Cyfieithu

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Defnyddir y term cyfieithu gan amlaf i ddisgrifio'r weithred o drosglwyddo geiriau o un iaith (yr iaith ffynhonnell) i iaith arall (yr iaith darged). Diffiniad cyfyng yw hwn, serch hynny, oherwydd gall y term gyfeirio hefyd at sawl math arall ar gyfieithu gan gynnwys trosi i ddiwylliant arall, i gyfnod arall (diweddaru), i fudiad llenyddol gwahanol (ôl-foderniaeth, abswrdiaeth), i ffurf wahanol (stori fer, cerdd, drama) neu i gyfrwng gwahanol (radio, teledu, theatr). Gall cyfieithu hefyd ddisgrifio'r weithred o addasu testun ar gyfer cynulleidfa benodol (plant, pobl fyddar) neu'r broses o lwyfannu drama, sef y mise en scène. Mae'r ffin rhwng cyfieithu ac addasu yn yr ystyron hyn yn amwys ac y mae beirniaid yn gwneud defnydd o'r ddau derm mewn nifer o'r un cyd-destunau.

Mae syniadau am gyfieithu wedi'u trafod ers canrifoedd, ond fe luniwyd y traethawd damcaniaethol cyntaf ar gyfieithu ym 1791 gan Alexander Tytler, Essay on the Principles of Translation. Er hynny, cytunir mai ym 1976 y sefydlwyd maes astudiaethau cyfieithu yn y byd academaidd, mewn cynhadledd yn Leuven (Louvain), Gwlad Belg, lle y cyflwynwyd y term 'astudiaethau cyfieithu' am y tro cyntaf gan André Lefevere.

Mae diddordeb cynyddol wedi bod ym maes astudiaethau cyfieithu ers ail hanner yr 20g., er mai yn gymharol ddiweddar y gwelwyd yr un duedd yng Nghymru. Syndod yw hyn i raddau o ystyried pwysigrwydd cyfieithiadau i lenyddiaeth Cymru. Ystyrir cyfieithiad William Morgan a'i gyd-gyfieithwyr o'r Beibl i'r Gymraeg ym 1588 fel un o'r prif ddylanwadau ar Gymraeg llenyddol modern. Dangoswyd diddordeb cynyddol mewn cyfieithu gweithiau clasurol ac arloesol Ewrop i'r Gymraeg yn ystod yr 20g., a chyhoeddwyd cyfresi megis ‘Y Ddrama yn Ewrop’ a ‘Cyfres y Werin’ i ddathlu ac i annog y gwaith hwn.

Yn ôl Angharad Price y mae'r gair Cymraeg 'cyfieithu' yn pwysleisio'r cydberthynas sydd rhwng yr iaith ffynhonnell a'r iaith darged, oherwydd ystyr y geiryn 'cyf' yw creu cysylltiad. Serch hynny, nid yw'r berthynas rhwng yr ieithoedd yn un gyfartal ac am hynny nid yw gwaith y cyfieithydd bob amser yn cael ei barchu. Y mae'r dywediad Eidaleg, Traduttore traditore, yn cyfleu'r cysyniad mai brad yw cyfieithu. Rhoddir pwyslais ar yr hyn a gollir wrth gyfieithu, y bwlch anochel sydd rhwng y gwreiddiol a'r cyfieithiad newydd. Ar y llaw arall, mae rhai, megis Angharad Price, yn dadlau erbyn heddiw bod manteision i gyfieithu. Ychwanega cyfieithu gyfoeth at ddiwylliant, iaith a llenyddiaeth yr iaith darged, a gellir ystyried y cyfieithiadau eu hunain fel rhan o ganon llenyddol yr iaith darged yn ogystal.

