Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Con Passionate"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
(Fideos)
 
(Ni ddangosir y 7 golygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
[[Delwedd: ConPassionate.jpg | right]]
+
:''Gweler sylwebaeth arbenigol am ''Con Passionate'' gan Michelle Davies [[Con Passionate/Sylwebaeth arbenigol|fan hyn]]''
 +
 
 
==Crynodeb==
 
==Crynodeb==
Cyfres deledu am gôr meibion Gwili yn delio gydag arweinyddes newydd, Davina y fenyw ddeniadol, chwareus, wedi i Walford eu harweinydd farw. Ceir cipolwg o fywydau amrywiol aelodau'r côr yn gymysg â golygfeydd o'u cyngherddau a'u ymarferion. Yn ogystal â hyn, daw golygfeydd ffantasïol o ganu yn gymysg â'r golygfeydd realaidd, gan amlaf ffantasïau'r dynion o ganu a bod mewn cariad â Davina ydynt.
+
Cyfres deledu am gôr meibion Gwili yn delio gydag arweinyddes newydd, Davina y fenyw ddeniadol, chwareus, wedi i Walford eu harweinydd farw. Ceir cipolwg o fywydau amrywiol aelodau’r côr yn gymysg â golygfeydd o’u cyngherddau a’u ymarferion. Yn ogystal â hyn, daw golygfeydd ffantasïol o ganu yn gymysg â'r golygfeydd realaidd, gan amlaf ffantasïau’r dynion o ganu a bod mewn cariad â Davina ydynt.
 
 
==Sylwebaeth Arbenigol==
 
Dadansoddiad o Con Passionate gan Michelle Davies
 
 
 
Dyma gyfres a wthiodd ffiniau’r ddrama Gymraeg wrth iddi gynnig darlun wahanol o gorau meibion Cymreig a chyfuno hynny ag arddull ffilmio gyffrous sy’n ymgorffori’r elfen o ganu â golgyfeydd dramatig. Llwydda Siwan Jones, yr awdur, i chwalu’r delweddau ystrydebol sydd wedi eu creu gan gymdeithas am Gymru ‘gwlad y gân’ yn y gyfres hon. Profa bod corau meibion Cymru yn boblogaidd, ond nid yw’r aelodau wastad yn bobl angylaidd, feiblaidd, nac ychwaith yn weithwyr pwll glo, fel sy’n cael ei gyfleu gan y cyfryngau y tu allan i Gymru. Gwelir yn y gyfres gyntaf mai pobl o gefndir tra gwahanol i’w gilydd yw aelodau’r côr a’u bod yn wynebu treialon bywyd yn ddyddiol ac yn dianc rhag eu problemau fin nos i’r ymarferion côr.
 
 
 
Drama gydag elfen o gomedi a ffantasi yw hon, sy’n archwilio’r natur ddynol a phroblemau cymdeithasol. Dywedwyd yn Golwg i rai ei ‘beirniadu’n hallt am gyfuno byd y corau meibion yng Nghymru gyda straeon am odineb, trais a brad’[i] ond yn sicr mae’r gwobrau cenedlaethol y mae wedi ennill yn profi bod hon yn gyfres sy’n gwbl Gymreig ond eto’n gelfydd iawn, yn medru denu gwylwyr o du draw i glawdd offa.
 
 
 
Mae presenoldeb Davina, arweinyddes newydd y côr, yn cynrychioli’r femme fatale cyfrin. Nid yw’n hudo’r dynion yn uniongyrchol i’w gwely, yn hytrach, mae’n chwarae gemau â hwy ac yn eu chwarae oddi ar ei gilydd gan wneud iddynt feddwl ei bod yn eu hoffi a pheri iddynt fod yn genfigennus o’i gilydd. Gwelir y dynion yn ymladd am ei sylw yn gyson – gweler Eurof yn y nawfed bennod yn gwylio Ian a Davina yn llechwraidd wrth iddynt eistedd yn ymyl ei gilydd yn y parti priodas yn sgwrsio. Heria Eurof Ian yn yr ystafell ymolchi - ‘Wyt ti’n caru Davina?!’:
 
 
 
Her presence disturbs the domestic and professional equilibrium of the community; is she a force for good – emancipating, reconciliatory – or is she responsible for awakening darker, more dangerous energies? The series probes the sexual, emotional and psychological lives of a society hamstrung by tensions, fears and hangups.[ii]
 
 
 
