Crossley-Holland, Peter (1916-2001)

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Arloeswr ym maes astudiaethau’r 20g. o gerddoriaeth gynnar Cymru, cyfansoddwr, ysgolhaig, ethnogerddoregwr ac ymchwilydd ym myd chwedl a llên gwerin. Bu’n ymhél â cherddoriaeth Cymru – yn enwedig cerddoriaeth gynnar a thraddodiadol y wlad – dros gyfnod o drigain mlynedd.

Fe’i ganed yn Llundain ac yn dilyn cyfnod yn astudio ffisioleg yng Ngholeg Sant Ioan, Rhydychen, a cherddoriaeth yn y Coleg Cerdd Brenhinol yn Llundain gan gynnwys cyfansoddi a cherddorfaeth gyda John Ireland (1879–1962), graddiodd mewn cerddoriaeth (BMus) o Rydychen yn 1943. Bu’n gweithio ym Mae Colwyn am gyfnod (1942) cyn dechrau ei yrfa fel cynhyrchydd gyda’r BBC yn paratoi rhaglenni ar gyfer y Third Programme rhwng 1948 ac 1963 (yr orsaf a ddaeth yn ddiweddarach yn Radio 3). Yn dilyn cyfres o benodiadau academaidd ym mhrifysgolion Illinois (1966) a Hawaii (1968–9), fe’i dyrchafwyd yn Athro ethnogerddoreg ym Mhrifysgol California, Los Angeles (1969–1983), lle treuliodd weddill ei yrfa yn darlithio, cyfarwyddo myfyrwyr ac yn ymchwilio. Wedi ymddeol o’i waith yn yr Unol Daleithiau, dychwelodd i Henllan, Dyffryn Teifi hyd ei farwolaeth yn 85 mlwydd oed.

Cyhoeddodd un ar bymtheg o astudiaethau o gerddoriaeth a Chymru ac fe’u rhennir yn dri phrif fath: (1) Arolygon cyffredinol gan gynnwys ei Music in Wales (1948) a’r ddwy erthygl ar Gymru ym mhumed a chweched argraffiad Grove’s Dictionary of Music (gol. Blom, 1954) ac argraffiad Sadie o’r New Grove Dictionary of Music & Musicians (gol. Sadie, 1980); (2) Astudiaethau systematig gan gynnwys y ddwy astudiaeth o lawysgrif Robert ap Huw (1942 ac 1998) a’i archwiliad ‘The Tonal Limits of Welsh Folk Song’ (1968); (3) Astudiaethau cymharol, ieithegol, yn eu plith Telyn Teirtu (1997), astudiaeth gymharol o chwedloniaeth, cerddoriaeth ac ystyr.

Yn ei gyhoeddiadau Cymreig, gellir olrhain ei ddatblygiad ac ehangder ei ddiddordebau. Er enghraifft, yn ei erthygl ar hanes cerddoriaeth yng Nghymru ar gyfer Grove (1954) rhoddir pwyslais ar chwedl a’r traddodiad barddol. Pwyslais ethnogerddoregol cadarn a geir yn ei erthygl ar gyfer New Grove (1980). Rhwng 1948 ac 1952 roedd yn ysgrifennu llawer am gerddoriaeth a metaffiseg, cerddoriaeth a’r cosmos, a cherddoriaeth a myth. Disodlwyd ei waith ar gerddoriaeth werin Cymru gan gyfraniad helaeth ysgolheigion eraill (e.e. Phyllis Kinney, Roy Saer a Meredydd Evans), ond ni ddylid tanbrisio pwysigrwydd ei astudiaeth systematig o batrymau traw yng ngherddoriaeth draddodiadol Cymru (1968) – gwaith sy’n adlewyrchu ei astudiaeth ehangach o raddfeydd, moddau a thonyddiaeth cerddoriaeth fyd- eang, ac o gerddoriaeth a’r cosmos.

