Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Cothi, Shân (g.1965)"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
(Llyfryddiaeth)
 
Llinell 4: Llinell 4:
 
Cantores glasurol a phoblogaidd a enillodd ei phlwyf ym myd y Theatr Gerdd yn Llundain; bu hefyd yn gyflwynydd teledu a radio (yn Gymraeg a Saesneg) ac yn actores gyda’r fwyaf amryddawn o’i chenhedlaeth.
 
Cantores glasurol a phoblogaidd a enillodd ei phlwyf ym myd y Theatr Gerdd yn Llundain; bu hefyd yn gyflwynydd teledu a radio (yn Gymraeg a Saesneg) ac yn actores gyda’r fwyaf amryddawn o’i chenhedlaeth.
  
Fe’i ganed ym mhentref Ffarmers, yng ngogledd Sir Gaerfyrddin. Graddiodd mewn cerddoriaeth a drama yng Ngholeg [[Prifysgol]] Cymru, Aberystwyth, gan dderbyn hyfforddiant lleisiol gan Ken a Christine Reynolds, yna’i chymwyso fel athrawes, a bu’n dysgu am rai blynyddoedd yn Ysgol Uwchradd Caereinion ac Ysgol Gyfun Ystalyfera. Bu’n cystadlu’n gyson yn yr [[Eisteddfod]] Genedlaethol cyn troi’n gantores broffesiynol yn fuan wedi iddi ennill y Rhuban Glas yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Colwyn yn 1995. Bu hefyd yn aelod o’r grŵp lleisiol benywaidd poblogaidd Cwlwm, a ryddhaodd ddwy gryno-ddisg ar label Sain yn ystod yr 1990au.
+
Fe’i ganed ym mhentref Ffarmers, yng ngogledd Sir Gaerfyrddin. Graddiodd mewn cerddoriaeth a drama yng Ngholeg [[Prifysgolion a Cherddoriaeth yng Nghymru | Prifysgol]] Cymru, Aberystwyth, gan dderbyn hyfforddiant lleisiol gan Ken a Christine Reynolds, yna’i chymwyso fel athrawes, a bu’n dysgu am rai blynyddoedd yn Ysgol Uwchradd Caereinion ac Ysgol Gyfun Ystalyfera. Bu’n cystadlu’n gyson yn yr [[Eisteddfod, Cerddoriaeth a'r | Eisteddfod]] Genedlaethol cyn troi’n gantores broffesiynol yn fuan wedi iddi ennill y Rhuban Glas yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Colwyn yn 1995. Bu hefyd yn aelod o’r grŵp lleisiol benywaidd poblogaidd Cwlwm, a ryddhaodd ddwy gryno-ddisg ar label Sain yn ystod yr 1990au.
  
Bu’r cyfuniad o reddf gerddorol naturiol a thechneg gadarn yn fodd i Shân Cothi ymgodymu â ''repertoire'' cerddorol tra eang. Mae wedi perfformio ym meysydd [[oratorio]], [[opera]], theatr gerdd a [[cherddoriaeth boblogaidd]], a bydd yn aml yn canu [[caneuon traddodiadol]] Cymreig. Ymddangosodd mewn nifer o’r prif neuaddau cyngerdd, yn eu plith Canolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd, Theatr ei Mawrhydi a Neuadd Albert yn Llundain a’r Kowloon Shanghai Hotel yn Hong Kong, ynghyd â chanu gyda [[Bryn Terfel]] yng [[Ngŵyl]] y Faenol yn 2008.
+
Bu’r cyfuniad o reddf gerddorol naturiol a thechneg gadarn yn fodd i Shân Cothi ymgodymu â ''repertoire'' cerddorol tra eang. Mae wedi perfformio ym meysydd [[Oratorio, Yr | oratorio]], [[opera]], theatr gerdd a [[Poblogaidd, Cerddoriaeth | cherddoriaeth boblogaidd]], a bydd yn aml yn canu [[Gwerin, Canu a Cherddoriaeth Draddodiadol | caneuon traddodiadol]] Cymreig. Ymddangosodd mewn nifer o’r prif neuaddau cyngerdd, yn eu plith Canolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd, Theatr ei Mawrhydi a Neuadd Albert yn Llundain a’r Kowloon Shanghai Hotel yn Hong Kong, ynghyd â chanu gyda [[Terfel, Bryn (g.1965) | Bryn Terfel]] yng [[Gwyliau Cerddoriaeth | Ngŵyl]] y Faenol yn 2008.
  
