Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Crasdant"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
Llinell 10: Llinell 10:
 
Er gwaethaf pwysigrwydd y delyn deires i sain Crasdant, cryfder y grŵp yw eu gallu i asio fel ''ensemble'' ac i gynnig dehongliadau safonol, chwaethus a graenus o [[alawon gwerin]] o Gymru a thu hwnt, megis riliau, jigs, ''polkas'' neu alawon [[dawns]] a chân. Er enghraifft, mae ‘Polca Eldra’ oddi ar eu hail record hir, ''Nos Sadwrn Bach'' (Sain, 2002), yn seiliedig ar alaw a ddysgodd Robin Huw Bowen gan ei athrawes, y delynores Eldra Jarman (1917–2000), yr olaf i gynrychioli’r traddodiad telynorion sipsi yng Nghymru. Clywir yn nhrefniant Robin Huw Bowen gyfuniadau o alawon megis ‘Girl With the Blue Dress On’ ynghyd â ''polka'' gan Walter Bulwer o Norfolk, prawf pellach o’r cysylltiadau a fodolai rhwng y gwahanol draddodiadau (gw. Burgess).
 
Er gwaethaf pwysigrwydd y delyn deires i sain Crasdant, cryfder y grŵp yw eu gallu i asio fel ''ensemble'' ac i gynnig dehongliadau safonol, chwaethus a graenus o [[alawon gwerin]] o Gymru a thu hwnt, megis riliau, jigs, ''polkas'' neu alawon [[dawns]] a chân. Er enghraifft, mae ‘Polca Eldra’ oddi ar eu hail record hir, ''Nos Sadwrn Bach'' (Sain, 2002), yn seiliedig ar alaw a ddysgodd Robin Huw Bowen gan ei athrawes, y delynores Eldra Jarman (1917–2000), yr olaf i gynrychioli’r traddodiad telynorion sipsi yng Nghymru. Clywir yn nhrefniant Robin Huw Bowen gyfuniadau o alawon megis ‘Girl With the Blue Dress On’ ynghyd â ''polka'' gan Walter Bulwer o Norfolk, prawf pellach o’r cysylltiadau a fodolai rhwng y gwahanol draddodiadau (gw. Burgess).
  
Rhyddhawyd [[tair]] record hir ganddynt, i gyd ar label Sain. Clywir yn [[arddull]] Crasdant yr awydd i fynd yn ôl at wreiddiau’r traddodiad gwerin a hynny’n rhannol fel ymateb i’r duedd erbyn canol yr 1990au ymysg grwpiau’r cyfnod un ai i symud tuag at sain fwy masnachol roc-gwerin (fel yn achos Ar Log), neu i gyfosod y traddodiad gydag arddulliau eraill ([[Bob Delyn a’r Ebillion]]).
+
Rhyddhawyd [[tair]] record hir ganddynt, i gyd ar label Sain. Clywir yn arddull Crasdant yr awydd i fynd yn ôl at wreiddiau’r traddodiad gwerin a hynny’n rhannol fel ymateb i’r duedd erbyn canol yr 1990au ymysg grwpiau’r cyfnod un ai i symud tuag at sain fwy masnachol roc-gwerin (fel yn achos Ar Log), neu i gyfosod y traddodiad gydag arddulliau eraill ([[Bob Delyn a’r Ebillion]]).
  
 
'''Pwyll ap Siôn'''
 
'''Pwyll ap Siôn'''

Diwygiad 18:11, 27 Chwefror 2021

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Un o grwpiau gwerin offerynnol mwyaf blaenllaw Cymru ers yr 1990au. Yr aelodau gwreiddiol oedd Robin Huw Bowen (telyn deires), Stephen Rees (ffidil ac acordion, un a fu’n aelod o Ar Log ac yn perfformio’n gyson gyda’r gantores Siân James), Andy McLauchlin (ffliwt a phibgorn) a Huw Williams (gitâr a stepio/clocsio). Daeth Chris Bain (ffidil) yn aelod maes o law hefyd.

Bu Robin Huw Bowen, Stephen Rees a Huw Williams yn cynnal gwaith ymchwil i draddodiadau gwerin Cymru. O ganlyniad, mae nifer o alawon y grŵp yn perthyn i gasgliadau o’r 19g.

Ynghyd ag Andy McLauchlin, roedd Robin Huw Bowen a Stephen Rees ymhlith aelodau gwreiddiol Cymdeithas Offerynnau Traddodiadol Cymru a sefydlwyd yn 1996 (fe’i hailenwyd yn Clera yn 2003) ac a fu’n fodd i hybu diddordeb yn y maes gan esgor ddeng mlynedd yn ddiweddarach ar gerddorfa werin Y Glerorfa. Bu Huw Williams yn brif ddehonglwr y traddodiad stepio (neu glocsio) yng Nghymru am flynyddoedd, gan gyhoeddi llyfr ar y pwnc. Bu hefyd yn adnabyddus fel canwr, cyfansoddwr caneuon ac aelod o’r ddeuawd werin Huw a Tony Williams.

Er gwaethaf pwysigrwydd y delyn deires i sain Crasdant, cryfder y grŵp yw eu gallu i asio fel ensemble ac i gynnig dehongliadau safonol, chwaethus a graenus o alawon gwerin o Gymru a thu hwnt, megis riliau, jigs, polkas neu alawon dawns a chân. Er enghraifft, mae ‘Polca Eldra’ oddi ar eu hail record hir, Nos Sadwrn Bach (Sain, 2002), yn seiliedig ar alaw a ddysgodd Robin Huw Bowen gan ei athrawes, y delynores Eldra Jarman (1917–2000), yr olaf i gynrychioli’r traddodiad telynorion sipsi yng Nghymru. Clywir yn nhrefniant Robin Huw Bowen gyfuniadau o alawon megis ‘Girl With the Blue Dress On’ ynghyd â polka gan Walter Bulwer o Norfolk, prawf pellach o’r cysylltiadau a fodolai rhwng y gwahanol draddodiadau (gw. Burgess).

Rhyddhawyd tair record hir ganddynt, i gyd ar label Sain. Clywir yn arddull Crasdant yr awydd i fynd yn ôl at wreiddiau’r traddodiad gwerin a hynny’n rhannol fel ymateb i’r duedd erbyn canol yr 1990au ymysg grwpiau’r cyfnod un ai i symud tuag at sain fwy masnachol roc-gwerin (fel yn achos Ar Log), neu i gyfosod y traddodiad gydag arddulliau eraill (Bob Delyn a’r Ebillion).

Pwyll ap Siôn

Disgyddiaeth

Cerddoriaeth Draddodiadol Gymreig (Sain SCD2220, 1999)
Nos Sadwrn Bach (Sain SCD2306, 2001)
Dwndwr (Sain SCD2487, 2005)

Llyfryddiaeth

Adolygiad Paul Burgess o Nos Sadwrn Bach yn <http:// www.folkmusic.net/htmfiles/webrevs/scd2306.htm>



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.