Clasurol a Chelfyddydol, Cerddoriaeth

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Defnyddir y term ‘cerddoriaeth gelfyddydol’ mewn perthynas â’r hyn sy’n cael ei ddisgrifio gan yr ysgolhaig Philip Tagg fel ‘triongl acsiomatig’, gyda dwy gornel arall y triongl yn cynnwys canu gwerin a cherddoriaeth boblogaidd (Tagg 1982, 41). Gan amlaf golyga’r term ‘cerddoriaeth gelfyddydol’ y traddodiad ‘clasurol’ yn ei ystyr ehangaf, sef cerddoriaeth wedi ei chyfansoddi ‘ar bapur’ gan unigolyn (y ‘cyfansoddwr’) yn hytrach na cherddoriaeth wedi’i throsglwyddo ar lafar neu drwy gyfrwng byrfyfyr, neu gerddoriaeth wedi’i chyfansoddi a’i recordio ar y cyd, fel yn achos y rhan fwyaf o gerddoriaeth werin, jazz neu ganu pop a roc.

Cyn 1800

I raddau gellir olrhain hanes cerddoriaeth gelfyddydol yng Nghymru mewn perthynas â dyfodiad ‘y cyfansoddwr’ a’r newidiadau a fu mewn arddull a genre dros y canrifoedd, er bod datblygiadau a newidiadau yn yr arfer o berfformio a gwerthfawrogi cerddoriaeth wedi bod yn bwysig hefyd, wrth gwrs. Gellir deall y prinder cyfansoddwyr yng Nghymru cyn 1800 – ac, yn wir, absenoldeb unrhyw draddodiad cerddorol ‘celfyddydol’ amlwg – yng nghyd-destun datblygiadau hanesyddol, cymdeithasol a chelfyddydol y wlad.

Roedd Cymru’n annibynnol rhwng oddeutu’r 7g. hyd at goncwest Edward I, Brenin Lloegr, yn 1282. Economi amaethyddol oedd yn ardaloedd gwledig Cymru, yn arbennig yn rhanbarthau’r gogledd-orllewin, y canolbarth a’r de-orllewin. Cyn y 18g. bu Deddf Uno 1536, a chyfieithiad William Morgan o’r Beibl i’r Gymraeg yn 1588, yn ddigwyddiadau hanesyddol o bwys, y naill yn cysylltu’r genedl yn ddiymwad â threfn weinyddol a chyfreithiol Lloegr, a’r llall yn anuniongyrchol yn gyfrifol am ddiogelu parhad yr iaith Gymraeg a’i goroesiad hyd at yr 21g. Effeithiodd y Diwygiad Methodistaidd yn ystod y 18g. ar arferion crefyddol Cymru a chafodd y Chwyldro Diwydiannol yn ystod y 19g. ddylanwad pellgyrhaeddol ar drefn gymdeithasol a diwylliannol ardaloedd y cymoedd a rhanbarthau mwy poblog y de-ddwyrain a’r gogledd-ddwyrain.

Tra oedd y syniad o fynegi’n greadigol hunaniaeth Gymraeg a Chymreig yn parhau i fod yn bwysig i nifer o feirdd, llenorion a cherddorion ar hyd y canrifoedd – weithiau mewn perthynas â rhyw fath o synwyrusrwydd Celtaidd – nid oedd o hyd yn gorwedd yn esmwyth gyda datblygiadau mewn cerddoriaeth gelfyddydol rhwng yr 17g. a’r 19g. O gyfnod y Baróc (1600–1750) ymlaen, rhoddwyd mwy o bwyslais ar greu iaith ryngwladol a thrawsffiniol (er mai iaith Awstro-Almaenaidd oedd hi yn y bôn), a chyfrifid cenedligrwydd yn gyfystyr â phlwyfoldeb ac ysbryd mewnblyg. Dim ond gyda dyfodiad cerddoriaeth genedlaethol ar ddiwedd y 19g., gyda’i phwyslais newydd ar ffurfiau cynhenid a’r traddodiad gwerin, y daeth hi’n bosibl i gyfansoddwyr o Gymru ddod o hyd i dir canol rhwng yr hyn a oedd yn lleol a’r hyn a ystyrid yn rhyngwladol.

Yn wahanol i’r traddodiad barddol yng Nghymru, a sefydlodd arferion clir yn fuan iawn yn ei hanes, ni ddatblygodd traddodiad cerddorol celfyddydol Cymru yn yr un modd. Mae un o’r disgrifiadau cynharaf o gerddoriaeth i’w weld yn Descriptio Kambriae Gerallt Gymro (Giraldus Cambrensis; c.1146–1223), lle mae’n dweud ei bod hi’n arferol i’r Cymry ganu, ‘nid [mewn] unsain ... ond mewn mwy nag un rhan, gan ddefnyddio llawer modd a chwmpasran a gwahanol alawon’ (yn Weller 1997, 53). Er na allwn fod yn gwbl sicr o’i ystyr, daw’n amlwg o’r disgrifiad mai canu lleisiol oedd yn bwysig, canu oedd i’w glywed mewn mwy nag un llais – hynny yw, mewn cynghanedd gerddorol. Roedd yna fath o ‘ganu polyffonig byrfyfyr’ yma hefyd, wedi ei seilio ar alawon penodol (57). Nid yw’r disgrifiad yn annhebyg i’r math o gerddoriaeth a berthynai i ysgol Notre Dame ym Mharis ar y pryd, megis motetau Léonin (c.1135–1209) a Pérotin (c.1160–1225), er ei bod yn anodd sefydlu i ba raddau y byddai’r dylanwad cyfandirol wedi treiddio cyn belled â Chymru.

