Cyfweliad dwyffordd

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Saesneg: Two-way

Cyfweliad rhwng cyflwynydd yn y stiwdio â gohebydd, arbenigwr neu aelod o’r cyhoedd allan yn y maes. Gellir defnyddio ffôn symudol, lloeren neu gysylltiadau digidol eraill megis Skype neu FaceTime neu stiwdio fach dros dro megis car gydag offer darlledu ynddo. Yn Saesneg defnyddiwyd y term down the line i ddisgrifio cyfweliad dwyffordd cyn dyfodiad y rhyngrwyd, a oedd yn cyfeirio at y gwifrau teleffon arbenigol (ISDN) a gysylltai’r stiwdio a’r gohebydd allan yn y maes.



Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.