Daw dyfodiad Davina i’r gymdeithas â nifer o broblemau ac ofnau personol pobl i’r fei wrth iddynt ddechrau cymharu ei gilydd â’u cyfoedion. Mae Judith, gwraig Andy, yn gwbl ymwybodol o’r modd y mae Davina’n medru dylanwadu ar ei gŵr ac mae’n rhybuddio Davina i gadw draw oddi wrth Andy. Davina yw’r drwg yn y caws drwy gydol y gyfres ac ni fyddai aelodau’r côr wedi mynd i hanner yr helynt petai dyn wedi cael ei benodi i gymryd [[lle]] Walford. Ysgoga Davina deimladau o baranoia, diffyg ymddiriedaeth, cariad ac ofn ymysg trigolion y pentref ac mae gan nifer ohonynt reswm bersonol dros ei bygwth gyda llythyrau annifyr. Gwelir ei chariad ei hun yn ymddwyn yn genfigennus o’r ffaith ei bod yn gwisgo’r mwclus drudfawr a gafodd gan Brian yn anrheg. Arweiniodd ei pherthynas ag Ian at genfigen Helen (gwraig Ian) ac fe’i gwelir yn loetran y tu allan i gartref Davina yn ei gwylio drwy’r ffenestri. Rhybuddia Glyn y côr yn y bennod agoriadol amdani:
 
 
 
Mae’n fenyw ddansheris, ry’ch chi’n gofyn am drwbwl bois, rhedodd hi bant ’da dyn priod, briododd hi hwnnw, na’th e farw, ga’th hi afael ar Sais wedyn’ny, a mae newydd symud nôl i’r ardal a stico’i thad mewn cartref hen bobl...’na beth mae nhw’n gweud yntyfe...[iii]
 
 
 
Sylwer ar sut y mae cefndir Davina’n adnabyddus drwy’r ardal er iddi fyw oddi yno am flynyddoedd – dyma fywyd gwledig ar ei mwyaf busneslyd. Y math hon o gymuned glós sy’n medru lleddfu ofnau rhai pobl, ond ar yr un adeg yn medru mygu cymeriad eraill. Nid oes modd cuddio cyfrinachau oddi wrth eich cymdogion ac mae’r elfen hon yn gallu esgor ar glawstraffobia cymdeithasol. Sylwer ar Judith yn cymharu ei merch, Gwenllian, yn feunyddiol â merch lawr y stryd sy’n gwneud yn well na hi yn yr ysgol. Yn ogystal, mae’n rhaid i Judith gael yr hot-tub yna cyn i rywun arall yn y pentref ei churo hi. Dengys y gyfres y math o feddylfryd gystadleuol sy’n bodoli rhwng ffrindiau a chymunedau, a gwthia Siwan Jones yr elfen hon ym mhersonoliaethau’r cymeriadau i’w gyfleu mewn modd comig.
 
 
 
Trwy gyfuno’r llon gyda’r lleddf, cyflwynir ystod eang o brofiadau bywyd aelodau’r côr yn y gyfres hon. O’r athro ysgol sy’n debycach at oen llywaeth na dyn sy’n agos at ei drideg, i’r cyfreithiwr sy’n dyheu am gael dianc o’i swyddfa a bod yn ganwr byd enwog, i’r cyfeilydd ar ei bensiwn sy’n gweld ysbrydion, i’r gŵr sydd mewn perthynas treisgar â’i wraig – mae hanes y dynion yn amrywiol. Daw rhai golygfeydd ar ffurf ôl-fflachiadau wrth i’r camera banio ar draws y côr yn canu (naill ai mewn ymarfer neu cyngerdd) ac fe arhosir gydag un o’r cymeriadau i gael cipolwg ar ddigwyddiadau diweddar yn ei fywyd. Symudir yn chwim o un stori i’r llall, sy’n ennyn ac yn dal sylw’r gwylwyr.
 
 
 
Mae’r golygfeydd o ffantasi yn ysgafnhau’r straeon dwys wrth i’r gwylwyr cael cipolwg o ddyheadau carwriaethol y dynion – gan amlaf i gusannu a chanu gyda Davina. Datgelir o fewn y ffantasïau i ba eithafion y mae teimladau’r dynion tuag at Davina. Ychwanegir felly at y dirgelwch o bwy sydd yn anfon llythyron maleisus at Davina yn ei bygwth (mewn modd rhyfedd iawn gan gyfeirio at Ribena on the wall). Yn ogystal â hyn, dirgelwch yw gwir deimladau Davina tuag at y dynion – gwelir hi’n closio at sawl aelod o’r côr ond nid yw byth yn gwireddu ei freuddwyd drwy ei gusannu a datguddio ei chariad tuag ato. Siom a gaiff y dynion – hyd yn oed Glyn, a oedd yn y [[lle]] cyntaf yn erbyn ei chymryd yn arweinyddes – wrth iddynt ei gwylio’n hudo dyn ifanc arall yn gariad iddi.
 