Yn sicr, roedd canu lleisiol yn bwysig yn ystod y cyfnod cynnar, a pharhaodd fel hyn am rai canrifoedd a hynny o bosibl oherwydd ei fod yn atgyfnerthu’r cysylltiad rhwng y traddodiad geiriol a barddol, a hefyd oherwydd fod y traddodiad gwerin a cherddoriaeth grefyddol fel ei gilydd yn dibynnu ar eiriau. Ond roedd hyn yn wir y tu hwnt i Gymru hefyd. Fodd bynnag, ystyrid cerdd a ‘cherdd-oriaeth’ – geiriau cyfnewidiol ar y dechrau – yn ddwy ochr i’r un geiniog, ac mae’r ymadrodd ‘canu’r beirdd’ yn pwysleisio’r cysylltiad rhwng y ddau. Nid oedd gan gerddoriaeth statws fel celfyddyd annibynnol, absoliwt tan ddiwedd yr Oesoedd Canol. Gwasanaethai, yn hytrach, fel llawforwyn i’r mynegiant barddol.

Yn hytrach na datblygu’n gynhenid oddi mewn i Gymru, felly, dylanwadau o’r tu allan a fu’n gyfrifol am ddatblygiad cerddoriaeth ‘gelfyddydol’. Daeth yn gyntaf trwy arferion crefyddol yr Oesoedd Canol a’r Dadeni, gyda’r defnydd ymysg rhai o eglwysi Cymru o drefn litwrgïaidd Sarum, Caersallog. Erbyn teyrnasiad y Tuduriaid (1485–1603) aeth nifer o Gymry i Lundain oherwydd cysylltiadau agos gyda’r goron, gan wasanaethu mewn sefydliadau megis y Capel Brenhinol. O ganlyniad daeth cyfansoddwyr megis yr organydd Philip ap Rhys (fl.1530) yn hyddysg yn arddull bolyffonig Seisnig yr 16g., ac yn ddiweddarach Thomas Tomkins (1572–1656), y cyfansoddwr cyntaf o Gymru y goroesodd corff o weithiau pwysig o’i eiddo. Ond eithriadau oedd y rhain a bu’n rhaid aros hyd ddechrau’r 19g. cyn dyfodiad enwau nodedig yn y maes.

1800-1900

Ni ddatblygodd cenedlaethau newydd o gyfansoddwyr yng Nghymru yn dilyn y Diwygiad Protestannaidd. Daeth canu cynulleidfaol yn boblogaidd yn sgil y Diwygiad Methodistaidd yng nghanol y 18g., ac yn raddol datblygodd cronfa o donau yn sgil poblogrwydd gwaith emynwyr Cymreig. Daeth cymanfaoedd canu yn bwysig yn ystod y cyfnod, gan gyflwyno nifer o Gymry i gyfansoddwyr rhyngwladol o bwys megis Bach, Handel a Mendelssohn, a fu’n ddylanwad ar genhedlaeth o gyfansoddwyr Cymreig. Yn ei lyfryn Cerddoriaeth yng Nghymru (1945), dywed Idris Lewis mai telynorion a fu’n gweithio yn Llundain yn ystod y 18g. oedd cyfansoddwyr celfyddydol cyntaf Cymru, rhai megis John Parry (Parri Ddall; c.1710–82), Edward Jones (Bardd y Brenin; 1752– 1824) a John Parry (Bardd Alaw; 1776–1851) (Lewis 1945).

Gwelwyd datblygiad ym maes cerddoriaeth amatur yn ystod y 19g., gyda nifer fawr o gorau cymysg yn cael eu sefydlu er mwyn cystadlu mewn eisteddfodau neu gystadlaethau corawl mawreddog mewn mannau megis y Crystal Palace yn Llundain. Yn dilyn hyn gwelwyd y genhedlaeth gyntaf o gyfansoddwyr yn mabwysiadu ffurfiau ac arddulliau clasurol. Un a oedd yn pontio rhwng y genhedlaeth flaenorol o delynorion-gyfansoddwyr a’r to newydd oedd John Thomas (Pencerdd Gwalia; 1826–1913), a gyfansoddodd y gantata Gymraeg gyntaf, o’r enw Llewelyn, ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Abertawe yn 1863. Ychydig flynyddoedd cyn hynny, sef yn 1855, cyhoeddodd Edward Stephen (Tanymarian; 1822–85) yr oratorio gyntaf yn y Gymraeg, Ystorm Tiberias (cafwyd argraffiad diwygiedig yn 1886), a dilynwyd hyn gan yr opera gyntaf, sef Blodwen (1874) gan Joseph Parry (1841–1903). Ymestynnodd cerddoriaeth amatur hefyd i faes cerddoriaeth offerynnol, yn arbennig wedi i deulu Crawshay sefydlu Band Cyfarthfa yn 1838.

