Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Cymdeithas Cerdd Dant Cymru"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
 
Llinell 2: Llinell 2:
 
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''
 
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''
  
Sefydlwyd Cymdeithas Cerdd Dant Cymru mewn cynhadledd genedlaethol yn y Bala yn 1934: cyfnod pan oedd diddordeb mawr yn y grefft, ond pan oedd hefyd lawer o ansicrwydd ynglŷn â’r rheolau. Ar ddechrau’r 20g., un o’r ffigurau amlycaf yn y byd [[cerdd dant]] oedd Dafydd Roberts, Telynor Mawddwy (1879–1956), gŵr a gafodd ei drwytho yn nhraddodiad cerdd dant ardal Mawddwy. Treuliodd gyfnod allweddol ym Mhlas Llanofer, lle meistrolodd y grefft o ganu’r delyn deires. Ei gyfraniad pwysicaf oedd cyhoeddi llawlyfr cerdd dant yn 1911 o’r enw ''Y Tant Aur''.
+
Sefydlwyd Cymdeithas Cerdd Dant Cymru mewn cynhadledd genedlaethol yn y Bala yn 1934: cyfnod pan oedd diddordeb mawr yn y grefft, ond pan oedd hefyd lawer o ansicrwydd ynglŷn â’r rheolau. Ar ddechrau’r 20g., un o’r ffigurau amlycaf yn y byd [[Cerdd Dant | cerdd dant]] oedd Dafydd Roberts, Telynor Mawddwy (1879-1956), gŵr a gafodd ei drwytho yn nhraddodiad cerdd dant ardal Mawddwy. Treuliodd gyfnod allweddol ym Mhlas Llanofer, lle meistrolodd y grefft o ganu’r delyn deires. Ei gyfraniad pwysicaf oedd cyhoeddi llawlyfr cerdd dant yn 1911 o’r enw ''Y Tant Aur''.
  
Fel gwaith Idris Fychan ryw chwarter canrif ynghynt, roedd ''Y Tant Aur'' yn adlewyrchu gosodiadau syml y cyfnod. Gwerthwyd rhai miloedd o’r argraffiad cyntaf, a bu raid i gwmni Snell gyhoeddi ail argraffiad bum mlynedd yn ddiweddarach. Ond roedd yr ail argraffiad hwn mewn gwirionedd yn fersiwn gwahanol iawn. Y datblygiad mwyaf amlwg yw’r ymdrech a wnaed i greu cyfalawon mwy cerddorol. Roedd Telynor Mawddwy ei hun, yn ei ragair i’r argraffiad cyntaf, wedi dyfynnu beirniadaeth y cerddor
+
Fel gwaith Idris Fychan ryw chwarter canrif ynghynt, roedd ''Y Tant Aur'' yn adlewyrchu gosodiadau syml y cyfnod. Gwerthwyd rhai miloedd o’r argraffiad cyntaf, a bu raid i gwmni Snell gyhoeddi ail argraffiad bum mlynedd yn ddiweddarach. Ond roedd yr ail argraffiad hwn mewn gwirionedd yn fersiwn gwahanol iawn. Y datblygiad mwyaf amlwg yw’r ymdrech a wnaed i greu cyfalawon mwy cerddorol. Roedd Telynor Mawddwy ei hun, yn ei ragair i’r argraffiad cyntaf, wedi dyfynnu beirniadaeth y cerddor [[Evans, David Emlyn (1843-1913) | D. Emlyn Evans]] (1843–1913) o bobl cerdd dant: ‘Perygl mawr datganwyr yw adrodd eu penillion ar ryw ychydig o seiniau, megis y cyweirnod neu y pumed, a thrwy hynny wneud y datganiad yn gaeth ac undonnog ''[sic]’'' (yn Roberts 1911). Cymerodd Dafydd Roberts y feirniadaeth hon at ei galon.
[[D. Emlyn Evans]] (1843–1913) o bobl cerdd dant: ‘Perygl mawr datganwyr yw adrodd eu penillion ar ryw ychydig o seiniau, megis y cyweirnod neu y pumed, a thrwy hynny wneud y datganiad yn gaeth ac undonnog ''[sic]’'' (yn Roberts 1911). Cymerodd Dafydd Roberts y feirniadaeth hon at ei galon.
 
  
Roedd y newidiadau a wnaed rhwng argraffiad cyntaf ac ail argraffiad ''Y Tant Aur'' yn cynrychioli trobwynt allweddol yn hanes y grefft. Agorwyd y drws i gyfalawon llawer mwy cerddorol rhywbeth a arweiniodd yn uniongyrchol at y pwyslais newydd hwn mewn cerdd dant am weddill yr 20g.
+
Roedd y newidiadau a wnaed rhwng argraffiad cyntaf ac ail argraffiad ''Y Tant Aur'' yn cynrychioli trobwynt allweddol yn hanes y grefft. Agorwyd y drws i gyfalawon llawer mwy cerddorol - rhywbeth a arweiniodd yn uniongyrchol at y pwyslais newydd hwn mewn cerdd dant am weddill yr 20g.
  