Yng nghanol yr 1990au cyhoeddodd ddwy astudiaeth sydd â ffocws penodol – Telyn Teirtu, sy’n astudiaeth o ffynhonnell ac ystyr y darn am Delyn Teirtu yn y Mabinogion, a The Composers of the Robert ap Huw Manuscript, sy’n ystyried lleoliad a dyddiadau’r cyfansoddwyr a gynrychiolir yn llawysgrif y telynor o Landegfan, Ynys Môn. Mewn gwahanol ffyrdd, maent ill dwy yn cyfannu’r cylch yn ôl at ei waith cynnar ar chwedloniaeth, cerddoriaeth gynnar Cymru a llawysgrif Robert ap Huw. Ceir cyswllt yn ei gyhoeddiadau rhwng ei athroniaeth ef ei hun am gerddoriaeth a diwylliant a natur sylfaenol cerddoriaeth a diwylliant Cymru.

Fel awdur ac ysgolhaig, roedd ei olwg ar y byd yn anghronolegol ac yn drawsddiwylliannol – gwelir bod technegau a dulliau deallus o feddwl o unrhyw oes neu leoliad yn fodelau dilys iddo. Yn yr un modd, ystyriodd y berthynas rhwng defodau, traddodiadau ac ysbrydolrwydd lleol a phenodol a gwerthoedd dynol a realiti oesol. Cydblethodd yr hanesyddol, y creadigol a’r ysbrydol a phob un yn dod â dyn yn nes at ei adnabod ei hun. Bu’n gweithio ar astudiaeth gynhwysfawr ond anghyhoeddedig o gerddoriaeth a chyfeiriadau cerddorol mewn llên gwerin Geltaidd. Trwy gyfrwng ei ymchwil, dangosodd fod cerddoriaeth yng Nghymru cyn 1650 yn benodol, ar wahân i siant yr Eglwys, fel pe bai’n sefyll ar wahân i repertoire prif-ffrwd y Gorllewin. Ni cheir yma ychwaith ganon o weithiau wedi’i seilio ar ddilyniant o gyfansoddwyr penodol a llawysgrifau dyddiedig. Yn wir, yn nhyb Crossley-Holland, ychydig iawn o gerddoriaeth sydd wedi ei chadw.

Credai hefyd fod cefndir cymdeithasol ac ystyr ddiwylliannol cerddoriaeth mor arwyddocaol, ac o bosib yn fwy arwyddocaol, na ffynonellau cerddorol ar glawr a chyfansoddwyr penodol. Sylwodd yn ogystal ar y cysylltiadau hanfodol rhwng llenyddiaeth a myth a cherddoriaeth yng Nghymru yn yr Oesoedd Canol, gan weld hynny’n gyfrwng i ddeall ystyr cerddoriaeth yn y diwylliant Cymreig. Wedi astudio Llawysgrif Robert ap Huw, amlygodd bwysigrwydd y ffynhonnell hon trwy ddatguddio estheteg a thechnegau cerddorol sydd ar wahân i brosesau cyfansoddi Gorllewinol prif-ffrwd cyn 1650. Iddo ef, roedd y llawysgrif yn ffynhonnell greiddiol ar gyfer deall cerddoriaeth yng Nghymru cyn 1650, ac yn bennaf oll ar gyfer deall cerdd dant.

Ar hyd ei yrfa, cododd Crossley-Holland broffil astudiaethau cerddoriaeth Cymru trwy ysgrifennu mewn cylchgrawn cerddoriaeth prif-ffrwd a thrwy ddarlledu ar sianel radio genedlaethol. Dangosodd y gallai’r cyfryw astudiaethau Cymreig sefyll ochr yn ochr ag astudiaethau ethnogerddoregol cyfartal ymhlith y diwylliannau Celtaidd.

John Harper

Llyfryddiaeth

  • Peter Crossley-Holland, ‘Secular Homphonic Music in Wales in the Middle Ages’, Music and Letters, 23 (1942), 135–62
  • ———, Music in Wales (gol.) (Caerdydd a Llundain, 1948)
  • ———, Telyn Teirtu: Myth and Magic in Medieval Wales (Bangor, 1997)
  • ———, The Composers of the Robert ap Huw Manuscript: The Evidence for Identity, Dating and Locality (Bangor, 1997)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.