 
 
Dyma gyfres am bobl, am dreialon bywyd, ac am ddigrifwch bywyd. Ysgrifennwyd hi’n gelfydd gan awdures sy’n medru adnabod a darlunio cymeriadau mewn modd ffraeth yn ogystal â chynnil. Mae hi’n ddrama sy’n unigryw i Gymru wrth iddi gymryd y traddodiad corawl a’i gosod mewn cyd-destun cyfoes a chyffrous.
 
 
 
[i] Dienw, ‘Côr y ffantasïau’, Golwg 18/25 (2 Mawrth 2006), 16-17.
 
 
 
[ii] Damien Walford Davies, ‘Coasting, Cream Puffs and Suppressed Desire’, Planet 169 (Chwefror/Mawrth 2005), 115-117.
 
 
 
[iii] Dyfyniad o bennod 1, cyfres 1.
 
  
 
==Manylion Pellach==
 
==Manylion Pellach==
Llinell 44: Llinell 16:
  
 
'''Cyfarwyddwr'''  
 
'''Cyfarwyddwr'''  
[[Rhys Powys]] (p.1-4), [[Endaf Emlyn]] (5-7), [[Emlyn Williams]] (8-10)  
+
[[Rhys Powys]] (p. 1–4), [[Endaf Emlyn]] (5–7), [[Emlyn Williams]] (8–10)  
  
 
'''Sgript gan'''  
 
'''Sgript gan'''  
Llinell 64: Llinell 36:
 
*Steffan Rhodri (Andy)
 
*Steffan Rhodri (Andy)
 
*Beth Robert (Judith)
 
*Beth Robert (Judith)
*Ifan Huw [[Dafydd]] (Pete)
+
*Ifan Huw Dafydd (Pete)
 
*Alun ap Brinley (Ian)
 
*Alun ap Brinley (Ian)
 
*Eiry Thomas (Helen)
 
*Eiry Thomas (Helen)
Llinell 72: Llinell 44:
  
 
===Cast Cefnogol===
 
===Cast Cefnogol===
*Peter McNally - Tony
+
*Peter McNally Tony
*Rebecca Harries - Sian Eleri
+
*Rebecca Harries Sian Eleri
*Gaynor Morgan Rees - Aeronwy
+
*Gaynor Morgan Rees Aeronwy
*Ieuan Davies - Cledwyn
+
*Ieuan Davies Cledwyn
*Marion Fenner - Sali
+
*Marion Fenner Sali
*Rhiannydd Wynne - Eirlys
+
*Rhiannydd Wynne Eirlys
*Maria Pride - Dwynwen
+
*Maria Pride Dwynwen
*Arwel Davies - Rhodri
+
*Arwel Davies Rhodri
*Rhodri Miles - Meurig
+
*Rhodri Miles Meurig
*Ernest Evans - Caradog
+
*Ernest Evans Caradog
*Iestyn Jones - John
+
*Iestyn Jones John
*Siwan Morris - Llinos
+
*Siwan Morris Llinos
*Einir Siôn - Catrin
+
*Einir Siôn Catrin
*Karen Wynne - Janet
+
*Karen Wynne Janet
*Morgan Hopkins - Maldwyn
+
*Morgan Hopkins Maldwyn
*Delyth Wyn - Susan
+
*Delyth Wyn Susan
*Josh Alcock - Simon
+
*Josh Alcock Simon
*Menna Trussler - Nan
+
*Menna Trussler Nan
*Llew Davies - Greg
+
*Llew Davies Greg
  
 
===Ffotograffiaeth===  
 
===Ffotograffiaeth===  
Llinell 108: Llinell 80:
  
