Corau Meibion

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Bu dynion yn cydganu yng Nghymru, mewn eglwysi a mynachlogydd ac yn y dafarn, ers yr Oesoedd Canol. Ond daeth bri arbennig ar y côr meibion yn sgil diwydiannu a thwf pentrefi diwydiannol yn ail hanner y 19g., ac mae’n parhau hyd heddiw.

O’r 1860au, er mwyn amrywio’r arlwy mewn cyngherddau, gwelid adran y dynion o gorau cymysg yn canu darnau a oedd wedi’u trefnu neu eu hysgrifennu ar gyfer meibion yn unig; bu cystadleuaeth yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe 1863 ‘ar gyfer dynion o gorau cymysg’, ac mae digon o dystiolaeth mai ffurfio adran o’r fath a wnaed gan gorau adnabyddus Dyffryn Tawe, Aberdâr a Dowlais. Erbyn yr 1870au roedd corau meibion annibynnol yn frith, yng Nghaernarfon (Côr Engedi) ac mewn ardaloedd diwydiannol fel Blaenau Ffestiniog a chymoedd y de lle’r oedd dynion ifanc yn heidio i gael gwaith, ac yn awyddus am adloniant. Un o’r ffyrdd o gael hynny oedd trwy gydganu gyda chymdogion a chydweithwyr yn y pwll a’r chwarel, y rheilffyrdd a’r dociau.

Yn chwarter olaf y ganrif, gyda chynnydd aruthrol yn y boblogaeth yn sgil datblygiad dramatig y diwydiant glo, daeth corau meibion y Rhondda i amlygrwydd mewn cyngherddau ac eisteddfodau. Un o’r corau cyntaf i wneud eu marc oedd y Rhondda Glee Society a ffurfiwyd yn 1877. Canig hwyliog ysgafn i ddim mwy na llond llaw o ddynion oedd y glee Saesneg, a bu partïon ychydig yn fwy o ryw ugain o ddynion yn bod yng Nghymru er yr 1850au, ond cyn hir byddai cytganau cyffrous Joseph Parry a darnau cyhyrog o’r cyfandir yn fwy at ddant y Cymry. Gyda’u datganiad o ‘Pererinion’ Parry cipiodd y Gleemen yr wobr gyntaf yn Eisteddfod Ffair y Byd yn Chicago yn 1893.

Eu gelynion mawr oedd côr meibion Treorci a ffurfiwyd yn 1885, a bu’r ddau gôr yn ffraeo hyd at ymladd ambell waith. Ar sail eu buddugoliaeth hwythau yn Eisteddfod Genedlaethol Llanelli yn 1895 gwysiwyd Treorci i ganu o flaen y Frenhines Victoria yn Windsor, dair blynedd cyn i’r Gleemen gael gwahoddiad tebyg. Ymwelodd côr Treorci ag Unol Daleithiau America yn 1906, ac aethant ar daith o 30,000 o filltiroedd o gwmpas y byd yn 1908–9; roedd y Gleemen eisoes wedi ymweld â Chymry alltud Pennsylfania yn 1889. Erbyn troad y ganrif, felly, roedd nodweddion traddodiad corau meibion Cymru wedi eu creu: yr hoffter o ddarnau cyffrous a datganiad grymus ohonynt, aelodau a oedd yn ddieithriad o’r dosbarth gweithiol ac yn rhifo hanner cant neu fwy mewn nifer; nawdd brenhinol; y cyfle i deithio; cystadlu ffyrnig gyda chefnogwyr niferus, brwd a oedd yn eu dilyn fel petaent yn dimau ffwtbol – a gamblo ar y canlyniad hefyd.

Erbyn diwedd y 19g. roedd gan bron pob pentref a oedd â phoblogaeth o ychydig filoedd gôr meibion, yn arbennig yng nghymoedd poblog y de lle’r oedd llwyddiant y côr yn destun balchder bro ac yn fodd i ddiffinio’i hunaniaeth. Ymhlith y corau mwyaf enwog yr oedd Dowlais o dan Harry Evans, yr oedd eu sain goeth a’u disgyblaeth gerddorol yn eu galluogi i gael y gorau hyd yn oed ar oreuon Lloegr fel Côr Orpheus Manceinion a drechwyd ganddynt yn Eisteddfod Genedlaethol Lerpwl yn 1900.

