Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Crawford, Kizzy (g.1996)"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
 
(Ni ddangosir y 2 olygiad yn y canol gan yr un defnyddiwr)
Llinell 4: Llinell 4:
 
Cantores, gitarydd a chyfansoddwraig Gymraeg o dras Barbadaidd sy’n hanu o Ferthyr Tudful yw Kizzy Meriel Crawford. Mae’n canu yn Gymraeg a Saesneg.
 
Cantores, gitarydd a chyfansoddwraig Gymraeg o dras Barbadaidd sy’n hanu o Ferthyr Tudful yw Kizzy Meriel Crawford. Mae’n canu yn Gymraeg a Saesneg.
  
Daeth i amlygrwydd yn ifanc iawn wedi iddi ennill gwobr Arts Connect yn 2012. Yn sgil hyn cafodd gyfle i weithio gyda’r gantores Amy Wadge a rhyddhau record sengl, ''The Starling'' (Sonig 2013). Yn fuan wedyn daeth yr EP ''Temporary Zone'' (See Monkey Do Monkey, 2013). Bu’n rhyddhau cynnyrch Cymraeg hefyd, gan gynnwys y gân ‘Enfys yn y Glaw’ (2013) a ‘Y Ddrudwy’ (2014). Enillodd gystadleuaeth Brwydr y Bandiau yn [[Eisteddfod]] Genedlaethol Dinbych a’r Cyffiniau yn 2013, gan sicrhau perfformiad ar Faes B yn ogystal â gwobr ariannol o £1,000.
+
Daeth i amlygrwydd yn ifanc iawn wedi iddi ennill gwobr Arts Connect yn 2012. Yn sgil hyn cafodd gyfle i weithio gyda’r gantores Amy Wadge a rhyddhau record sengl, ''The Starling'' (Sonig 2013). Yn fuan wedyn daeth yr EP ''Temporary Zone'' (See Monkey Do Monkey, 2013). Bu’n rhyddhau cynnyrch Cymraeg hefyd, gan gynnwys y gân ‘Enfys yn y Glaw’ (2013) a ‘Y Ddrudwy’ (2014). Enillodd gystadleuaeth Brwydr y Bandiau yn [[Eisteddfod, Cerddoriaeth a'r | Eisteddfod]] Genedlaethol Dinbych a’r Cyffiniau yn 2013, gan sicrhau perfformiad ar Faes B yn ogystal â gwobr ariannol o £1,000.
  
Daeth llwyddiant pellach i’w rhan gyda’r sengl ‘Golden Brown’/‘Brown Euraidd’. Bu’n perfformio’n rheolaidd mewn [[gwyliau]] cerdd yng Nghymru a thu hwnt, megis Glastonbury, Gŵyl y Dyn Gwyrdd, [[Gŵyl]] Rhif 6, Gŵyl Jazz Cheltenham a WOMEX. Roedd hefyd yn un o’r artistiaid cyntaf i gael eu derbyn ar gynllun Gorwelion y BBC. Perfformiodd ar y cyd gyda’r [[Manic Street Preachers]] yn stadiwm clwb pêl-droed Caerdydd wrth groesawu’r tîm pêl-droed cenedlaethol adref ar ôl eu llwyddiant yng nghystadleuaeth Ewro 2016.
+
Daeth llwyddiant pellach i’w rhan gyda’r sengl ‘Golden Brown’/‘Brown Euraidd’. Bu’n perfformio’n rheolaidd mewn [[Gwyliau Cerddoriaeth | gwyliau]] cerdd yng Nghymru a thu hwnt, megis Glastonbury, Gŵyl y Dyn Gwyrdd, Gŵyl Rhif 6, Gŵyl Jazz Cheltenham a WOMEX. Roedd hefyd yn un o’r artistiaid cyntaf i gael eu derbyn ar gynllun Gorwelion y BBC. Perfformiodd ar y cyd gyda’r [[Manic Street Preachers]] yn stadiwm clwb pêl-droed Caerdydd wrth groesawu’r tîm pêl-droed cenedlaethol adref ar ôl eu llwyddiant yng nghystadleuaeth Ewro 2016.
  
