Cyflythreniad

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 12:32, 13 Medi 2018 gan RobertRhys (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

Defnydd o'r un llythrennau neu seiniau ar ddechrau dau neu fwy o eiriau yw cyflythreniad. Gwahaniaethir rhwng cyflythreniad, ar y naill law, a chyseinedd a chytseinedd ar y llall, gan y ffaith mai ar ddechrau’r gair y ceir y seiniau hyn mewn cyflythreniad. Nid yw cyflythrennu chwaith yn golygu’r un peth â chynghanedd, er mai’r un egwyddor a geir. Wrth gynganeddu, mae’r rheolau o ran ateb cytseiniaid a llafariaid yn fwy pendant, ac yn dibynnu ar safle’r llythrennau a’r seiniau o amgylch yr acen.

Defnyddir cyflythreniad yn aml mewn llenyddiaeth fel dyfais i gywreinio’r mynegiant neu i dynnu sylw at sain penodol sydd yn ategu’r ystyr neu’n cynnig gwrthbwynt iddo. Digwydd yn aml mewn barddoniaeth, a dwy enghraifft yw’r llinellau ’y sugnwr sydyn yn y wasgod wen’ gan R. Williams Parry, neu ‘trwst trenau’ gan Prosser Rhys. Fe’i ceir hefyd mewn rhyddiaith ac mewn drama, yn enwedig drama fydryddol. Mae’n ddyfais a gaiff ei defnyddio’n aml mewn ieithwedd hysbysebu ac ati. Gellir gorbwysleisio effaith cyflythreniad ar adegau, fodd bynnag, ac nid yw pob enghraifft ohono mewn testun o reidrwydd yn arwyddocaol.

Y mae’r farddoniaeth gynnar Gymraeg a oroesodd, a barddoniaeth Beirdd y Tywysogion yn enwedig, yn frith o gyflythrennu, a gellid dadlau mai o’r defnydd cyson o gyflythreniad, cytseinedd a chyseinedd y datblygodd y gynghanedd trwy dynhau a chaethiwo’r rheolau ynghlwm â’u defnydd. Gweler hefyd Cymeriad (cynghanedd), Cytseinedd.

Llŷr Gwyn Lewis


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.