Côr nodedig arall oedd Pontycymer, a gafodd fuddugoliaeth dros ddeg o gorau eraill mewn cystadleuaeth chwedlonol a barodd am bump awr o flaen torf o 20,000 yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe yn 1891. ‘Pererinion’ Joseph Parry, ynghyd â ‘Dinistr Gaza’ gan y Ffrancwr L. de Rillé (roedd ei ‘Martyrs of the Arena’ eisoes yn ffefryn), oedd y darnau prawf, yr union ddarnau cynhyrfus a oedd wrth fodd cantorion Cymreig a’u cynulleidfaoedd, ac roedd cyfansoddwyr fel Parry a’i ddisgyblion T. Maldwyn Price, Daniel Protheroe a D. Christmas Williams yn feistri ar y grefft o gyfuno’r cyffrous a’r ymbilgar. Yn hynny o beth dilynent esiampl Ffrancwyr fel de Rillé, Gounod (‘Cytgan y Milwyr’ o Faust, ‘Wrth Afonydd Babilon’) ac Adolphe Adam (‘Comrades in Arms’) a oedd yn ysbrydoliaeth iddynt. Gall sawl côr sy’n dal i ganu’r cytganau hyn olrhain eu gwreiddiau i’r cyfnod 1880–1914, corau fel Treorci, Dowlais, y Dyfnant (1895) yn ardal Abertawe, ac ym Mlaenau Gwent corau Beaufort (1897) a Thredegar (1909).

Yng ngogledd Cymru, er na welwyd diwydiannu ar yr un raddfa, ceir yr un cysylltiad rhwng y côr, y pwll a’r chwarel. Ardal o weithgarwch cerddorol neilltuol oedd honno o gwmpas pentref glofaol Rhosllannerchruog; yno, yn 1892, penderfynodd dynion côr cymysg y Rhos ffurfio parti meibion ar wahân. Roedd pentrefi chwarelyddol Gwynedd hwythau yn enwog am eu corau meibion, gyda chôr y Moelwyn (1891) ym Mlaenau Ffestiniog yn tynnu ei aelodau o chwarel yr Oakeley. Llwch y chwarel, meddid, oedd yn gyfrifol am sain goeth baswyr y gogledd, a llwch glo am denoriaid mwy telynegol y de.

Bu’r Moelwyn yn diddanu aelodau’r teulu brenhinol ar eu hymweliad â gogledd Cymru yn 1907, a buont ar daith yn Unol Daleithiau America yn 1910 ac 1911. Yn yr ail safle ar ôl côr Gleemen y Rhondda yn Eisteddfod Chicago yn 1893 roedd chwarelwyr y Penrhyn o Fethesda, côr a ffurfiwyd yn unig swydd i gystadlu yno, er iddo ddod i ben yn fuan wedi hynny, ailffurfio yn 1934 a pharhau hyd heddiw.

Roedd y blynyddoedd rhwng y ddau ryfel byd yn gyfnod o ddirwasgiad economaidd a diweithdra enbyd mewn rhannau o Gymru gyda bron hanner miliwn o bobl yn ymfudo. Caeodd pyllau a gweithfeydd ac aeth corau Treorci a Dowlais i’r gwellt. Prin oedd y cyfle i deithio’r byd yn awr; tra bu saith côr o Gymru ar daith yn Unol Daleithiau America yn 1910, yr unig un i ddilyn yn ôl eu traed yn awr oedd y Welsh Imperial Singers, dyrnaid o gantorion dethol o dan arweiniad Ffestyn Davies, a fu yno sawl gwaith rhwng 1926 ac 1939. Ond roedd y patrwm yn amrywio. Yn union fel y gallai’r Gleemen ymarfer ddwywaith y dydd cyn ennill Eisteddfod Ffair y Byd yn 1893 oherwydd streic yn y maes glo, ffurfiwyd côr mawr Williamstown yn y Rhondda yn ystod anghydfod 1910–11. Mewn amgylchiadau tebyg y daeth côr Cwmbach ger Aberdâr i fod yn 1921, a chôr Pendyrus yn y Rhondda Fach yn 1924. Serch hynny, cyn bo hir byddai 80% o gantorion Pendyrus yn ddi-waith.