 
===Cydnabyddiaethau Eraill===
 
===Cydnabyddiaethau Eraill===
*Cynhyrchydd Gweithredol - Catrin Lewis Defis
+
*Cynhyrchydd Gweithredol Catrin Lewis Defis
*Cydlynydd Ôl-gynhyrchu - Carys Williams
+
*Cydlynydd Ôl-gynhyrchu Carys Williams
*Teitlau - Eclipse
+
*Teitlau Eclipse
*Adnoddau - EVS
+
*Adnoddau EVS
*Coreograffydd - Debbie Chapman
+
*Coreograffydd Debbie Chapman
*Trefnydd Cerddorol - Sioned James
+
*Trefnydd Cerddorol Sioned James
*Ymgynghorydd Sgript - Emyr Wyn
+
*Ymgynghorydd Sgript Emyr Wyn
*Cydlynydd - Gail Jenkins
+
*Cydlynydd Gail Jenkins
*Dilyniant - Llinos Wyn Jones
+
*Dilyniant Llinos Wyn Jones
*Cyfarwyddwr Celf - Lee Gammon
+
*Cyfarwyddwr Celf Lee Gammon
*Gwisgoedd - Sarah-Jane Perez, Iona Williams (arolygydd gwisgoedd)
+
*Gwisgoedd Sarah-Jane Perez, Iona Williams (arolygydd gwisgoedd)
*Coluro - Julie Fox Pritchard, Sarah Astley (cynorthwy-ydd)
+
*Coluro Julie Fox Pritchard, Sarah Astley (cynorthwy-ydd)
  
 
===Manylion Technegol===
 
===Manylion Technegol===
Llinell 129: Llinell 101:
  
 
'''Gwobrau:'''
 
'''Gwobrau:'''
*Wendy Richards - BAFTA Cymru (2005) - 'Y Golygydd Gorau'
+
{| class="wikitable sortable" style="width:100%;"
*Gwyl Ffilm a Theledu Geltaidd (2006) - 'Cyfres ddrama orau'r Wyl'
+
|- style="text-align:center;"
*Gwyl Rose d'Or (2007) - 'Gwobr Rhosyn Aur - sebon/drama ysgafn'
+
! Gŵyl ffilmiau
 +
! Blwyddyn
 +
! Gwobr
 +
! Derbynnydd
 +
|-
 +
| BAFTA Cymru || 2005 || Y Golygydd Gorau || Wendy Richards
 +
|-
 +
| Gŵyl Ffilm a Theledu Geltaidd || 2006 || Cyfres ddrama orau’r Ŵyl ||
 +
|-
 +
| Gŵyl Rose d’Or || 2007 || Gwobr Rhosyn Aur sebon/drama ysgafn ||
 +
|}
  
 
==Manylion Atodol==
 
==Manylion Atodol==
 
===Adolygiadau===
 
===Adolygiadau===
Damien Walford Davies, 'Scene', Planet, 169 (Chwefror/Mawrth 2005), 115-117.
+
* Damian Walford Davies, ‘Scene’, ''Planet'', 169 (Chwefror/Mawrth 2005), 115–117.
 +
 
 
===Erthyglau===
 
===Erthyglau===
'Daeth tro ar fyd seren Jiwdas'. Y Cymro (26 Ionawr 2005), 18.
+
*‘Daeth tro ar fyd seren Jiwdas’. ''Y Cymro'' (26 Ionawr 2005), 18.
 +
 
 +
*Llinos Dafydd, ‘Côr y Ffantasïau’, ''Golwg'', 18/25 (2 Mawrth 2006), 16–17.
 +
 
 +
*Lyn Lewis Dafis, ‘Cerrig Milltir’, ''Barn'', 530 (Mawrth 2007), 20–21.
  
Llinos [[Dafydd]], 'Côr y Ffantasïau', Golwg, 18/25 (2 Mawrth 2006), 16-17.
+
*Matt Withers, ‘DO’R BLIMEY!’, ''Wales on Sunday'' (13 Mai 2007), 14.
  
Lyn Lewis Dafis, 'Cerrig Milltir', Barn, 530 (Mawrth 2007), 20-21.
+
==Fideos==
  
Matt Withers, 'DO'R BLIMEY!', Wales on Sunday (13 Mai 2007), 14.
+
Mae cyfres gyntaf Con Passionate ar gael i ddefnyddwyr cofrestredig yn Llyfrgell y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
  
 +
<html><iframe src="https://llyfrgell.porth.ac.uk/embed.aspx?catid=452&bw=0&bc=000000&searchbox=false&view=0" width="500" height="320" frameborder="0" /></html>
  
 +
{{CC BY}}
 +
[[Categori:Ffilm a Theledu Cymru]]
 +
[[Categori:Cyfresi Drama]]
 +
[[Categori:Cynyrchiadau]]
  
[[Category: Yn y Ffrâm]]
+
__NOAUTOLINKS__
[[Category: Cyfresi Drama]]
 
[[Categori: Cynyrchiadau]]
 

Y diwygiad cyfredol, am 15:45, 24 Tachwedd 2016

Gweler sylwebaeth arbenigol am Con Passionate gan Michelle Davies fan hyn

Crynodeb

Cyfres deledu am gôr meibion Gwili yn delio gydag arweinyddes newydd, Davina y fenyw ddeniadol, chwareus, wedi i Walford eu harweinydd farw. Ceir cipolwg o fywydau amrywiol aelodau’r côr yn gymysg â golygfeydd o’u cyngherddau a’u ymarferion. Yn ogystal â hyn, daw golygfeydd ffantasïol o ganu yn gymysg â'r golygfeydd realaidd, gan amlaf ffantasïau’r dynion o ganu a bod mewn cariad â Davina ydynt.

