Cyfnod Cwaternaidd

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

(Saesneg: quaternary period)

Mae’r cyfnod Cwaternaidd yn cwmpasu’r 2.6 miliwn o flynyddoedd diwethaf. Mae tuedd i oeri wedi bodoli yn ystod y cyfnod Cwaternaidd sy’n esbonio pam mae’r moroedd 18°C yn oerach heddiw nag ar unrhyw amser arall yn y cyfnod Cainosőig. Mae cylchrediadau o gyfnodau rhewlifol a rhyngrewlifol wedi bodoli trwy gydol y cyfnod Cwaternaidd. Gellir cynhyrchu cofnodion o newidiadau hinsoddol y cyfnod Cwaternaidd trwy edrych ar greiddiau yn y môr, mewn llynnoedd, iâ a chwrelau (gweler newid hinsawdd).

Mae’r cyfnod Cwaternaidd, sef y 2.6 miliwn o flynyddoedd diwethaf, wedi cael ei rannu yn ddwy ran, sef yr Holosen a’r Pleistosen ac yn dilyn penderfyniad yn 2009, rhan o’r cyfnod a arferid ei ystyried yn rhan o’r Pliosen. Cwmpasa’r holosen y ~11,500 o flynyddoedd diwethaf a’r Pleistosen o 11,500 yn ôl hyd at 2.6 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Mae rhai academyddion yn dadlau ein bod bellach wedi symud i gyfnod newydd, yr Anthroposen, ond mae’n fater dadleuol, ac nid oes cytundeb ar ei fodolaeth, yr angen amdano, na phryd i nodi fel dyddiad cychwyn. Wrth edrych yn fanwl ar newidiadau hinsoddol y cyfnod Cwaternaidd gellir gweld bod yr hinsawdd yn newid yn barhaus ac yn rheolaidd mewn cylchrediadau. Mae cylchrediad 41 mil o flynyddoedd yn dominyddu rhwng 2.6 a 0.6 miliwn o flynyddoedd yn ôl ac yna cylchrediad o 100 mil o flynyddoedd dros y 0.6 miliwn o flynyddoedd diwethaf. Gelwir y rhain yn gylchrediadau Milankovitch ar ôl y gŵr cyntaf a wnaeth fesuriadau manwl gywir o’r rhain.

Gellir cynhyrchu cofnodion o newidiadau hinsoddol y cyfnod Cwaternaidd yn yr amgylcheddau daearol a morol trwy edrych ar greiddiau yn y môr, iâ a gwaddodion llynnoedd. Unwaith y tynnir y creiddiau allan gellir defnyddio nifer o dechnegau gwahanol megis dadansoddi’r isotop ocsigen i ddyddio’r gwaddod gan greu cofnod o’r newid hinsawdd sydd wedi digwydd yn ystod y cyfnod Cwaternaidd.

Mae rhai cyfnodau yn y cyfnod Cwaternaidd sy’n amlygu eu hunain gan eu bod naill ai yn fwy eithafol neu wedi parhau am fwy o amser. Gwelir y ddwy esiampl agosaf i’r hinsawdd sydd gennym heddiw mewn cyfnodau rhyngrewlifol sef rhwng 420 a 390 mil o flynyddoedd yn ôl (cyfnod isotop ocsigen 11), a rhwng 130 a 115 mil o flynyddoedd yn ôl (cyfnod isotop ocsigen 5) sydd hefyd yn cael ei alw yn Eamaidd. Cyfnod arall amlwg yw’r cyfnod rhwng 20 a 80 mil o flynyddoedd yn ôl a oedd yn cynnwys digwyddiadau Heinrich sef bod nifer o fynyddoedd iâ yn ymddangos yn y cefnforoedd gan greu amodau oerach yn y pen draw oherwydd bod meintiau enfawr o ddŵr glân yn mynd i mewn i’r môr ac yn amharu ar gylchrediad y moroedd. Roedd y cyfnod rhewlifol diwethaf ar ei anterth tua 18,000 o flynyddoedd yn ôl. Cyfnod arall yw’r cynhesu a ddigwyddodd yn ystod yr Oesoedd Canol rhwng 900 O.C. a 1400 O.C. (gweler cyfnod cynnes yr oesoedd canol) a’r oes iâ fach rhwng 1550 O.C. a 1850 O.C.

Llyfryddiaeth

  • Adams, J., Maslin, M. a Thomas, E. (1999) Sudden climatic transitions during the Quaternary. Progress in Physical Geography, 23 (1), 1–36.
  • Goudie, A. S. (2003) Long term Environmental Change: Quaternary Climate Oscillations and their Impacts on the Environment, yn A. Rogers a H. A. Viles (gol.) The Student's Companion to Geography, Rhydychen, Blackwell Publishing Ltd.
  • Mannion, A. M. (1999) Natural Environmental Change. Llundain, Routledge.

Gweler hefyd wefan y Subcommission on Quaternary Stratigraphy


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.