Crawford, Kizzy

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 18:21, 27 Chwefror 2021 gan CadiW (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Cantores, gitarydd a chyfansoddwraig Gymraeg o dras Barbadaidd sy’n hanu o Ferthyr Tudful yw Kizzy Meriel Crawford. Mae’n canu yn Gymraeg a Saesneg.

Daeth i amlygrwydd yn ifanc iawn wedi iddi ennill gwobr Arts Connect yn 2012. Yn sgil hyn cafodd gyfle i weithio gyda’r gantores Amy Wadge a rhyddhau record sengl, The Starling (Sonig 2013). Yn fuan wedyn daeth yr EP Temporary Zone (See Monkey Do Monkey, 2013). Bu’n rhyddhau cynnyrch Cymraeg hefyd, gan gynnwys y gân ‘Enfys yn y Glaw’ (2013) a ‘Y Ddrudwy’ (2014). Enillodd gystadleuaeth Brwydr y Bandiau yn Eisteddfod Genedlaethol Dinbych a’r Cyffiniau yn 2013, gan sicrhau perfformiad ar Faes B yn ogystal â gwobr ariannol o £1,000.

Daeth llwyddiant pellach i’w rhan gyda’r sengl ‘Golden Brown’/‘Brown Euraidd’. Bu’n perfformio’n rheolaidd mewn gwyliau cerdd yng Nghymru a thu hwnt, megis Glastonbury, Gŵyl y Dyn Gwyrdd, Gŵyl Rhif 6, Gŵyl Jazz Cheltenham a WOMEX. Roedd hefyd yn un o’r artistiaid cyntaf i gael eu derbyn ar gynllun Gorwelion y BBC. Perfformiodd ar y cyd gyda’r Manic Street Preachers yn stadiwm clwb pêl-droed Caerdydd wrth groesawu’r tîm pêl- droed cenedlaethol adref ar ôl eu llwyddiant yng nghystadleuaeth Ewro 2016.

Mae ei doniau fel cantores, gitarydd a chyfansoddwraig yn amlwg yn ei chaneuon a hynny mewn cydbwysedd hynod effeithiol. Ymglywir â dylanwadau soul, amgen, gwerin a jazz yn ei gwaith, ac yn 2016 bu’n gweithio ac yn teithio gyda’r pianydd jazz amryddawn Gwilym Simcock fel rhan o’r prosiect Birdsong/Cân yr Adar.

Pwyll ap Siôn

Disgyddiaeth

‘The Starling’ [sengl] (Sonig, 2013)
Temporary Zone [EP] (See Monkey Do Monkey, 2013)
‘Golden Brown’ (2014)
‘Shout Out’/‘Yr Alwad’ (2015)
‘Pili Pala’ (2015)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.