Erbyn diwedd y ganrif daeth yn arfer perfformio cantatas ac oratorios gan gyfansoddwyr megis David Jenkins (1848–1915) a Joseph Parry yn yr Eisteddfod Genedlaethol a hynny gyda chorws mawr i gyfeiliant cerddorfa lawn. Er bod cerddoriaeth leisiol a chorawl yn parhau i fod yn bwysig, roedd defnydd o ffurfiau ‘tramor’ megis symffonïau, agorawdau a concerti yn arwydd pellach o ddylanwad cerddoriaeth gelfyddydol o’r tu hwnt i’r ffin. Ond efelychiadau o arddulliau hen ffasiwn oedd nifer o’r gweithiau hyn, ac yn ôl Idris Lewis nid oedd operâu Parry yn ‘ddim ond dynwarediadau tila o Rossini, a gweithiau cynnar Verdi’ (Lewis 1945, 35).

Er hyn, gellir deall ymdrechion cyfansoddwyr Cymru yn ystod ail hanner y 19g. fel paratoad ar gyfer cerddoriaeth gelfyddydol yr 20g. Mae llyfr Frederic Griffith, Notable Welsh Musicians, a gyhoeddwyd yn 1896, yn tynnu sylw at genhedlaeth newydd bwysig o gyfansoddwyr a ymddangosodd yn ystod y cyfnod (gw. Davies 1968). Derbyniodd nifer ohonynt addysg gerddorol freintiedig y tu hwnt i Glawdd Offa fodd bynnag. O’r naw cyfansoddwr nodedig yn Notable Welsh Musicians, graddiodd David Jenkins gyda MusB o Gaergrawnt cyn dod yn Athro ym Mhrifysgol Aberystwyth, graddiodd Charles Lloyd gyda BMus o Rydychen ac roedd yn arholwr gyda’r Coleg Cerdd Brenhinol, tra oedd Joseph Parry wedi astudio yn yr Academi Gerdd Frenhinol am dair blynedd gyda Sterndale Bennett cyn dod yn Ddoethor mewn cerddoriaeth yng Nghaergrawnt ac yna’n Athro cerddoriaeth yn Aberystwyth. Roedd hyn yn arwydd pellach nad oedd traddodiad o gerddoriaeth gelfyddydol wedi ei wreiddio yng Nghymru, ond roedd yna awydd ymysg rhai o enwau nodedig y cyfnod i ledaenu cenadwri cerddoriaeth gelfyddydol oddi mewn i ffiniau’r wlad.

1900-1945

Bu marwolaeth Joseph Parry yn 1903 yn drobwynt yn hanes cerddoriaeth gelfyddydol. Bu’r cyfnod yn un o drawsnewid o draddodiad amatur y 19g. i un o broffesiynoldeb erbyn canol yr 20g. Parhaodd nifer o gyfansoddwyr i elwa o addysg a phrofiadau y tu hwnt i’r ffin, yn eu plith y gyfansoddwraig Morfydd Llwyn Owen (1891–1918), a astudiodd yn yr Academi Frenhinol yn Llundain. Ond roedd diddordeb Owen yn nhraddodiad gwerin Cymru – un a ddatblygodd yn sgil ei gwaith gyda’r casglwr gwerin pwysig, Ruth Herbert Lewis (1871–1946) – yn arwydd o’r awydd newydd ymysg cyfansoddwyr y cyfnod i graffu ymhellach ar eu hetifeddiaeth gerddorol gynhenid.

Daeth y symudiad tuag at broffesiynoli cerddoriaeth yn rhannol yn sgil ei statws newydd ym myd addysg yng Nghymru, gyda Phrifysgol Cymru, erbyn troad yr 20g., yn cynnig graddau yn y pwnc, sefyllfa a atgyfnerthwyd gan benodiad Walford Davies (1869–1941) i gadair gerdd Gregynog yn Aberystwyth yn 1919. Aeth Davies ati hefyd, trwy Gyngor Cerddoriaeth y Brifysgol, i sefydlu cerddorfa genedlaethol i Gymru, ac yn 1928 cafwyd cyngerdd gyda cherddorfa o 70 o chwaraewyr o dan arweiniad Henry Wood yn neuadd y ddinas Caerdydd, cyngerdd a ddarlledwyd gan y BBC. Fodd bynnag, bu’n rhaid dirwyn y gerddorfa i ben yn 1931 oherwydd diffyg nawdd cyhoeddus. Pan roddwyd statws darlledu rhanbarthol i Gymru yn 1936, gyda chymorth y BBC ffurfiwyd ensemble a ddaeth yn gnewyllyn Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC sy’n bodoli hyd heddiw. Yn ystod y cyfnod bu nifer o gyfansoddwyr yn gynhyrchiol ym maes cerddoriaeth leisiol ac offerynnol, rhai megis David de Lloyd (1883–1948), J. R. Heath (1887–1950), Cyril Jenkins (1889–1978), T. Hopkin Evans (1879–1940) a W. Bradwen Jones (1892–1970). Fodd bynnag, D. Vaughan Thomas (1873–1934) yw’r unig un o’r genhedlaeth hon y clywir ei gerddoriaeth yn gymharol reolaidd hyd heddiw.

