Corau Merched

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Gellir dweud bod corau merched yng Nghymru wedi bodoli dan gysgod y corau meibion a’r corau cymysg yn y gorffennol ond eu bod wedi ennill eu plwyf erbyn diwedd yr 20g. Cysylltir canu y llu corau meibion yng Nghymru yn aml gyda’r ardaloedd poblog a diwydiannol, tra mae’r corau merched yn fwy gwasgaredig ac yn llai niferus. Teg yw dweud hefyd fod corau merched – yn enwedig yng ngogledd Cymru – yn tueddu i gael eu cysylltu gyda math penodol o ganu, megis cerdd dant a chanu gwerin. Yn ddi-os, cyfrannodd adeiladu capeli ar hyd a lled Cymru yn sylweddol i’r twf yn y diwylliant corawl. Yn Hendy-gwyn ar Daf yn 1873 roedd adeiladu capel newydd y Tabernacl wedi esgor ar nifer o gorau newydd yn y gymdogaeth, yn eu mysg gôr merched. Erbyn 1897 roedd Côr Merched Brenhinol Cymru wedi’i sefydlu, yn cael ei arwain gan Clara Novello Davies (1861–1943), a theithiodd y merched trwy wledydd Prydain a thramor yn cynnal cyngherddau. Mae llun ar gael hefyd o’r 19g. o Gôr Merched Aberhonddu mewn gwisg Gymreig.

Gwelwyd mwy o gorau merched yng Nghymru yn yr 20g. a chwaraeodd yr Eisteddfod Genedlaethol ran allweddol yn y datblygiad hwn. Yr ail ddylanwad o bwys oedd sefydlu Cymdeithas Corau Merched Cymru yn nes at ddiwedd y ganrif, gyda Chôr Merched Cefn Hengoed (a sefydlwyd yn 1947) yn un o’i sylfaenwyr. Sefydlwyd y gymdeithas hon yn bennaf i ddod â chorau llai eu maint at ei gilydd a chorau merched o dde Cymru, yn bennaf, oedd yr aelodau. Clywyd Côr Merched Cymreig Brenhinol Pontypridd, a adwaenid fel Côr Madam Muriel Jones, yn perfformio i Ddug a Duges Caint yng Nghaerdydd yn 1937.

Enillwyd y brif wobr i gorau merched yn Eisteddfod Ryngwladol gyntaf Llangollen yn 1947 gan Gymdeithas Gorawl Merched Penarth, ac yn Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst yn 1951 bu Côr Merched Llanberis yn fuddugol yn y brif gystadleuaeth i gorau merched. Enillodd Côr Merched Aelwyd Llanuwchllyn y brif wobr i gorau aelwydydd yn 1956 o dan eu harweinydd Emrys Bennett Owen (1911–88), a fu hefyd, yn ddiweddarach, yn arwain Côr Gwerin y Gader (Dolgellau). Sefydlwyd y côr hwnnw yn 1972 a pharhaodd am yn agos at ddeng mlynedd ar hugain.

Gwelwyd nifer o gorau merched llai eu maint yn yr ardaloedd diwydiannol – rhai ohonynt wedi esblygu o gorau cymysg neu wedi torri’n rhydd oddi wrthynt, eraill yn cynnwys perthnasau i aelodau’r corau meibion. Dechreuodd côr merched presennol Coro Cantabile fel parti merched yn 1959 dan arweiniad Dorothy Adams Jeremiah, cyn-drefnydd cerdd Sir Fynwy. Roedd Côr Merched Caerffili, a adwaenid hefyd fel Cantorion Margaret Roach, wedi’i sefydlu yn 1966 gyda’r cyfeilydd, Jean Davies, yn cyfeilio i Gôr Meibion Orffews Caerffili yn ogystal. Mae Côr Excelsior Merched Abertawe heddiw wedi esblygu o’r hen Gôr Merched Abertawe a sefydlwyd yn yr 20g. ac mae nifer o gorau eraill o’r un anian wedi datblygu neu wedi’u trawsnewid o’u ffurf wreiddiol.

Dechreuwyd ar gyfnod hynod lewyrchus yn hanes corau merched yng Nghymru yn sgil sefydlu Côr Merched Hafren gan Jayne Davies, Y Drenewydd, yn 1968. O dan ei chyfarwyddyd hi canwyd repertoire o safon uwch ac amrywiol, gan gynnwys ei threfniannau o ganeuon gwerin, a manteisiwyd ar gwmnïau recordio i hybu a marchnata’r deunydd. Yn dilyn eu llwyddiant ddwywaith yn olynol yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen (1977 ac 1978), gwelwyd twf mawr mewn corau merched, a oedd yn amrywiol o ran niferoedd. Rhyddhaodd Côr Telyn Teilo, o ardal Llandeilo, dair record yn y cyfnod hwn o dan eu harweinydd Noel John. Sefydlwyd Côr Merched Penydarren yn 1978, côr bychan o Ferthyr Tudful a ganai mewn cyngherddau lleol yn bennaf. Yn yr un flwyddyn sefydlwyd Cantorion Sirenian Singers yn ardal Wrecsam fel côr merched o dan arweiniad Jean Stanley Jones. Aeth y côr hwn rhagddo i ennill bri yn genedlaethol a rhyngwladol, gan gomisiynu a chanu deunydd newydd gan gyfansoddwyr cyfoes megis Alun Hoddinott, William Mathias a Brian Hughes. Yn dilyn eu llwyddiant yng Ngŵyl Gorawl Ryngwladol Bartók yn Hwngari yn 1990, ailsefydlwyd y côr fel côr cymysg. Sefydlwyd Côr Merched Edeyrnion o ardal Corwen a’r Bala dan arweiniad Manon Easter Lewis yn 1979. Ymhlith eu llwyddiannau roedd ennill un ar ddeg o weithiau yn yr Eisteddfod Genedlaethol a chipio’r cwpan arian yng Ngŵyl Gerdd Verona yn yr Eidal yn 1992.

