Corws

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Yn wreiddiol, parti cydadrodd o ddynion yn hen drasiedïau a chomedïau Groeg. Ei swyddogaeth oedd dehongli’r chwarae i’r gynulleidfa, gwneud sylwadau arno o bryd i’w gilydd, a chrynhoi ei ystyr ar y diwedd. Amrywia’r defnydd o’r corws rhwng y pedwar dramodydd Aischulos, Soffocles, Ewripedes ac Aristoffanes: weithiau mae’n aros yn ddiduedd, dro arall mae’n ymyrryd yn y chwarae drwy ymresymu â’r prif gymeriad; gall gadw at yr un farn drwodd, neu gall gael golwg wahanol ar bethau erbyn y diwedd.

Fel rhan o’r ymwrthod â naturiolaeth, gwelwyd atgyfodi’r corws yn rhai o ddramâu’r 20g., gyda nifer o amrywiadau. Diau y bu corws Murder in the Cathedral, T. S. Eliot, yn ysgogiad i Saunders Lewis arfer yr un ddyfais yn Buchedd Garmon, ac yna i Thomas Parry yn Llywelyn Fawr. Gall y corws gyd-lefaru’n ffurfiol, neu gall rhai cymeriadau unigol ddod at ei gilydd nes ymuno’n gorws dros dro, fel yn nrama Eliot The Family Reunion, ac yn Meini Gwagedd, J. Kitchener Davies. Gellir rhannu’r côr yn ddau hanner cyferbyniol, fel mewn rhan o Llywelyn Fawr; gall lleisiau unigol alw allan o blith y dyrfa, fel ar dro yn Buchedd Garmon. Yn rhai o ddramâu Saesneg Oes Elizabeth, yn cynnwys Henry V a Romeo and Juliet, cawsid ‘corws o un’, ac wele adfywio peth ar y ddyfais hon yn y ddrama fodern. Yn Antigone Jean Anouilh, parheir i’w alw’n ‘corws’ ; ‘Llais’ ydyw yn y Tad a’r Mab (John Gwilym Jones), ac yn Under Milk Wood neu Dan y Wenallt (Dylan Thomas) dyma ddau Lais. Yn Murder in the Cathedral ceir cyd-lefaru ond yn yr unigol, ‘fi’; ac yn Buchedd Garmon ceir y gwrthwyneb, un yn llefaru dros y dorf gan ddweud ‘ni’.

Dafydd Glyn Jones

Llyfryddiaeth

Gruffydd, W. J. (1950), Antigone Sophocles. Troswyd o Roeg (Caerdydd; Gwasg Prifysgol Cymru).

Owen, R. (1976), Jean Anouilh. Antigone. Cyfieithiad (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).

Bowen, E. (1972), Oidipos Frenin Soffocles. Cyfieithiad (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).

Bowen, E. (1979), Soffocles. Oidipos yn Colonos. Cyfieithiad (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).

Bowen, E. (1984), Soffocles. Electra. Cyfieithiad (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).

Lewis, S. (1937), Buchedd Garmon [a] Mair Fadlen (Aberystwyth: Gwasg Aberystwyth).

Jones, D. G. (gol.) (2015), Thomas Parry: Dwy Ddrama. Lladd wrth yr Allor a Llywelyn Fawr (Bangor: Dalen Newydd).


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.