Fel yn wir ar draws Ewrop a thu hwnt, bu diwedd yr Ail Ryfel Byd yn drobwynt arall yn natblygiad cerddoriaeth gelfyddydol yng Nghymru. Yn 1946 ffurfiwyd Opera Cenedlaethol Cymru gan y canwr a’r cyfansoddwr Evan Idloes Owen (1894–1954), a dechreuodd Cerddorfa Ieuenctid Cymru, o dan Clarence Raybould (1886–1972), fraenaru’r tir ar gyfer cenedlaethau newydd o offerynwyr a chyfansoddwyr. Yn 1947 sefydlwyd Eisteddfod Ryngwladol Llangollen gan yr ysgolor a’r cyfansoddwr W. S. Gwynn Williams, ac yn 1948 cychwynnodd Gŵyl Abertawe yn Neuadd y Brangwyn. Abertawe oedd cartref Daniel Jones (1912–93), un o nifer o gyfansoddwyr talentog proffesiynol a adfywiodd fywyd cerddorol y wlad yn ystod yr 1940au a’r 1950au cynnar. Un arall oedd Grace Williams (1906–77), a dderbyniodd gryn gefnogaeth gan ddau gyfansoddwr a oedd yn gweithio gyda’r BBC ar y pryd, Mansel Thomas (1909–86) ac Arwel Hughes (1909–88). Profodd y ddau lwyddiant yn bennaf fel cyfansoddwyr caneuon byrion, ac roedd hyn yn wir hefyd am Meirion Williams (1901–76) a Dilys Elwyn-Edwards (1918–2012), ac mae eu caneuon gorau yn debygol o barhau tra pery’r iaith Gymraeg. Erbyn yr 1950au roedd Thomas a Hughes yn sianelu eu hegni i gyfeiriad cenhedlaeth newydd o gyfansoddwyr, yn eu mysg Alun Hoddinott (1929–2008) a William Mathias (1934–92), y ddau gyfansoddwr cyntaf o Gymru i dderbyn llwyddiant a chydnabyddiaeth ar lefel ryngwladol.

1945–2000

Astudiodd Hoddinott yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd, ond hefyd yn breifat yn Llundain gydag Arthur Benjamin (1893–1960), arwydd efallai o’r angen i fynd y tu allan i Gymru am arweiniad ac arbenigaeth yn y maes. Ymelwodd Hoddinott o’r cysylltiadau a wnaeth gyda chyfansoddwyr a pherfformwyr dylanwadol yn Lloegr, fel Benjamin Britten a Peter Pears, a chyda gwyliau cerddoriaeth megis Cheltenham. Yn yr un modd, graddiodd Mathias o un o golegau Cymru (y tro hwn Aberystwyth) ac yna derbyn arweiniad gan y cyfansoddwr Lennox Berkeley (1903-89) yn yr Academi Gerdd Frenhinol cyn dychwelyd drachefn i Gymru. Dilynodd nifer yr un patrwm am flynyddoedd i ddod, gyda Gareth Glyn (g.1951) yn astudio yng Ngholeg Merton yn Rhydychen, tra aeth Geraint Lewis (g.1958) i Goleg Sant Ioan yng Nghaergrawnt. Clywir yn arbennig yng ngherddoriaeth gorawl Lewis (megis The Souls of the Righteous) ddylanwad y traddodiad corawl Seisnig y bu’n dyst iddo tra oedd yn fyfyriwr ac ar ôl hynny.

Yn 1954 sefydlwyd yr Urdd er Hyrwyddo Cerddoriaeth Cymru gan John Edwards (1905–66) er mwyn cynyddu perfformiadau o gerddoriaeth newydd. Hyd at 2009 cyhoeddodd gyfnodolyn gwerthfawr, Cerddoriaeth Cymru/Welsh Music. Bu’r Urdd yn gefnogol iawn i waith y cyfansoddwr David Wynne (1900–83) ynghyd â’i ddisgyblion Robert Smith (1924–99) a Mervyn Burtch (1929–2015). Erbyn diwedd yr 1950au sefydlodd y Cyngor Prydeinig bwyllgor Cymreig ac ymhen amser trodd hwn yn Gyngor Celfyddydau Cymru gan ddod yn annibynnol ar Lundain; erbyn 1994 roedd ganddo ei siarter ei hun. Bu’n gyfrwng i hyrwyddo cerddoriaeth Gymreig, yn bennaf trwy gomisiynu dros 1,000 o weithiau newydd, rhyddhau recordiadau a sicrhau perfformiadau yng Nghymru o ddarnau newydd gan gyfansoddwyr Cymreig a hynny trwy gyfrwng cerddorfeydd Prydeinig a rhai o’r tu hwnt i Brydain. Rhoddodd hefyd gefnogaeth i wyliau cerdd Abergwaun, Bro Morgannwg, Caerdydd, Gregynog, Llandaf, Llanelwy a Thyddewi, ac yn 1973 daeth i gytundeb â’r BBC er mwyn ymestyn Cerddorfa Gymreig y BBC yn un symffonig lawn. Gwireddwyd hyn erbyn 1987, ac yn 1995 fe’i hailenwyd yn Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Yn 1974 hefyd daeth Opera Cenedlaethol Cymru yn gorff proffesiynol gyda chorws a cherddorfa lawn-amser. Fyth ers hynny daeth iddo lwyddiant fel un o gwmnïau opera gorau’r byd.

