Cilmeri

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 15:52, 16 Mehefin 2021 gan CadiW (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Grŵp gwerin a sefydlwyd yn 1978 ac a wnaeth ei ymddangosiad cyntaf yng Nghlwb Gwerin Dolgellau yng Ngwesty Dolserau ym mis Rhagfyr y flwyddyn honno. Roedd ymddangosiad y grŵp yn adlewyrchu’r diddordeb newydd yn y traddodiad gwerin ar y pryd. Nid cyd-ddigwyddiad yw mai yn 1978 hefyd y sefydlwyd Gŵyl Werin Dolgellau, a arweiniodd yn y pen draw at Sesiwn Fawr Dolgellau.

Pedair blynedd yn unig y bu’r grŵp yn weithgar, ond cawsant ddylanwad pendant ar amryw o grwpiau ac unigolion a ddaeth ar eu holau, a daliodd amryw o’r aelodau i berfformio fel unigolion neu gyda grwpiau newydd ac i chwarae rhan allweddol yn natblygiad y byd gwerin yng Nghymru yn y degawdau dilynol.

Yr aelodau gwreiddiol oedd Huw Roberts (ffidil), Tudur Huws Jones (banjo, mandolin, bouzouki a phib), Elwyn Rowlands (gitâr a llais), Robin Llwyd ab Owain (mandolin a llais), Gwenan Griffiths (telyn) ac Ywain Myfyr (bodhran ac organ geg). Roedd tri o’r aelodau – Tudur Huws Jones, Huw Roberts ac Ywain Myfyr – wedi bod yn fyfyrwyr yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin, ac yn ystod eu cyfnod yno bu Tudur a Huw hefyd yn aelodau o’r grŵp Odyn Galch gyda’u cyd-fyfyrwyr Tudur Morgan a Gareth Gravelle.

Yn 1980 rhyddhawyd eu halbwm cyntaf, eponymaidd (Sain, 1980), gyda gwaith celf trawiadol gan John Jenkins – y cenedlaetholwr a fu yng ngharchar am ran helaeth o’r 1970au – ar y clawr. Yn haf 1980 gadawodd Robin Llwyd ab Owain a Gwenan Griffiths ac ymunodd Iwan Roberts (gitâr, mandolin a bouzouki) – un o aelodau gwreiddiol Mynediad am Ddim – a Dan Morris (llais, ffidil a chrwth). Yn 1981 aeth y grŵp ymlaen i ryddhau ail record hir, Henffych Well (Sain, 1982), a gafodd dderbyniad gwresog yng Nghymru a thu hwnt.

Yn haf 1982 penderfynwyd dirwyn y grŵp i ben. Aeth Tudur Huws Jones a Huw Roberts ymlaen i ffurfio’r grŵp Pedwar yn y Bar; datblygodd Tudur Morgan fel perfformiwr unigol a bu Huw Roberts yn amlwg fel arweinydd Dawnswyr Bro Cefni a chyda Clera, y Gymdeithas Offerynnau Traddodiadol. Rai blynyddoedd yn ddiweddarach ymunodd Dan Morris â’r grŵp Gwerinos a bu’n hynod o ddylanwadol fel tiwtor ac arweinydd sesiynau gwerin anffurfiol (a sefydlydd y Bandarall). Ymunodd Ywain Myfyr hefyd â Gwerinos a bu’n amlwg fel un o brif hyrwyddwyr y byd gwerin yng Nghymru ac un o sefydlwyr Canolfan Tŷ Siamas yn Nolgellau.

Arfon Gwilym

Disgyddiaeth

  • Cilmeri (Sain 1168M, 1980)
  • Henffych Well (Sain 1236M, 1982)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.