Cyfnod amorteiddio

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Dyma gyfnod [fe’i mynegir fel arfer yn nhermau nifer o flynyddoedd] lle bydd gwerth ased yn gostwng o flwyddyn i flwyddyn. Dylid nodi bod gwahanol fathau ar werth terfynol. Gall fod yn 0 megis gwerth sgrap [scrap value]; gall fod yr ased yn lleihau mewn gwerth yn ôl y defnydd, e.e. pwll glo.

Gelwir hyn yn ased crebachol [wasting asset]; gall y gwerth terfynol [terminal value] fod ag iddo ryw werth, er ei fod yn llai. Y gwerth terfynol yw’r gwerth ar bapur [written-down value].

Owain Llywelyn

Llyfryddiaeth

https://www.ig.com/en/glossary-trading-terms/amortisation-definition

“The Glossary of Property Terms”, Estates Gazette, argraffiad 1993, tudalen 9



Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.