Mae ei gyrfa deledu wedi cwmpasu dwy gyfres ar S4C rhwng 1998 ac 1999, ac enillodd wobr BAFTA ynghyd ag enwebiad ar gyfer un o wobrau Montreux. Un o’i phortreadau mwyaf llwyddiannus oedd rhan Carlotta yn ''The Phantom of the Opera'' Andrew Lloyd Webber, a hynny dros gyfnod o flwyddyn a hanner yn y West End. Hi hefyd oedd Davina Roberts yng nghyfres ddrama S4C ''[[Con Passionate]]'' (Apollo, 2005–8), cyfres a enillodd wobrau BAFTA a gwobr gyntaf yng ngwobrau y Rose d’Or. Yn ddiweddarach bu’n gyd-gyflwynydd y gyfres ''Bro'' ar S4C (Telesgop, 2009–12). Daeth ei brwdfrydedd heintus a’i hiwmor parod yn gyfarwydd iawn i gynulleidfaoedd yng Nghymru, er iddi brofi tristwch yn ei bywyd personol yn 2007 pan gollodd ei chymar Huw Justin Smith, gitarydd bas i’r [[grŵp roc]] Tigertailz, wythnosau’n unig wedi iddynt briodi.
+
Mae ei gyrfa deledu wedi cwmpasu dwy gyfres ar S4C rhwng 1998 ac 1999, ac enillodd wobr BAFTA ynghyd ag enwebiad ar gyfer un o wobrau Montreux. Un o’i phortreadau mwyaf llwyddiannus oedd rhan Carlotta yn ''The Phantom of the Opera'' Andrew Lloyd Webber, a hynny dros gyfnod o flwyddyn a hanner yn y West End. Hi hefyd oedd Davina Roberts yng nghyfres ddrama S4C ''[[Con Passionate]]'' (Apollo, 2005–8), cyfres a enillodd wobrau BAFTA a gwobr gyntaf yng ngwobrau y Rose d’Or. Yn ddiweddarach bu’n gyd-gyflwynydd y gyfres ''Bro'' ar S4C (Telesgop, 2009–12). Daeth ei brwdfrydedd heintus a’i hiwmor parod yn gyfarwydd iawn i gynulleidfaoedd yng Nghymru, er iddi brofi tristwch yn ei bywyd personol yn 2007 pan gollodd ei chymar Huw Justin Smith, gitarydd bas i’r [[Poblogaidd, Cerddoriaeth | grŵp roc]] Tigertailz, wythnosau’n unig wedi iddynt briodi.
  
Cydnabuwyd aml ddoniau Shân Cothi gan nifer, gan gynnwys y canwr [[Bryn Terfel]], a ddywedodd am ei record unawdol ''Passione'': ‘Cothi yr Eisteddfodwraig; Cothi y berfformwraig sioe gerdd; Cothi y cyflwynydd teledu; Cothi yr actores, ac yn olaf, ond nid yn lleiaf, Cothi yr artist recordio. Pluen arall yn ei chap!’
+
Cydnabuwyd aml ddoniau Shân Cothi gan nifer, gan gynnwys y canwr Bryn Terfel, a ddywedodd am ei record unawdol ''Passione'': ‘Cothi yr Eisteddfodwraig; Cothi y berfformwraig sioe gerdd; Cothi y cyflwynydd teledu; Cothi yr actores, ac yn olaf, ond nid yn lleiaf, Cothi yr artist recordio. Pluen arall yn ei chap!’
  
