Cyfrinachedd

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 13:09, 5 Ebrill 2019 gan Gwenda Richards (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

Saesneg: Confidentiality

Yr addewid a wnaed gan newyddiadurwr i’w ffynhonnell i gadw ei hunaniaeth yn gyfrinachol, hyd yn oed yn wyneb pwysau dwys i’w datgelu. Yn egwyddor hirsefydlog o broffesiynoldeb, mae’r ymrwymiad hwn i gadw ffynhonnell yn anhysbys yn cael ei herio yn y llysoedd yn rheolaidd, lle y mae fel arfer yn cael ei ystyried yn wahanol i godau cyfrinachedd rhwng cleient â pherson mewn swydd broffesiynol, sy’n gysylltiedig â meddygon, cyfreithwyr, offeiriaid a gweinidogion crefyddol. Daw cyfrinachedd yn bwysig iawn mewn mathau o newyddiaduraeth lle y mae’r newyddiadurwr ei hun yn ymwneud â’r stori neu’r digwyddiad, (e.e. newyddiaduraeth eiriolaeth), oherwydd ei bod yn amlwg pam fod y newyddiadurwr am gadw’r ffynhonnell yn gyfrinachol.



Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.