Trawsffurfiwyd addysg cerddoriaeth wedi cyfnod yr Ail Ryfel Byd yn ogystal. Sefydlwyd y Coleg Cerdd a Drama yng Nghaerdydd yn 1949, a daeth yn un o bump conservatoire ar draws Prydain yn 2002. Parhaodd yr adrannau cerddoriaeth ym Mangor a Chaerdydd i ehangu a datblygu yn dilyn dyddiau Mathias a Hoddinott fel penaethiaid, gyda chyfansoddi yn derbyn pwyslais amlwg yng nghwricwlwm y ddau le. A hithau wedi ei llenwi rhwng 1950 ac 1983 gan y cyfansoddwr Ian Parrott (1916–2012), ac yna gan David Wulstan (1937–2017), y cerddoregydd a’r arbenigwr mewn cerddoriaeth o gyfnod y Tuduriaid, ni lanwyd Cadair Gregynog yn Aberystwyth ar ôl 1989, y flwyddyn pan gaewyd yr adran gerdd i fyfyrwyr llawn-amser. Yn 1976 sefydlwyd Canolfan Hysbysrwydd Cerddoriaeth Cymru ar y cyd rhwng Prifysgol Caerdydd a Chyngor Celfyddydau Cymru er mwyn hel ynghyd archif o gerddoriaeth Gymreig. Daeth y Ganolfan i ben dros dro yn 1997, ond yn 2004 fe’i hailsefydlwyd o dan yr enw Tŷ Cerdd ar y cyd â Ffederasiwn Cerddoriaeth Amatur Cymru yng Nghanolfan y Mileniwm, Caerdydd. Cafodd nifer o lawysgrifau’r archif gartref yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth. Bu sefydlu Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn 2000 yn fodd i warchod a datblygu talent newydd yng Nghymru ar gyfer y dyfodol. Erbyn heddiw mae’n cynnwys Band Pres, Côr a Cherddorfa Ieuenctid, Cwmni Theatr a Dawns, Ensemble Jazz a Band Chwyth.

Yn ystod yr 1960au astudiodd nifer o’r genhedlaeth newydd o gyfansoddwyr Cymreig gyda Hoddinott a Mathias, gan ymelwa o’u hymwybyddiaeth o gerddoriaeth gyfoes Ewropeaidd a’u dealltwriaeth o arddulliau modern ac avant-garde. Yn eu mysg yr oedd Jeffrey Lewis (g.1942), Richard Elfyn Jones (g.1944), Howard Rees (g.1945) a John Hopkins (g.1949), ond efallai mai John Metcalf (g.1946) yw’r unig un sydd wedi datblygu arddull nodweddiadol gan osod pwyslais ar alawon estynedig a harmonïau ‘nodau gwyn’ y piano. Treuliodd Rhian Samuel (g.1944) a Hilary Tann (g.1947) ill dwy gyfnodau yn Unol Daleithiau America (UDA) (gyda Tann yn parhau i fyw yno), ac er bod testunau eu cyfansoddiadau o bryd i’w gilydd yn cyfeirio at hanesion, chwedlau neu storïau Cymreig, nid yw’r dylanwad yn treiddio trwy’r arddull gerddorol. Yn achos Tann mae ei hiaith eclectig yn cynnwys cerddoriaeth Japaneaidd gynhenid y bu’n ei hastudio wrth dreulio cyfnod yn Kyoto yn ystod yr 1980au. Cyfansoddwr arall a oedd â chysylltiadau cryf gyda Chymru am gyfnod oedd Bernard Rands (g.1934), a fu’n Athro cyfansoddi ym Mhrifysgol Bangor yn y cyfnod 1960–5, cyn ymgartrefu yn UDA yn 1975. Enillodd wobr glodfawr Pulitzer yn 1984.