Nid oedd effeithiau’r Dirwasgiad gynddrwg yn y gorllewin a’r gogledd. Fel y cychwynnodd Côr Mawr cymysg Ystalyfera ar gyfnod euraid o 1926, y mwyaf llwyddiannus ymysg y corau gwrywaidd oedd corau meibion Abertawe (o dan Llew Bowen ac yna Ivor Owen) a Threforys Unedig, fel y’i gelwid cyn iddo hollti yn 1935 pan ffurfiwyd yr Orpheus o dan Ivor Sims, eu harweinydd hyd at ei farwolaeth yn 1961.

Daliai gornestau’r Eisteddfod Genedlaethol i fod yn achlysuron dramatig a chyffrous, gyda’r corau mawr yn rhifo dros gant o aelodau a’r torfeydd a heidiai i’w clywed yn rhifo ugain mil. Er mai corau’r de oedd y prif atyniad nid oedd corau’r gogledd, er eu bod yn llai o ran maint, ar ei hôl hi. Ffurfiwyd côr o chwarelwyr a ffermwyr yn Nyffryn Nantlle yn 1932 o dan y chwedlonol C. H. Leonard, côr Llangwm gan amaethwyr yn Sir Ddinbych yr un flwyddyn, a chôr Trelawnyd, Sir y Fflint, yn 1933. Roedd gwreiddiau’r corau hyn ym mhartïon y ganrif flaenorol ond ffurfio, ymddatod ac ail-greu fu eu hanes, fel y Penrhyn.

Gyda dyfodiad heddwch yn 1945 ac adfywiad diwydiannol, daeth tro ar fyd yn hanes y corau meibion. Lle’r oedd yr Eisteddfod Genedlaethol, yn yr 1930au, wedi bod yn cynnal cystadlaethau ar gyfer corau’r di-waith a’r Cymry alltud, yn awr cafwyd rhai yn benodol ar gyfer gweithfeydd unigol, a daeth Eisteddfod y Glowyr ym Mhorth-cawl bob Hydref yn ddyddiad pwysig yn y calendr corawl. Tra bu i Orpheus Treforys a’u sain melfedaidd, coeth, barhau â’u llwyddiant yn y cyfnod cyn y rhyfel trwy ennill yn yr Eisteddfod Genedlaethol bedair gwaith o’r bron yn 1946–9, y symbol grymusaf o’r hinsawdd newydd oedd atgyfodiad côr meibion Treorci yn 1946 o dan John Haydn Davies, a fu’n eu harwain hyd 1969. Nid yn unig buont bron yn ddiguro gydol yr 1950au a’r 1960au ond cyrhaeddwyd, yn eu gwaith nhw, safon newydd yng nghanu corau meibion Cymru, a gwelwyd ymestyn y repertoire traddodiadol i gynnwys alawon Almaenig, motetau a gweithiau newydd gan gyfansoddwyr cyfoes fel Mansel Thomas.

Troediodd Glynne Jones, arweinydd Pendyrus rhwng 1962 a’i farwolaeth yn 2000, ymhellach ar hyd y llwybr hwn. Er ei fod yn arddel yr emynau poblogaidd a’r ‘Amen’ ddisgwyliedig, cefnodd Arglwydd Pendyrus, fel y’i gelwid, ar y llwyfan eisteddfodol i ganolbwyntio ar gerddoriaeth o’r 16g. a’r 17g. a gweithiau newydd, dieithr i’r glust gan gyfansoddwyr fel David Wynne ac Alun Hoddinott. Gan gorau meibion y Rhos, o dan arweiniad Aled Phillips, a Rhisga (1970), yn ardal Casnewydd, o dan Martin Hodson y cafwyd y repertoire mwyaf anturus erbyn dechrau’r 21g.

