gwersi canu cynharaf gyda Louise Ryan yn y Rhath, a chyn iddi ennill llwyddiant masnachol fel soprano ifanc arferai fynychu a chystadlu mewn eisteddfodau yn ardal Bryste. Derbyniodd ysgoloriaeth gan Ysgol Gadeiriol Llandaf yn ddeng mlwydd oed cyn symud ymlaen i Ysgol Howell’s, Llandaf, yn 1998.

Wedi ymddangosiadau ar y rhaglenni teledu This Morning a The Big Big Talent Show yn 1997, arwyddodd gytundeb gyda chwmni Sony i ryddhau cyfres o recordiadau a oedd yn croesi’r ffin rhwng cerddoriaeth glasurol a cherddoriaeth boblogaidd. Daeth yr albwm llwyddiannus Voice of an Angel (Sony, 1998) i’r brig yn y siartiau trawsgroesi clasurol ym Mhrydain, a daeth yn uchel yn y siartiau rhyngwladol hefyd. Perfformiodd Church o flaen y Frenhines (ar achlysur agor Cynulliad Cenedlaethol Cymru), y Pab a’r Arlywydd Bill Clinton.

Aeth ymlaen i ryddhau’r albwm Charlotte Church (Sony, 1999) a oedd yn gasgliad o ariâu, emyn-donau ac alawon gwerin poblogaidd, tra canolbwyntiai ei thrydydd albwm, Dream a Dream (Sony, 2000), ar garolau Nadolig. Rhyddhawyd Enchantment flwyddyn yn ddiweddarach, sef detholiad o ganeuon allan o sioeau cerdd, a gwnaeth y gantores ymddangosiad yn ffilm Ron Howard, A Beautiful Mind (2001), gan gyfrannu at y trac sain yn ogystal. Cyhoeddodd y gantores ei hunangofiant cyntaf yr un flwyddyn. Aeth i gyfeiriad canu pop gyda’r albwm Tissues & Issues (Sony, 2005), a oedd yn cwblhau ei chytundeb gyda’r cwmni. Fodd bynnag, adolygiadau cymysg a dderbyniodd gyda rhai’n dadlau nad oedd ei llais a’i chefndir clasurol yn addas ar gyfer genres cerddoriaeth bop. Wedi’r lansiad cyrhaeddodd yr albwm y pumed safle yn y siartiau pop Prydeinig.
Charlotte Church yn perfformio yng Ngŵyl Victorious (2013).

Am gyfnod, bu’r tabloids yn fwy parod i roi sylw i fywyd personol Church na’i gallu cerddorol, gyda storïau yn ymddangos yn aml ynglŷn â’i bywyd carwriaethol gyda’r chwaraewr rygbi Gavin Henson, ei bywyd cymdeithasol (ynghyd â phroblemau gorddefnydd o alcohol), ei hachosion llys yn erbyn y papur newydd News of the World a’r ffaith iddi roi tystiolaeth i ymchwiliad Leveson i safonau’r wasg yn sgil y sgandal hacio ffonau. Bu’r sylw yn fodd i’w chadw yn sylw’r cyhoedd, fodd bynnag. Daeth yn gyflwynwraig teledu gan ymddangos ar y gyfres sioe sgwrsio boblogaidd The Charlotte Church Show ar Sianel 4, a ddarlledwyd rhwng 2006 a 2008.

Yn 2010 rhyddhawyd Back to Scratch (Dooby 2010), casgliad sy’n dangos newid arddulliadol trwy ymgais at fwy o aeddfedrwydd cerddorol. Yn sgil yr albwm hwn daeth y gantores yn fwy annibynnol ar y cwmnïau recordio, fel y gwelir mewn cyfres o recordiadau EP roc amgen ganddi a ryddhawyd ar label Alligator Wine: One (2012), Two (2013), Three (2013) a Four (2014).

Yn 26 mlwydd oed, penderfynodd newid ei llwybr cerddorol. Aeth ati i ymarfer yn garej ei thŷ gyda band o gerddorion lleol, gan berfformio o flaen cynulleidfaoedd llai nag o’r blaen, mewn clybiau a gwyliau roc. Nododd mewn cyfweliad i gylchgrawn Golwg ei bod yn dymuno ysgrifennu ‘caneuon emosiynol sy’n wir yn golygu rhywbeth i bobl ac sy’n greadigol ac arloesol’ (gw. Thomas 2012). Yn ei chyfansoddiadau ei hun cana am ei phrofiadau gyda’r wasg, megis yn y gân ddychanol ‘Mr The News’ (2012), sy’n cyfeirio at Rupert Murdoch; yn eironig ddigon fe berfformiodd ym mhriodas Murdoch yn 1999.

Yn fwy diweddar bu’n cymryd rhan amlwg mewn ymgyrchoedd yn erbyn mesurau llymder y Llywodraeth Geidwadol (2015) ac mewn gweithgareddau sefydliadau amgylcheddol megis Greenpeace. Fel yn achos nifer o gerddorion a brofodd boblogrwydd cenedlaethol yn ystod eu hieuenctid cynnar (fel Aled Jones), bu’r broses o ymryddhau o’r label ‘plentyn â dawn anghyffredin’ yn un anodd i Church, ond bu’r llwyddiant a ddaeth i’w rhan yn sgil hynny yn brawf ei bod yn fwy na ‘seren unnos’.

Tristian Evans

Disgyddiaeth

  • Voice of an Angel (Sony SK60957, 1998)
  • Charlotte Church (Sony SK89003, 1999)
  • Dream a Dream (Sony SK89459, 2000)
  • Enchantment (Sony SK89710, 2001)
  • Tissues & Issues (Sony 5203462, 2005)
  • Back to Scratch (Dooby DOOBY001, 2010)
  • One [EP] (Alligator Wine AWR001, 2012)
  • Two [EP] (Alligator Wine AWR002, 2013)
  • Three [EP] (Alligator Wine AWR003, 2013)
  • Four [EP] (Alligator Wine AWR004, 2014)

Llyfryddiaeth

  • Charlotte Church, Voice of an Angel: My Life (So Far) (Efrog Newydd, 2001)
  • Barbara Ellen, ‘Charlotte Church: “People think all I do is go out”’, The Observer (22 Mai 2005)
  • Charlotte Church, Keep Smiling (Llundain, 2007)
  • Barry Thomas, ‘Prosiect Personol Charlotte’, Golwg 25/6 (11 Hydref 2012), 12–13
  • Nick Duerden, ‘“This one’s for Mr Murdoch”: How Charlotte Church fought back against the media’, The Independent (21 Hydref 2012)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.