Aeth un o ffigyrau mwyaf unigryw Cymru, sef John Cale (g.1942), hefyd i gyfeiriad America. Ar ôl astudio yng Ngholeg Goldsmiths, Llundain, aeth draw i Efrog Newydd a dod yn rhan o’r byd arbrofol yno trwy berfformio’n gyntaf fel rhan o ensemble y cyfansoddwr minimalaidd La Monte Young (g.1935), y Theatre of Eternal Music, cyn dod yn aelod o’r grŵp pop amgen y Velvet Underground. Datblygodd yrfa lwyddiannus fel artist unawdol, cyfansoddwr a chynhyrchydd nifer o recordiau pop o’r 1970au ymlaen. Dengys gyrfa Cale fod y ffin rhwng cerddoriaeth gelfyddydol a chanu poblogaidd yn fwy niwlog erbyn yr 1960au, yn arbennig mewn dinas megis Efrog Newydd, a gwelwyd hynny yn ddiweddarach yng Nghymru hefyd.

Astudiodd Karl Jenkins (g.1944) yng Nghaerdydd gydag Alun Hoddinott cyn mynd i gyfeiriad jazz a roc blaengar ar ddiwedd yr 1960au a dechrau’r 1970au fel sacsoffonydd ac oböydd grwpiau roc arbrofol megis Nucleus a Soft Machine. Daeth i fri yn ddiweddarach fel cyfansoddwr y gân symffonig boblogaidd Adiemus: Songs of Sanctuary (1995), a gyfunai rythmau Affricanaidd gyda seiniau a harmonïau Celtaidd, ac yn ddiweddarach ei Offeren Heddwch, The Armed Man (2001), a ddyfynnai allan o’r gân Ffrengig ganoloesol ‘L’homme armé’. Yn ddiweddarach bu Charlie Barber (g.1949) yn datblygu arddull eclectig a blethai ddylanwadau anorllewinol, megis cerddoriaeth o Affrica ac ynysoedd y Bali gyda chyffyrddiadau minimalaidd a jazz, yn bennaf trwy ei waith gyda Sound Affairs.

Manteisiodd cyfansoddwyr megis Jeffrey Lewis (g.1942) a Lyn Davies (g.1955) ar y cyfle newydd a ddaeth i’w rhan yn ystod yr 1970au i dderbyn profiadau cerddorol y tu hwnt i Gymru. Astudiodd y naill gyda György Ligeti (1923–2006) a Karlheinz Stockhausen (1928–2007) yn Darmstadt, ac yna Bogusław Schaeffer (g.1929) yn Krakow yng Ngwlad Pwyl, tra bu i’r llall hefyd dreulio cyfnod yn Krakow yn astudio gyda Schaeffer, Krzysztof Penderecki (g.1933) a Marek Stachowski (1936–2004). O ganlyniad ymglywir â’r duedd ymysg cyfansoddwyr Pwylaidd y cyfnod i gyfuno elfennau o gyfresiaeth, neo-glasuraeth a thechnegau hap a damwain yng nghyfansoddiadau cynnar y ddau.

O blith y cyfansoddwyr a ymgartrefodd yng Nghymru yn ystod yr 1980au a’r 1990au, y rhai mwyaf i wneud eu marc oedd John Hardy (g.1952) ac Andrew Lewis (g.1963), y naill yn bennaeth cyfansoddi yng Ngholeg Cerdd a Drama Caerdydd ac yn un o gyfansoddwyr ffilm mwyaf llwyddiannus Cymru, a’r llall yn Athro ym Mhrifysgol Bangor ac yn arbenigwr mewn cyfansoddi acwsmatig. Yn fuan wedi ei benodi’n ddarlithydd cyfansoddi ym Mhrifysgol Bangor yn 1993, sefydlodd Lewis Electroacoustic Wales, gyda’r bwriad o ymestyn a datblygu cyfansoddi ac ymchwil yn y maes. Mae ymgorffori elfennau Cymraeg a Chymreig yn bwysig yn yr achos hwn hefyd, gyda Lewis ei hun yn mabwysiadu syniad y seinlun (neu soundscape), fel ymestyniad o dirlun, yn fan cychwyn ar gyfer nifer o’i gyfansoddiadau gan gynnwys Four Anglesey Beaches (1999–2003) a Cân (1998), lle gwelir dyhead i geisio mynd y tu hwnt i ddelwedd y ‘cerdyn post’ at realiti dyfnach Cymreictod, gan gyfuno’r seiniau ystrydebol a gysylltir gyda Chymru – telynau, corau meibion, alawon traddodiadol a phregethu ‘tân a brwmstan’ – gyda rhai llai cyfarwydd, megis y pibgorn a seiniau naturiol ac amgylcheddol y wlad.

Daeth Dylan Thomas yn ysbrydoliaeth ar gyfer Fern Hill (2014), cyfansoddiad effeithiol ar gyfer cerddorfa a synau electroneg a gafodd ei berfformio am y tro cyntaf gan Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC dan arweiniad Grant Llewellyn, gyda Lewis yn addasu, trawsffurfio a chyfuno recordiad o’r bardd yn darllen ei gerdd enwog gyda lliwiau offerynnol.