Ar wahân i’r corau meibion mawr enwog fel Treorci, Y Rhos, Pendyrus a Threforys, mae’r mwyafrif o gorau meibion sy’n bodoli heddiw yn dyddio o’r 1960au neu wedi hynny. Yn y degawd hwnnw atgyfnerthwyd yr her i gorau mawr y de o gyfeiriad Rhosllannerchrugog (o dan arweiniad Colin Jones erbyn hynny) a’r Brythoniaid o Flaenau Ffestiniog a ffurfiwyd gan Meirion Jones yn 1964. Gan adlewyrchu eto’r cyswllt hanesyddol â diwydiant trwm, ffurfiwyd côr ym Mrymbo ger Wrecsam yn 1955, gyda’i aelodau’n dod o byllau’r Hafod a’r Bers.

Erbyn yr 1960au roedd cwmni Ferodo yn cyflogi dros 500 o weithwyr yng Nghaernarfon a dyna gnewyllyn côr meibion y dref honno pan ffurfiwyd ef yn 1967. Ond corau o ardaloedd gwledig oedd rhai Froncysyllte (1947), Penybontfawr (1951), Bro Dysynni (1967) a Bro Glyndŵr (1973). Felly hefyd Gôr Godre’r Aran, o lannau cerddgar Llyn Tegid, a sefydlwyd gan Tom Jones, Llanuwchllyn, yn 1951 fel parti cerdd dant ond a drowyd gan Eirian Owen yn gôr meibion o’r radd flaenaf a fedrai herio goreuon y byd yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen lle nad yw corau meibion Cymru yn gyffredinol wedi cael fawr o lwyddiant.

Gwahanol eto oedd cefndir corau Môn fel Hogia’r Ddwylan (1966) a’r Traeth (1969) ynghyd â’r ddau gôr arfordirol y Maelgwn o Gyffordd Llandudno (1970) a Cholwyn (1972). Yn y de hefyd nid y diwydiannau trymion bellach oedd cefndir corau meibion fel Talgarth, Cas-gwent, Hendy-gwyn, Blaen-porth, Dinbych-y-pysgod na’r Bont-faen. Serch hynny, gweithwyr alcam a dur oedd sylfaen corau meibion Pontarddulais (1962) a Llanelli (1969), dau gôr amryddawn, cyffrous eu sain sydd wedi ennill llawryfon lluosog yn Eisteddfod y Glowyr, gwyliau Pontrhydfendigaid ac Aberteifi, ac yn arbennig yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Ar ddechrau’r 21g. mae repertoire sydd yn ei hanfod yn geidwadol bellach hefyd yn cynnwys caneuon pop ac eitemau o’r theatr gerdd. Deil y corau meibion i ffynnu yn eu cadarnleoedd hanesyddol fel y Rhondda, o gwmpas Abertawe ac yn y gogledd-ddwyrain, ond daeth corau newydd i’r amlwg hefyd megis Ar Ôl Tri a Bechgyn Ysgol Gerdd Ceredigion, Hogia’r Ddwylan, Bois y Castell o Ddyffryn Tywi a chorau meibion Taf a Bro Taf o Gaerdydd. Mae gan glybiau rygbi fel Treforys eu corau meibion, a cheir hefyd grwpiau o gantorion hoyw (e.e. y South Wales Gay Men’s Chorus).

Y llwyddiant mwyaf ysgubol yw hanes Only Men Aloud gyda’u trefniannau cymhleth a’u coreograffi slic, enillwyr y gystadleuaeth deledu Last Choir Standing yn 2008. Un arall o greadigaethau sylfaenydd Only Men Aloud, yr egnïol Tim Rhys-Evans, yw Only Boys Aloud a ffurfiwyd ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd yn 2010: 150 o fechgyn yn eu harddegau o gymoedd difreintiedig Morgannwg – prawf fod traddodiad y côr meibion yno, fel mewn sawl man arall yng Nghymru, yn dal yn fyw (gw. hefyd Arweinyddion).

Gareth Williams

Llyfryddiaeth

  • G. Williams, Valleys of Song: Music and Society in Wales, 1840–1914 (Caerdydd, 2003)
  • ———, Do You Hear the People Sing? The Male Voice Choirs of Wales (Llandysul, 2015)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.