Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Cyflwynydd"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
(Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda ' ''Saesneg: Presenter/Anchorperson'' Y sawl sy’n cyflwyno rhaglen newyddion teledu. Y cynhyrchydd Don Hewitt a oedd yn gweithio i gwmni CBS yn y 1950au...')
 
Llinell 2: Llinell 2:
 
''Saesneg: Presenter/Anchorperson''
 
''Saesneg: Presenter/Anchorperson''
  
Y sawl sy’n cyflwyno rhaglen newyddion teledu. Y cynhyrchydd Don Hewitt a oedd yn gweithio i gwmni CBS yn y 1950au cynnar a ddyfeisiodd y term ‘''anchor''’ yn ystod Confensiwn Cenedlaethol y Blaid Weriniaethol (''Republican National Convention'') yn Chicago. Ymdebygodd y darllediad i dîm ras cyfnewid, lle y mae safle’r rhedwr olaf (''anchor'') yn hollbwysig. Enghraifft o ‘angor’ yn Unol Daleithiau’r America (UDA) oedd y newyddiadurwr Walter Cronkite a gyflwynodd y newyddion i CBS am flynyddoedd.  
+
Y sawl sy’n cyflwyno rhaglen [[newyddion]] teledu neu'n darllen y bwletinau newyddion. Mae’r  cyflwynydd  yn cyflwyno’r newyddion drwy gymorth [[awtociw]] (autocue/teleprompter).
 +
 
 +
Y cynhyrchydd Don Hewitt a oedd yn gweithio i gwmni CBS yn y 1950au cynnar a ddyfeisiodd y term ‘''anchor''’ yn ystod Confensiwn Cenedlaethol y Blaid Weriniaethol (''Republican National Convention'') yn Chicago. Ymdebygodd y darllediad i dîm ras cyfnewid, lle y mae safle’r rhedwr olaf (''anchor'') yn hollbwysig. Enghraifft o ‘angor’ yn Unol Daleithiau’r America (UDA) oedd y [[newyddiadurwr]] Walter Cronkite a gyflwynodd y newyddion i CBS am flynyddoedd.  
  
 
Sefydlodd Hewitt baramedrau ar gyfer perfformiad byw er mwyn cadw’r rhaglen newyddion yn y stiwdio i redeg yn esmwyth. Cyflawnwyd hyn trwy fyrfyfyrio, darllen yr [[awtociw]], cyflwyno newyddion yn torri, sgwrsio â gwesteion yn y stiwdio a chydlynu adroddiadau newyddiadurwyr a oedd allan ar leoliad.  
 
Sefydlodd Hewitt baramedrau ar gyfer perfformiad byw er mwyn cadw’r rhaglen newyddion yn y stiwdio i redeg yn esmwyth. Cyflawnwyd hyn trwy fyrfyfyrio, darllen yr [[awtociw]], cyflwyno newyddion yn torri, sgwrsio â gwesteion yn y stiwdio a chydlynu adroddiadau newyddiadurwyr a oedd allan ar leoliad.  

Diwygiad 13:19, 2 Mai 2019

Saesneg: Presenter/Anchorperson

Y sawl sy’n cyflwyno rhaglen newyddion teledu neu'n darllen y bwletinau newyddion. Mae’r cyflwynydd yn cyflwyno’r newyddion drwy gymorth awtociw (autocue/teleprompter).

Y cynhyrchydd Don Hewitt a oedd yn gweithio i gwmni CBS yn y 1950au cynnar a ddyfeisiodd y term ‘anchor’ yn ystod Confensiwn Cenedlaethol y Blaid Weriniaethol (Republican National Convention) yn Chicago. Ymdebygodd y darllediad i dîm ras cyfnewid, lle y mae safle’r rhedwr olaf (anchor) yn hollbwysig. Enghraifft o ‘angor’ yn Unol Daleithiau’r America (UDA) oedd y newyddiadurwr Walter Cronkite a gyflwynodd y newyddion i CBS am flynyddoedd.

Sefydlodd Hewitt baramedrau ar gyfer perfformiad byw er mwyn cadw’r rhaglen newyddion yn y stiwdio i redeg yn esmwyth. Cyflawnwyd hyn trwy fyrfyfyrio, darllen yr awtociw, cyflwyno newyddion yn torri, sgwrsio â gwesteion yn y stiwdio a chydlynu adroddiadau newyddiadurwyr a oedd allan ar leoliad.

Mae cyflwynwyr yn ysgrifennu copi ac yn aml yn mynd allan ar aseiniad i gyflwyno’r rhaglen o’r maes er mwyn gweithredu fel llygad dyst i ddigwyddiadau arbennig.

Mae rhai o’r newyddiadurwyr mwyaf adnabyddus yn UDA wedi sefydlu eu hunain fel prif gyflwynwyr, gan gynnwys Cronkite, David Brinkley a Peter Jennings, ac mae ‘anchors’ cyfoes UDA yn aml yn bersonoliaethau enwog yn ogystal â chyflwyno’r newyddion. Nid yw sefydliadau newyddion mewn mannau eraill o’r byd yn defnyddio’r term ‘anchor’, ond mae’r newyddiadurwyr yn cyflwyno’r rhaglen newyddion yn yr un modd. Mae Bethan Rhys Roberts, Huw Edwards a Garry Owen ymhlith nifer o gyflwynwyr rhaglenni newyddion y Deyrnas Unedig sy’n dod o Gymru.

Mae beirniaid yn dadlau bod y cyflwynwyr Americanaidd – yr anchors – yn rhoi gormod o bwyslais ar ymddangosiad newyddion darlledu gan eu troi’n ‘selebs’. Gall hyn yn ei dro danseilio rôl draddodiadol newyddiadurwyr.



Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.