Gwelwyd cyfraniad pwysig i’r byd ffilm yn ogystal yng nghyfansoddiadau rhai o’r genhedlaeth iau, gan gynnwys John Rea (g.1964), Ceiri Torjussen (g.1976) – a fu’n byw ac yn gweithio yng Nghaliffornia ers diwedd yr 1990au – ac Owain Llwyd (g.1984), darlithydd ym maes cyfansoddi cerddoriaeth ffilm a’r cyfryngau gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ym Mhrifysgol Bangor. Astudiodd Torjussen ym Mhrifysgol Efrog, adran flaengar a fu’n hyrwyddo cerddoriaeth gyfoes a’r avant-garde yn dilyn penodi’r cerddoregwr a’r cyfansoddwr Wilfrid Mellers yno yn 1964. Un o gyfoeswyr Torjussen oedd Paul Mealor (g.1975). Fodd bynnag, gyda Torjussen yn troi’i olygon tuag Unol Daleithiau America, aeth Mealor i’r cyfeiriad arall, gan astudio gyda’r cyfansoddwr dylanwadol o Ddenmarc, Hans Abrahamsen (g.1952). Roedd ei arddull gynnar yn fwy cromatig, ond daeth mwy o lwyddiant i’w ran ar ôl iddo fabwysiadu arddull donyddol echblyg, fel yn ei fotet Ubi Caritas et Amor, a berfformiwyd yn seremoni briodasol y Tywysog William a Kate Middleton yn 2011.

Gyda’r syniad o genedligrwydd Cymreig yn newid yn wleidyddol, yn gymdeithasol a diwylliannol yn ystod ail hanner yr 20g. gwelwyd rhai cyfansoddwyr yn archwilio traddodiadau cynhenid mewn modd mwy amlwg, megis Gareth Glyn (g.1951) a Dalwyn Henshall (g.1957). Bu arddull donyddol estynedig y ddau yn fodd iddynt dynnu ar y traddodiad gwerin o bryd i’w gilydd, neu gyfeirio at hanesion a chwedlau Cymreig. Parhaodd ymroddiad Prifysgol Bangor i gyfansoddi ers dyddiau Mathias fel pennaeth. Wedi ymddeoliad John Hywel (g.1941) yn 1991 – y cyfansoddwr a’r arweinydd a fu’n bennaeth rhwng cyfnod Mathias wrth y llyw ac apwyntiad John Harper fel Athro a phennaeth yn 1991 – penodwyd Pwyll ap Siôn (g.1968) yn ddarlithydd mewn cyfansoddi, ac yn ddiweddarach Guto Puw (g.1971). Yn dilyn llwyddiant Puw gyda Reservoirs (2002) – ei gomisiwn cyntaf i Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC – fe’i gwnaed yn gyfansoddwr preswyl y gerddorfa yn 2006. Mae hunaniaeth Gymreig gref yn perthyn i nifer o weithiau’r ddau gyfansoddwr, er bod hynny’n fwy o ran testun nag o ran arddull gerddorol. Mae Pwyll ap Siôn, er enghraifft, yn hoff o ddefnyddio dyfyniadau mewn arddull ôl-finimalaidd, tra mae dylanwadau technegau ôl-gyfresol cyfansoddwyr megis Abrahamsen a Per Nørgård (g.1932) ar waith Puw. Mae Gwales (1995) gan ap Siôn, ac ...onyt agoraf y drws... (2007) gan Puw yn ddau waith sy’n cyfeirio at ddigwyddiadau allan o chwedlau’r Mabinogion.

Efallai fod ‘clytwaith’ yn air addas i ddisgrifio’r cyfnod mwyaf diweddar yn hanes cerddoriaeth gelfyddydol yng Nghymru, gyda lluosogrwydd arddulliol ac amlddiwylliannol, ynghyd â’r defnydd o ddulliau amlgyfryngol, yn nodweddiadol o waith nifer o’r genhedlaeth newydd o gyfansoddwyr. Mae’r ddeuoliaeth rhwng y lleol a’r rhyngwladol, rhwng adlewyrchu traddodiadau cynhenid Gymreig a derbyn dylanwadau o’r tu allan, yn parhau i liwio gwaith nifer o gyfansoddwyr. Mae’r elfennau ‘benthyg’ yn rhan o’r clytwaith, ac mae ceisio diffinio beth sy’n ‘Gymreig’ erbyn hyn yn profi’n fwyfwy anodd.

Ni fyddai Mathias wedi cyfansoddi ei Concerto i’r Delyn heb ymwybyddiaeth gref o’r traddodiad gwerin, ond roedd ei feistrolaeth o’r iaith gyfoes Ewropeaidd (Bartók, Hindemith, Rawsthorne, Berkeley a’r Tippett cynnar) yn hynod bwysig hefyd. Fodd bynnag, chwarter canrif yn ddiweddarach, ac yn Adiemus Karl Jenkins, mae’r elfen ‘leol’ wedi troi’n fath o arddull werin ryngwladol sy’n benthyca o wahanol draddodiadau (megis canu Affricanaidd neu gospel) heb falio llawer am gwestiynau’n ymwneud â dilysrwydd neu gywirdeb y defnydd.