Prin yw’r corau merched a sefydlwyd yn yr 1980au sydd wedi denu sylw cenedlaethol. Un eithriad oedd Côr Merched Glyndŵr dan arweiniad Leah Owen, a fu’n canu gwerin yn ogystal â cherdd dant. Un arall a ddaeth i sylw’r cyhoedd oedd Côr Telynau Tywi dan arweiniad y delynores a’r gantores Meinir Lloyd o Gaerfyrddin, côr a barhaodd am bymtheng mlynedd. Yn 1984 sefydlwyd Côr Merched Ynysybwl, a ymunodd ag eraill i ganu dan ambarél Cymdeithas Corau Merched Cymru.

Bu’r 1990au yn gyfnod ffyniannus o’i gymharu â’r cyfnod blaenorol a gellir dweud bod yr Eisteddfod Genedlaethol eto wedi chwarae rhan flaenllaw yn y datblygiadau. Yn 1991, a hwythau wedi bod yn barti canu ers wyth mlynedd, sefydlwyd Côr Seiriol o ardal Bangor ac Ynys Môn fel côr cerdd dant i gystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol yr Wyddgrug. Datblygodd y côr yn ddiweddarach i fod yn gôr merched sy’n canu mewn amrywiaeth o arddulliau. Maent wedi teithio’n helaeth gan ddod i’r brig mewn sawl maes ac wedi rhyddhau dau gryno-ddisg ynghyd ag un ar y cyd â Cherddorfa Genedlaethol y BBC i waith comisiwn gan y cyfansoddwr Karl Jenkins (Sain, 2004). Dan arweiniad Gwennant Pyrs, maent wedi datblygu’r grefft o ganu penillion ond hefyd wedi comisiynu gweithiau gan gyfansoddwyr megis Gareth Glyn. Dair blynedd yn ddiweddarach, yn 1994, sefydlwyd Côr Canna i gystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol Nedd a’r Cyffiniau dan arweiniad Delyth Medi Lloyd; daethant hwythau bellach yn enw adnabyddus ar ein prif lwyfannau cenedlaethol. Fel Côr Seiriol, mae eu repertoire yn cofleidio gwahanol arddulliau.

Ar ddechrau’r mileniwm newydd cododd corau merched newydd ar hyd a lled Cymru. Roedd nifer o’r corau hyn, eto, yn canu mewn amrywiol arddulliau ac mae’r hyblygrwydd hwn yn nodweddiadol o gorau merched y chwarter canrif diwethaf. Sefydlwyd Côr Persain yn 2000 gan grŵp dethol o ferched o ardal Tŷ-croes, ger Rhydaman. Sefydlwyd Corisma ym mhentref Cwm-ann, ger Llanbedr Pont Steffan, gan Carys Lewis a Sian Roberts Jones yn 2006 a Chantorion y Phoenix yn 2010 gan ddeugain o ferched o sawl cwm yn ne Cymru. Côr sylweddol ei faint yw Lleisiau’r Nant, côr cerdd dant yn bennaf, dan arweiniad Leah Owen eto, a fu’n fuddugol yn Eisteddfod Wrecsam 2011 yng nghategori’r corau merched.

Yn 2003 gwelwyd am y tro cyntaf gystadleuaeth teledu Côr Cymru (Cwmni Rondo) ar S4C gyda chategorïau ar gyfer gwahanol gorau. Y cystadleuwyr yng nghategori’r merched y flwyddyn honno oedd Côr Canna, Côr Eryri o ardal Llanrug, Lleisiau’r Cwm, Rhydaman, a Chôr Seiriol. Yn 2005 Lleisiau’r Cwm oedd yn fuddugol, dan eu harweinydd Catrin Hughes. Mae’r gystadleuaeth wedi parhau i ddenu corau newydd. Yn 2013 enillwyd y categori corau merched gan Gôr y Wiber, dan arweiniad Angharad Thomas, côr o ardal Castellnewydd Emlyn. Y côr hwn hefyd a enillodd y gystadleuaeth derfynol – y tro cyntaf i ferched gipio prif wobr y gystadleuaeth (gw. hefyd Arweinyddion).

Sioned Webb

Disgyddiaeth

  • Côr Merched Hafren, Adlais y Glyn (Sain 1990)
  • Côr Seiriol, Côr Seiriol (Sain SCD2035, 1993)
  • Côr Telyn Teilo, Goreuon 1970–91 (Sain SCD2093, 1995)
  • Côr Seiriol, Côr Seiriol 2 (Sain SCD2106, 1995)
  • Côr Telynau Tywi, Côr Telynau Tywi (Sain SCD2133, 1996)
  • Côr Merched Canna, Canna (Sain SCD2261, 2000)
  • Côr Seiriol a Cherddorfa Genedlaethol y BBC, Cantus Triquetrus [gan Karl Jenkins] (Sain SCD2404, 2004)
  • Cantorion Sirenian Singers, Christus Natus (Sain SCD2564, 2007)
  • Côr Merched y Rhos, O’r Galon (Sain SCD2602, 2011)
  • Côr Merched Corisma, Cico Sodle (Talent Cymru Tal029CD, 2015)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.