Mae ei doniau fel cantores, gitarydd a chyfansoddwraig yn amlwg yn ei chaneuon a hynny mewn cydbwysedd hynod effeithiol. Ymglywir â dylanwadau ''soul'', amgen, gwerin a [[jazz]] yn ei gwaith, ac yn 2016 bu’n gweithio ac yn teithio gyda’r pianydd jazz amryddawn Gwilym Simcock fel rhan o’r prosiect ''Birdsong/Cân yr Adar''.
+
Mae ei doniau fel cantores, gitarydd a chyfansoddwraig yn amlwg yn ei chaneuon a hynny mewn cydbwysedd hynod effeithiol. Ymglywir â dylanwadau ''soul'', amgen, gwerin a [[jazz]] yn ei gwaith, ac yn 2016 bu’n gweithio ac yn teithio gyda’r pianydd jazz amryddawn Gwilym Simcock fel rhan o’r prosiect ''Birdsong / Cân yr Adar''.
  
 
'''Pwyll ap Siôn'''
 
'''Pwyll ap Siôn'''
Llinell 14: Llinell 14:
 
==Disgyddiaeth==
 
==Disgyddiaeth==
  
:‘The Starling’ [sengl] (Sonig, 2013)
+
*‘The Starling’ [sengl] (Sonig, 2013)
  
:''Temporary Zone'' [EP] (See Monkey Do Monkey, 2013)  
+
*''Temporary Zone'' [EP] (See Monkey Do Monkey, 2013)  
  
:‘Golden Brown’ (2014)
+
*‘Golden Brown’ (2014)
  
:‘Shout Out’/‘Yr Alwad’ (2015)  
+
*‘Shout Out’/‘Yr Alwad’ (2015)  
  
:‘Pili Pala’ (2015)
+
*‘Pili Pala’ (2015)
  
 
{{CC BY-SA Cydymaith}}
 
{{CC BY-SA Cydymaith}}
 +
[[Categori:Cerddoriaeth]]

Y diwygiad cyfredol, am 11:26, 3 Gorffennaf 2021

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Cantores, gitarydd a chyfansoddwraig Gymraeg o dras Barbadaidd sy’n hanu o Ferthyr Tudful yw Kizzy Meriel Crawford. Mae’n canu yn Gymraeg a Saesneg.

Daeth i amlygrwydd yn ifanc iawn wedi iddi ennill gwobr Arts Connect yn 2012. Yn sgil hyn cafodd gyfle i weithio gyda’r gantores Amy Wadge a rhyddhau record sengl, The Starling (Sonig 2013). Yn fuan wedyn daeth yr EP Temporary Zone (See Monkey Do Monkey, 2013). Bu’n rhyddhau cynnyrch Cymraeg hefyd, gan gynnwys y gân ‘Enfys yn y Glaw’ (2013) a ‘Y Ddrudwy’ (2014). Enillodd gystadleuaeth Brwydr y Bandiau yn Eisteddfod Genedlaethol Dinbych a’r Cyffiniau yn 2013, gan sicrhau perfformiad ar Faes B yn ogystal â gwobr ariannol o £1,000.

Daeth llwyddiant pellach i’w rhan gyda’r sengl ‘Golden Brown’/‘Brown Euraidd’. Bu’n perfformio’n rheolaidd mewn gwyliau cerdd yng Nghymru a thu hwnt, megis Glastonbury, Gŵyl y Dyn Gwyrdd, Gŵyl Rhif 6, Gŵyl Jazz Cheltenham a WOMEX. Roedd hefyd yn un o’r artistiaid cyntaf i gael eu derbyn ar gynllun Gorwelion y BBC. Perfformiodd ar y cyd gyda’r Manic Street Preachers yn stadiwm clwb pêl-droed Caerdydd wrth groesawu’r tîm pêl-droed cenedlaethol adref ar ôl eu llwyddiant yng nghystadleuaeth Ewro 2016.

Mae ei doniau fel cantores, gitarydd a chyfansoddwraig yn amlwg yn ei chaneuon a hynny mewn cydbwysedd hynod effeithiol. Ymglywir â dylanwadau soul, amgen, gwerin a jazz yn ei gwaith, ac yn 2016 bu’n gweithio ac yn teithio gyda’r pianydd jazz amryddawn Gwilym Simcock fel rhan o’r prosiect Birdsong / Cân yr Adar.

Pwyll ap Siôn

Disgyddiaeth

  • ‘The Starling’ [sengl] (Sonig, 2013)
  • Temporary Zone [EP] (See Monkey Do Monkey, 2013)
  • ‘Golden Brown’ (2014)
  • ‘Shout Out’/‘Yr Alwad’ (2015)
  • ‘Pili Pala’ (2015)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.