Cludiant Aeolaidd

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:08, 29 Awst 2013 gan Gwydion Jones (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

Cludiant gronynnau gan wynt. Daw’r term o Aeolus sef Duw Groegaidd y Gwynt. Ar ôl i’r gwaddod gael ei lusgo i’r llif awyr, bydd modd iddo gael ei gludo drwy gyfrwng un o bedwar dull sef crogiant, neidiant, ymgripiad ac ymlusgiant a’r hyn sy’n penderfynu hyn yn bennaf yw maint y gronyn. Nid yw’r dulliau cludo yn ddosbarthiadau ar wahân ac nid yw’r trawsnewid o un i’r llall yn amlwg iawn.

Y ddau brif ddull ar gyfer cludiant aeolaidd yw crogiant a neidiant. Trwy grogiant mae’r gronynnau llwch lleiaf yn cael eu cadw yn yr awyr. Mae crogiant yn digwydd pan fydd deunyddiau arwyneb yn cael eu codi i’r awyr a bydd y ceryntau esgynnol yn ddigon cryf i ddal pwysau’r gronynnau a’u cadw i fyny am gyfnod amhenodol. Bydd cyflymder gwynt arferol sy’n agos i arwyneb y Ddaear yn crogiannu gronynnau gyda diamedrau llai na 0.2 mm. Bydd stormydd gwynt difrifol yn medru dal gronynnau mawr mewn trolifau tyrfol am amser hir a’u gwthio i uchderau mawr (miloedd o fetrau), sy’n ymestyn eu pellter teithio (miloedd o gilometrau yng nghyfeiriad y gwynt).

Mae neidiant yn digwydd drwy symudiad gronynnau oddi wrth yr arwyneb gan godiadau aerodynameg sydd wedyn, drwy’r llif awyr, yn cael momentwm llorweddol ac yna’n disgyn i wrthdaro'r gwely gronynnau ac yna’n parhau i ‘neidio’ yng nghyfeiriad y gwynt. Mae hyn yn digwydd o fewn rhai metrau i’r arwyneb ac amcangyfrir bod 90% o dywod yn cael eu cludo o fewn 50 cm uwchben yr arwyneb a 35% o fewn 2.5 cm o’r arwyneb. Mae neidiant yn cludo gronynnau rhwng 0.06 mm a 0.5 mm mewn diamedr. Pan mae ychydig o ronynnau neidiant yn gwrthdaro gronynnau eraill mae hyn yn arwain at dasgu’r gronynnau eraill i’r llif awyr sy’n achosi iddynt neidio sy’n gallu arwain at fàs-symudiad o waddod. Gwelir hyn fel system rhaeadru lle mae symudiad nifer bychan o ronynnau ym medru achosi màs-symudiad enfawr o waddod yn gyflym. O bell, bydd cwmwl o ronynnau neidiedig yn ymddangos fel petaent ynghrog yn barhaus, gan greu haen niwlog yn agos i’r arwyneb. Pan fydd gronynnau neidiant yn gwrthdaro yn erbyn gronynnau sy’n rhy drwm i hercian, maent yn gwthio gronynnau (hyd at chwe gwaith yn fwy na’r gronynnau neidiant) ychydig ac yn araf ymlaen, ac mae’r symudiad hwn o lithro a rholio ymlaen yn cael ei adnabod fel ymgripiad. Fel arfer mae’n gofyn bod cyflymdra gwynt yn fwy na 16 km/a (10 m.y.a.) i ymgripiad ddigwydd. Gall llystyfiant ddylanwadu ar brosesau a thirffurfiau aeolaidd drwy amharu ar ddulliau cludiant megis neidiant, a bydd hynny’n peri mwy o erydu rhwng llystyfiant a dyddodiad wrth ymyl llystyfiant. Mae prosesau aeolaidd yn cychwyn pan fydd erydoldeb y gwynt yn fwy na natur erydadwy yr arwyneb. Mae llystyfiant yn medru dylanwadu ar ddulliau cludiant aeolaidd drwy gyfrwng tri phrif ddull sef: yn gyntaf, drwy roi lloches rhag erydiad i’r arwyneb yn union o dan y llystyfiant; yn ail, drwy gynyddu garwedd a ffrithiant yr arwyneb sy’n tynnu momentwm oddi ar y gwynt ac felly ei bŵer erydu; ac, yn drydydd, drwy ddal gwaddod gan ymddwyn fel rhwystr i ronynnau mudol sydd yna’n gweithredu fel man i ddyddodi gwaddod. Mae cludiant a thirffurfiau aeolaidd yn dibynnu’n fawr ar y system afonydd i gyflenwi gwaddod. Mae’r system afonydd yn erydu’r pridd a’r creigiau sy’n cyflenwi’r gwaddod sy’n cael ei gludo gan gludiant aeolaidd. Bydd y gwaddod a gludir gan gludiant aeolaidd yn gallu cael ei ail-ddosbarthu dros y llethrau a sianelau’r afonydd a fydd yn eu tro yn cael eu cludo gan brosesau afonol. Felly, mae cylchrediad o gludiant ac erydiad yn digwydd. Mae’r gwaddod sy’n mynd i sianelau afonydd o ganlyniad i gludiant aeolaidd ym medru newid arddull afon o un ystumiol i un blethog (gweler afon ystumiol ac afon blethog).

Mae cludiant aeolaidd yn broses bwysig ar gyfer erydu pridd, ffurfio twyni a newid ac ail-ddyddodi gronynnau pridd. “Loess” yw’r enw a roddir ar y dyddodion mawr o bridd a gludir gan wynt ac fe’i gwelir ledled y byd. Mae’r rhan fwyaf o’r pridd hwn yn tarddu o falurion a adawyd ar ôl yr oes iâ ddiwethaf. Mae’r dyddodion mwyaf trwchus i’w gweld ar Lwyfandir Loess yn China lle maent yn 335 metr o drwch. Gwelir “loess” hefyd yn Nwyrain Ewrop (Ŵcrain a Moldova) ac Unol Daleithiau America (yr Iseldir Canolog a’r Gwastadedd Mawr) lle mae’r croniadau mwyaf rhwng 20 a 30 metr o drwch.