 
'''Lyn Davies'''
 
'''Lyn Davies'''

Y diwygiad cyfredol, am 16:09, 16 Mehefin 2021

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Cantores glasurol a phoblogaidd a enillodd ei phlwyf ym myd y Theatr Gerdd yn Llundain; bu hefyd yn gyflwynydd teledu a radio (yn Gymraeg a Saesneg) ac yn actores gyda’r fwyaf amryddawn o’i chenhedlaeth.

Fe’i ganed ym mhentref Ffarmers, yng ngogledd Sir Gaerfyrddin. Graddiodd mewn cerddoriaeth a drama yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, gan dderbyn hyfforddiant lleisiol gan Ken a Christine Reynolds, yna’i chymwyso fel athrawes, a bu’n dysgu am rai blynyddoedd yn Ysgol Uwchradd Caereinion ac Ysgol Gyfun Ystalyfera. Bu’n cystadlu’n gyson yn yr Eisteddfod Genedlaethol cyn troi’n gantores broffesiynol yn fuan wedi iddi ennill y Rhuban Glas yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Colwyn yn 1995. Bu hefyd yn aelod o’r grŵp lleisiol benywaidd poblogaidd Cwlwm, a ryddhaodd ddwy gryno-ddisg ar label Sain yn ystod yr 1990au.

Bu’r cyfuniad o reddf gerddorol naturiol a thechneg gadarn yn fodd i Shân Cothi ymgodymu â repertoire cerddorol tra eang. Mae wedi perfformio ym meysydd oratorio, opera, theatr gerdd a cherddoriaeth boblogaidd, a bydd yn aml yn canu caneuon traddodiadol Cymreig. Ymddangosodd mewn nifer o’r prif neuaddau cyngerdd, yn eu plith Canolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd, Theatr ei Mawrhydi a Neuadd Albert yn Llundain a’r Kowloon Shanghai Hotel yn Hong Kong, ynghyd â chanu gyda Bryn Terfel yng Ngŵyl y Faenol yn 2008.

Mae ei gyrfa deledu wedi cwmpasu dwy gyfres ar S4C rhwng 1998 ac 1999, ac enillodd wobr BAFTA ynghyd ag enwebiad ar gyfer un o wobrau Montreux. Un o’i phortreadau mwyaf llwyddiannus oedd rhan Carlotta yn The Phantom of the Opera Andrew Lloyd Webber, a hynny dros gyfnod o flwyddyn a hanner yn y West End. Hi hefyd oedd Davina Roberts yng nghyfres ddrama S4C Con Passionate (Apollo, 2005–8), cyfres a enillodd wobrau BAFTA a gwobr gyntaf yng ngwobrau y Rose d’Or. Yn ddiweddarach bu’n gyd-gyflwynydd y gyfres Bro ar S4C (Telesgop, 2009–12). Daeth ei brwdfrydedd heintus a’i hiwmor parod yn gyfarwydd iawn i gynulleidfaoedd yng Nghymru, er iddi brofi tristwch yn ei bywyd personol yn 2007 pan gollodd ei chymar Huw Justin Smith, gitarydd bas i’r grŵp roc Tigertailz, wythnosau’n unig wedi iddynt briodi.

Cydnabuwyd aml ddoniau Shân Cothi gan nifer, gan gynnwys y canwr Bryn Terfel, a ddywedodd am ei record unawdol Passione: ‘Cothi yr Eisteddfodwraig; Cothi y berfformwraig sioe gerdd; Cothi y cyflwynydd teledu; Cothi yr actores, ac yn olaf, ond nid yn lleiaf, Cothi yr artist recordio. Pluen arall yn ei chap!’

Lyn Davies

Disgyddiaeth

Gyda Cwlwm:

  • Cwlwm – Carolau’r Byd (Sain SCD2051, 1993)
  • Cwlwm – Heddiw ’Fory (Sain SCD2078, 1996)

Fel unawdydd:

  • Passione (Sain SCD2520, 2005)

Llyfryddiaeth

  • Nodiadau rhaglen The Phantom of the Opera (Llundain, 1998–9)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.