Cred rhai fod marwolaeth Hoddinott yn 2008, un a fu’n ffigwr mor amlwg yn ystod ail hanner yr 20g., wedi bod yn drobwynt yn hanes diweddar cerddoriaeth yng Nghymru hefyd. Dywed Geraint Lewis fod ei lwyddiant cyhoeddus wedi hyrddio bywyd cerddorol Cymru i lwybr gwahanol a rhoi iddo ddimensiwn newydd. Llwyddodd Hoddinott i gynnal y ddelwedd o fod yn gyfansoddwr Cymreig, ond eto heb fod yn efelychiadol gaeth i unrhyw arddull genedlaethol. Efallai, gyda dyfodiad yr 21g., fod cerddoriaeth gelfyddydol yng Nghymru o’r diwedd wedi cyrraedd ei llawn oed.

Pwyll ap Siôn, Geraint Lewis a Lyn Davies

Llyfryddiaeth

  • F. Griffith, Notable Welsh Musicians of Today (Llundain, 2/1896)
  • J. Graham, A Century of Welsh Music (Llundain, 1923)
  • R. E. Roberts, ‘Welsh Music in the Tudor Period’, Transactions of the Honourable Society of Cymmrodorion (1925–6), 1–24
  • J. Lumley Davies, ‘The Contribution of Welshmen to Music’, Transactions of the Honourable Society of Cymmrodorion (1929–30), 38–113
  • P. Crossley-Holland, ‘Secular Homophonic Music in Wales in the Middle Ages’, Music & Letters, xxiii (1942), 135–62
  • I. Lewis, Cerddoriaeth yng Nghymru (Lerpwl, 1945)
  • P. Crossley-Holland (gol.), Music in Wales (Llundain, 1948)
  • A. F. L. Thomas, ‘Random Notes on Contemporary Welsh Music’, The Chesterian, xxi (1956–7), 115–19
  • D. Jones, Music in Wales (Caerdydd, 1961)
  • E. Cleaver, Gwýr y gân (Llandybïe, 1964)
  • O. T. Edwards, ‘Music in Wales’, yn R. Brinley Jones (gol.), Anatomy of Wales (Caerdydd, 1972), 107–26
  • E. Warkov, ‘Modern Composers’ Use of Welsh Texts: Some Points of View’, Welsh Music, v/10 (1975–8), 31–41
  • R. Bohana, ‘Music’, yn M. Stephens (gol.), The Arts in Wales 1950–75 (Caerdydd, 1979), 5–25
  • M. Boyd, ‘Welsh Composers’, yn M. Stephens (gol.), The Arts in Wales 1950–75 (Caerdydd, 1979), 27–50
  • Philip Tagg, ‘Analysing Popular Music: Theory, Method and Practice’, Popular Music, 2 (1982), 37–67
  • D. R. A. Evans, ‘A Short History of the Music and Musicians of St. David’s Cathedral, 1230–1883’, Welsh Music/Cerddoriaeth Cymru, 7/8 (1984–5), 50–66
  • G. Lewis, ‘“Welsh” Music’, Welsh Music/Cerddoriaeth Cymru, 7/2 (1982–3), 6–19
  • R. Fawkes, Welsh National Opera (Llundain, 1986)
  • I. Cheverton, ‘Cathedral Music in Wales during the Latter Part of the Seventeenth Century’, Welsh Music/ Cerddoriaeth Cymru, 8/1 (1986–7), 6–17
  • O. T. Edwards, ‘A Fourteenth-Century Welsh Sarum Antiphonal, NLW MS 20541’, Journal of the Plainsong and Medieval Music Society, x (1987), 15–21
  • G. Lewis, ‘Praise the Lord! We are a Musical Nation’, yn D. Cole (gol.), The New Wales (Caerdydd, 1990), 123–40
  • D. I. Allsobrook, Music for Wales: Walford Davies and the National Council of Music (Caerdydd, 1992)
  • L. Davies, ‘Cwmni opera Cymru’, Taliesin, lxxxiii (1993), 86–93
  • D. R. A. Evans, ‘The Powell Collection of Music Manuscripts’, Current Musicology, 52 (1993), 64–72
  • J. Davies, Broadcasting and the BBC in Wales (Caerdydd, 1994)
  • D. I. Allsobrook and B. B. James, First in the World: The Story of the National Youth Orchestra of Wales (Caerdydd, 1995)
  • D. R. A. Evans, ‘Recent Discoveries at Aberystwyth: Welsh Music Manuscripts in the Music Department Archive’, Current Musicology, 59 (1995), 101–15
  • S. Webb, The Music of Wales (Pen-y-Groes, 1996)
  • D. Galliver, The Seatons of Margam and Port Talbot: Church Music in South Wales, 1870–1950 (Adelaide, 1997)
  • P. Weller, Gerald of Wales’s View of Music’ / ‘Golwg Gerallt Gymro ar Gerddoriaeth’, Welsh Music History / Hanes Cerddoriaeth Cymru, 2 (1997), 1–64
  • G. Williams, Valleys of Song: Music and Welsh Society, 1840– 1914 (Caerdydd, 1998)
  • P. ap Siôn, ‘Cenedligrwydd a’r Cyfansoddwr Cymreig’, Hanes Cerddoriaeth Cymru, 5 (2007), 265–84



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.