Yn draddodiadol, teimlid y dylai gwaith y cyfieithydd fod yn anweladwy. Dyfynnir yn aml ddisgrifiad Gogol o gyfieithu: dylai cyfieithiad fod fel darn o wydr, haen dryloyw y gellir edrych drwyddi yn hollol glir. Mae cyfieithiad fel hwn yn galluogi'r darllenydd yn yr iaith darged i weld y darn gwreiddiol yn union fel y gwna'r darllenydd yn yr iaith ffynhonnell. Ni ddylai'r cyfieithiad newid y gwaith ac ni ddylai ôl llaw y cyfieithydd fod yn weladwy. Yn ystod y degawdau diwethaf, er hynny, bu beirniaid megis Susan Bassnett yn dadlau dros bwysigrwydd cydnabod rôl greadigol y cyfieithydd.

Y mae pob cyfieithydd yn dilyn dull neu theori wrth gyfieithu. Bydd rhaid ystyried, er enghraifft, a ddylid blaenoriaethu'r ystyr neu'r ffurf, y cynnwys neu'r geiriau. Mae'r ddadl am ffyddlondeb i air neu i ystyr yn deillio o gyfnod Cicero (107 - 44 CC) a Horace (65 - 8 CC). Am y tro cyntaf awgrymwyd y dylid cyfieithu ystyr testun yn hytrach na chyfieithu gair am air. Pan gomisiynwyd Jerome Sant i gyfieithu'r Beibl yn 384, penderfynodd yntau hefyd ganolbwyntio ar gyfieithu'r ystyr ond fe'i cyhuddwyd o heresi am addasu gair sanctaidd Duw. Y mae'r un ddadl yn parhau heddiw ac fe wahaniaethir rhwng cyfieithu rhydd sy'n blaenoriaethu ystyr a chyfieithu llythrennol sy'n blaenoriaethu'r geiriau. At hynny, y mae ystyriaethau gwahanol yn codi wrth gyfieithu barddoniaeth (rhythm, odl a strwythur), dramâu (cyfarwyddiadau llwyfan, dramâu mydryddol, elfennau'r perfformiad) a rhyddiaith. Mae cyfyngiadau genre testun yn effeithio'n sylweddol ar yr hyn a gynhyrchir yn yr iaith darged.

Mae cwestiynau hefyd yn codi am ofynion y gynulleidfa darged a gofynion yr awdur gwreiddiol. Disgrifiodd Friederich Schleiermacher benderfyniad y cyfieithydd fel a ganlyn:

Naill ai mae’r cyfieithydd yn gadael llonydd i’r awdur cymaint â phosibl ac yn symud y darllenydd tuag ato; neu mae’n gadael llonydd i’r darllenydd cymaint â phosibl ac yn symud yr awdur tuag ato ef.

Rhaid penderfynu a ddylid parchu natur estron y testun, ei gyd-destun gwreiddiol a bwriad yr awdur a'i luniodd neu addasu'r testun fel ei fod yn gyfarwydd ac yn ddealladwy i'r gynulleidfa darged drwy newid ei gyfeiriadau ieithyddol a diwylliannol . Estroneiddio yw'r enw ar y dull cyntaf hwn a domestigeiddio yw'r dull cyferbyniol.

Rhianedd Jewell


Llyfryddiaeth

Bassnett-McGuire, S. (1991), Translation Studies: Revised Edition (Llundain: Routledge).

Bassnett, S. a Lefevere, A. (1998), Constructing Cultures: essays on literary translation (Clevedon: Multilingual Matters).

Bassnett, S. a Bush, P. (goln) (2006), The Translator as Writer (Llundain: Continuum).

Price, A. (1997), 'Cyfoeth Cyfieithu', Taliesin, 100, 11-39.

Schleiermacher, F. (1963), ‘Über die verschiedenen Methoden des Übersetzens’ yn Störig, H. J. (gol.) Das Problem des Übersetzens (Darmstadt: Wissenschaftliche Buchgesellschaft), tt. 38-70.

Venuti, L. (2008), The Translator's Invisibility: A History of Translation, ail argraffiad (London & New York: Routledge).