Cwmnïau Recordio yng Nghymru

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

(gw. hefyd Delysé, Cwmni Recordio)

Cafodd y label recordiau Cymreig cyntaf, Qualiton, ei sefydlu ym Mhontardawe yn 1954. Roedd ei berchennog, John Edwards (1905-66), yn frodor o Wauncaegurwen a oedd wedi ennill ysgoloriaeth i astudio yn y Coleg Cerdd Brenhinol, Llundain, yn 1924. Yn ystod ei gyfnod yno daeth yn ymwybodol o’r diffyg cyfleoedd recordio ar gyfer cyfansoddwyr a cherddorion Cymreig, a’r diffyg ymwybyddiaeth o’u gweithiau y tu hwnt i Gymru. Edwards fu’n gyfrifol hefyd am sefydlu’r Urdd Er Hyrwyddo Cerddoriaeth Cymru yn 1955.

Yn wir, rhan o genhadaeth oes Edwards i hyrwyddo cerddoriaeth Gymreig oedd sefydlu Qualiton ar y cyd â’i wraig, Olwen, a Douglas Rosser, peiriannydd sain o Gastell-nedd yr oedd wedi’i gyfarfod yn 1946. Ar y dechrau, defnyddiwyd fan fel stiwdio symudol. Gwasgwyd recordiau cyntaf Qualiton mewn ffatrïoedd yn Lloegr, ond yn 1958 sefydlwyd ffatri ym Mhontardawe. Tua’r cyfnod hwn, bu Qualiton yn gyfrifol am ryddhau recordiadau gan gorau meibion, recordiadau o areithiau a hyd yn oed sylwebaethau ar gemau rygbi pwysig gan Cliff Morgan.

Er bod Qualiton wedi mynegi diddordeb mewn cynhyrchu recordiau ‘pop’ mor gynnar ag 1959, penderfynodd John Edwards sefydlu label arall, Welsh Teldisc, yn 1962, ac arloesodd y label hwn yn y maes. Welsh Teldisc a ryddhaodd y rhan fwyaf o recordiau artistiaid pop Cymreig o ddechrau hyd at ganol yr 1960au, yn eu plith Helen Wyn Jones a Dafydd Iwan. Bu farw John Edwards yn 1966 a daeth ei weddw, Olwen, yn gyfarwyddwr y busnesau. Hi oedd wrth y llyw pan gafodd y sengl roc Gymraeg gyntaf, ‘Maes B’ gan Y Blew, ei rhyddhau yn hwyr yn 1967 ar Qualiton, ond gwerthwyd y label i Decca yn fuan wedyn, ac fe gafodd offer y ffatri wasgu ym Mhontardawe ei symud i Lundain.

Erbyn 1968, fodd bynnag, roedd nifer o labeli eraill wedi ymddangos er mwyn ateb y galw am recordiau pop, gan gynnwys rhai Cymraeg. Cafodd Recordiau’r Dryw ei sefydlu tua 1964 gan Dennis Rees, a thua diwedd 1967 sefydlwyd Recordiau Cambrian gan Josiah Jones, a oedd cyn hynny wedi gweithio gyda Qualiton a Welsh Teldisc. Cydnabuwyd y cynnydd hwn mewn gweithgaredd gan Y Cymro, a aeth ati i gyhoeddi siart wythnosol o recordiau pop, y Deg Uchaf, o Hydref 1967 ymlaen.

Parhaodd y twf hwn yn 1969, pan sefydlwyd tri label newydd. Rhyddhaodd Recordiadau’r Ddraig, label a oedd wedi’i leoli yn Lerpwl gyda D. Ben Rees (g.1937) yn gyfarwyddwr, ei record gyntaf yn ystod haf 1969, a sefydlwyd Recordiau Tŷ ar y Graig tua’r un pryd. Fodd bynnag, y datblygiad pwysicaf yn ystod y cyfnod oedd dyfodiad Recordiau Sain. Sefydlwyd y cwmni yn 1969 gan Dafydd Iwan a Huw Jones, yng Nghaerdydd i ddechrau, cyn adleoli yn Llandwrog flwyddyn yn ddiweddarach. Bu llwyddiant masnachol sengl gyntaf y cwmni, ‘Dŵr’ gan Huw Jones, yn fodd i’w gosod ar seiliau ariannol cadarn o’r cychwyn cyntaf.

Yr amcan oedd darparu llwyfan ehangach ar gyfer artistiaid newydd a chyfoes. Erbyn 1970 roedd rhai, yn enwedig ymhlith y genhedlaeth iau, yn gweld y labeli hŷn fel cynhyrchwyr cerddoriaeth bop hen-ffasiwn, ac yn wir, ysgrifennodd Huw Jones y flwyddyn honno fod gan Sain fwriad i farchnata eu recordiau i bobl ifanc – recordiau gan artistiaid megis Meic Stevens – a oedd eisoes wedi dechrau arbrofi mewn arddulliau cerddorol a oedd yn debycach o apelio at yr ieuenctid, megis cerddoriaeth roc.

Roedd y farchnad hon yn seiliedig ar senglau a recordiau EP pedair cân ar y cyfan ac araf iawn oedd ymddangosiad recordiau hir. Serch hynny, erbyn 1972 gellir dweud bod y diwydiant recordio trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg wedi’i sefydlu; yn wir, yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd y flwyddyn honno, roedd recordiau Cambrian wedi gwerthu cynifer â 25,000 o gopïau o sengl gan Iris Williams – llwyddiant ysgubol i ddiwydiant mor fach. Fodd bynnag, daeth newid yng nghanol yr 1970au.