Manylion Pellach

Teitl Gwreiddiol Con Passionate

Blwyddyn 2005 (Cyfres 1) Hyd y Ffilm 10 pennod

Dyddiad y Darllediad Cyntaf 2 Ion 2005

Cyfarwyddwr Rhys Powys (p. 1–4), Endaf Emlyn (5–7), Emlyn Williams (8–10)

Sgript gan Siwan Jones

Cynhyrchydd Paul Jones

Cwmnïau Cynhyrchu Apollo

Genre Drama, Ffantasi

Cast a Chriw

Prif Gast

  • Shân Cothi (Davina)
  • Phylip Hughes (Brian)
  • Steffan Rhodri (Andy)
  • Beth Robert (Judith)
  • Ifan Huw Dafydd (Pete)
  • Alun ap Brinley (Ian)
  • Eiry Thomas (Helen)
  • William Thomas (Glyn)
  • Toni Caroll (Glesni)
  • Matthew Gravelle (Eurof)

Cast Cefnogol

  • Peter McNally – Tony
  • Rebecca Harries – Sian Eleri
  • Gaynor Morgan Rees – Aeronwy
  • Ieuan Davies – Cledwyn
  • Marion Fenner – Sali
  • Rhiannydd Wynne – Eirlys
  • Maria Pride – Dwynwen
  • Arwel Davies – Rhodri
  • Rhodri Miles – Meurig
  • Ernest Evans – Caradog
  • Iestyn Jones – John
  • Siwan Morris – Llinos
  • Einir Siôn – Catrin
  • Karen Wynne – Janet
  • Morgan Hopkins – Maldwyn
  • Delyth Wyn – Susan
  • Josh Alcock – Simon
  • Menna Trussler – Nan
  • Llew Davies – Greg

Ffotograffiaeth

  • Ray Orton

Dylunio

  • Bill Bryce

Cerddoriaeth

  • John Rea

Sain

  • Greg Provan

Golygu

  • Wendy Richards

Cydnabyddiaethau Eraill

  • Cynhyrchydd Gweithredol – Catrin Lewis Defis
  • Cydlynydd Ôl-gynhyrchu – Carys Williams
  • Teitlau – Eclipse
  • Adnoddau – EVS
  • Coreograffydd – Debbie Chapman
  • Trefnydd Cerddorol – Sioned James
  • Ymgynghorydd Sgript – Emyr Wyn
  • Cydlynydd – Gail Jenkins
  • Dilyniant – Llinos Wyn Jones
  • Cyfarwyddwr Celf – Lee Gammon
  • Gwisgoedd – Sarah-Jane Perez, Iona Williams (arolygydd gwisgoedd)
  • Coluro – Julie Fox Pritchard, Sarah Astley (cynorthwy-ydd)

Manylion Technegol

Lliw: Lliw

Gwlad: Cymru

Iaith Wreiddiol: Cymraeg

Gwobrau:

Gŵyl ffilmiau Blwyddyn Gwobr Derbynnydd
BAFTA Cymru 2005 Y Golygydd Gorau Wendy Richards
Gŵyl Ffilm a Theledu Geltaidd 2006 Cyfres ddrama orau’r Ŵyl
Gŵyl Rose d’Or 2007 Gwobr Rhosyn Aur – sebon/drama ysgafn

Manylion Atodol

Adolygiadau

  • Damian Walford Davies, ‘Scene’, Planet, 169 (Chwefror/Mawrth 2005), 115–117.

Erthyglau

  • ‘Daeth tro ar fyd seren Jiwdas’. Y Cymro (26 Ionawr 2005), 18.
  • Llinos Dafydd, ‘Côr y Ffantasïau’, Golwg, 18/25 (2 Mawrth 2006), 16–17.
  • Lyn Lewis Dafis, ‘Cerrig Milltir’, Barn, 530 (Mawrth 2007), 20–21.
  • Matt Withers, ‘DO’R BLIMEY!’, Wales on Sunday (13 Mai 2007), 14.

Fideos

Mae cyfres gyntaf Con Passionate ar gael i ddefnyddwyr cofrestredig yn Llyfrgell y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.