Effeithiwyd ar y diwydiant yng Nghymru, fel yn Lloegr, gan yr argyfwng olew (cododd prisiau feinyl o ganlyniad i hyn) ynghyd â dirwasgiad 1973-5. Mae data ar werthiant yn ystod y cyfnod hwn oddi fewn i’r diwydiant recordiau yng Nghymru yn brin, ond os oes unrhyw arwyddocâd i symudiadau recordiau yn Neg Uchaf Y Cymro, bu newid go ddramatig yn y diwydiant yng Nghymru. Yn ystod chwe mis cyntaf 1972 roedd Cambrian a Sain (ac i raddau llai Recordiau’r Dryw) yn gyfrifol am y rhan fwyaf o’r recordiau i ymddangos yn y siart, ond erbyn 1974 roedd Teldisc wedi rhoi’r gorau i ryddhau recordiau, roedd Cambrian wedi lleihau ei weithgaredd, ac roedd Sain wedi ennill dros 80% o’r farchnad, gan greu cymhareb grynodedd (ratio of concentration) uchel iawn, o’i chymharu â chymhareb grynodedd isel yn ystod 1969-71 (am fwy ynglŷn â hyn mewn perthynas â’r byd pop Eingl-Americanaidd, gw. Longhurst 1995, 27-50; gw. hefyd Wallis a Malm 1983, 82–85).

Cwmni Sain fu’n gyfrifol am y rhan fwyaf o recordiau pop am weddill y degawd, ac roedd perchnogion y label yn awyddus i godi lefel proffesiynoldeb ei recordiau. I’r perwyl hwn, agorwyd stiwdio 8-trac yn 1975 a stiwdio 24-trac yn 1980 yn Llandwrog ger Caernarfon. Fodd bynnag, erbyn troad yr 1980au, roedd y chwyldro pync wedi arwain at sefydlu nifer o labeli ‘DIY’ gan fandiau Cymraeg yn dilyn y model ‘pync-roc’, megis Recordiau Coch ( Y Trwynau Coch), Recordiau Fflach (Ail Symudiad) a Recordiau Anhrefn (Anhrefn). Mewn gwirionedd, roedd neb llai na’r ddeuawd boblogaidd Tony ac Aloma wedi arwain y ffordd yn y cyswllt hwn wrth sefydlu eu label eu hunain, Gwawr, yn 1974 ar batrwm busnes cydweithredol gan roi gwarant o gyfran fwy o’r elw o bob record i’r artist. Yn eironig ddigon, yn sgil ymddangosiad pync, dilynodd llawer eu hesiampl.

Ar yr un pryd, datblygodd sîn danddaearol fach ond egnïol yng nghanol yr 1980au, gyda mân-labeli megis Ofn, Lola, Legless a Madryn, ac – yn ddiweddarach, yn yr 1990au – Fitamin Un, R-Bennig, Neud Nid Deud ac Oggum yn rhyddhau cerddoriaeth arbrofol ac avant-garde o bob math gan gynnwys hip-hop, techno ac arddulliau eraill. Cafodd twf y gerddoriaeth amgen hon effaith ar ddelwedd Sain gan beri i’r label gael ei ystyried gan rai fel un hen-ffasiwn, canol y ffordd. Ateb Sain i hyn oedd sefydlu is-label ar gyfer cerddoriaeth bop, Crai, yn 1988; bu’r label hwn yn gyfrifol am ryddhau recordiau gan grwpiau mor amrywiol ag Anweledig, Bryn Fôn, Bob Delyn a'r Ebillion, Gwacamoli, Maharishi, Topper a U Thant yn ystod yr 1990au. Yn 1988 hefyd y sefydlwyd Ankst, label a fyddai’n cael effaith aruthrol ar y sîn roc Gymraeg gan ryddhau recordiau gan fandiau blaengar fel Datblygu, Ffa Coffi Pawb, Ectogram a Melys. Bu Gwynfryn Cymunedol, a sefydlwyd yn Waunfawr ger Caernarfon, hefyd yn gynhyrchiol rhwng 2002 a 2010, gan ryddhau recordiau gan Meinir Gwilym, Quidest, y ddeuawd canu gwlad Dylan a Neil, a Brigyn, ymysg eraill.

Erbyn dechrau degawd cyntaf yr 21g. roedd y tirlun wedi newid unwaith eto yn sgil crebachiad y byd canu cyfoes Cymraeg ddiwedd yr 1990au ond, ar yr un pryd, roedd lleihad yng nghostau offer recordio, dyblygu disgiau, lawrlwytho a gwerthiant recordiau ar-lein yn golygu ei bod yn haws sefydlu label annibynnol. Sefydlwyd nifer o labeli newydd proffesiynol eu hagwedd yn ystod y degawd, gan gynnwys Dockrad, Peski a Slacyr; a chrëwyd label Cymraeg, Ciwdod, gan y Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig yn 2004 er mwyn rhyddhau senglau cyntaf bandiau newydd. Heddiw mae labeli megis Sbrigyn Ymborth (sy’n rhyddhau recordiau Cowbois Rhos Botwnnog), I Ka Ching, ac is-label diweddaraf Sain, Copa, yn parhau i roi cyfleoedd i fandiau o’r fath.

Craig Owen Jones

Llyfryddiaeth

  • Roger Wallis a Krister Malm, ‘Sain Cymru: The Role of the Welsh Phonographic Industry in the Development of a Welsh Language Pop/Rock/Folk Scene’, Popular Music, 3 (1983), 77–105
  • Brian Longhurst, Popular Music and Society (Caergrawnt, 1995)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.