 
Ffigwr arall dylanwadol oedd y telynor dall, David Francis (1865–1929). I’w gartref ef ym Mlaenau Ffestiniog y cyrchai amryw o bobl i ddysgu’r grefft. Yn eu plith yr oedd J. E. Jones, Maentwrog, awdur y gyfrol o ysgrifau ''Swyn y Tannau'' (1936) ac un o ddatgeinwyr gorau’r cyfnod. Un arall oedd David Roberts (Dewi Mai o Feirion; 1883–1956) – gŵr a dyfodd i fod yn un o enwau mwyaf allweddol byd cerdd dant yr 20g. Yn ei golofn wythnosol yn ''Y Cymro'' a’r ''Brython'' yn yr 1930au, gwyntyllodd lu o gwestiynau yr oedd, yn ei dyb ef, daer angen eu hateb. Ysgogodd hyn lythyru brwd a chyson yn y wasg, a chanlyniad hynny yn y pen draw oedd galw’r gynhadledd i sefydlu’r Gymdeithas Cerdd Dant yn y Bala.
 
Ffigwr arall dylanwadol oedd y telynor dall, David Francis (1865–1929). I’w gartref ef ym Mlaenau Ffestiniog y cyrchai amryw o bobl i ddysgu’r grefft. Yn eu plith yr oedd J. E. Jones, Maentwrog, awdur y gyfrol o ysgrifau ''Swyn y Tannau'' (1936) ac un o ddatgeinwyr gorau’r cyfnod. Un arall oedd David Roberts (Dewi Mai o Feirion; 1883–1956) – gŵr a dyfodd i fod yn un o enwau mwyaf allweddol byd cerdd dant yr 20g. Yn ei golofn wythnosol yn ''Y Cymro'' a’r ''Brython'' yn yr 1930au, gwyntyllodd lu o gwestiynau yr oedd, yn ei dyb ef, daer angen eu hateb. Ysgogodd hyn lythyru brwd a chyson yn y wasg, a chanlyniad hynny yn y pen draw oedd galw’r gynhadledd i sefydlu’r Gymdeithas Cerdd Dant yn y Bala.
  
Yn 1934, lluniodd Dewi Mai restr o ddatgeiniaid cerdd dant a oedd yn arfer y grefft mewn gwahanol rannau o Gymru: cyfanswm rhyfeddol o 210. Ond os oedd bri amlwg ar y grefft, ymddengys fod cryn lawer o ddadlau ac anghytuno ynglŷn â sut i osod gwahanol fesurau barddonol, pa geinciau a oedd yn addas ac yn y blaen. I rai, efallai nad oedd hyn o dragwyddol bwys, ond gan fod cystadlu mewn [[eisteddfodau]] yn rhan amlwg o’r gweithgarwch, roedd y pwysau am reolau pendant yn cynyddu’n gyson. Yr angen hwnnw yn bennaf a arweiniodd at sefydlu’r Gymdeithas yn 1934. Ond mewn gwirionedd, ni chafodd yr holl reolau eu pennu’n derfynol hyd at yr 1960au. Cwynai rhai ar y pryd fod y rheolau newydd yn fwy tebygol o fygu canu gyda’r tannau yn hytrach na’i hyrwyddo, ond y brif effaith yn y pen draw oedd dileu ansicrwydd a chreu trefn o ganol yr anhrefn.
+
Yn 1934, lluniodd Dewi Mai restr o ddatgeiniaid cerdd dant a oedd yn arfer y grefft mewn gwahanol rannau o Gymru: cyfanswm rhyfeddol o 210. Ond os oedd bri amlwg ar y grefft, ymddengys fod cryn lawer o ddadlau ac anghytuno ynglŷn â sut i osod gwahanol fesurau barddonol, pa geinciau a oedd yn addas ac yn y blaen. I rai, efallai nad oedd hyn o dragwyddol bwys, ond gan fod cystadlu mewn [[Eisteddfod, Cerddoriaeth a'r | eisteddfodau]] yn rhan amlwg o’r gweithgarwch, roedd y pwysau am reolau pendant yn cynyddu’n gyson. Yr angen hwnnw yn bennaf a arweiniodd at sefydlu’r Gymdeithas yn 1934. Ond mewn gwirionedd, ni chafodd yr holl reolau eu pennu’n derfynol hyd at yr 1960au. Cwynai rhai ar y pryd fod y rheolau newydd yn fwy tebygol o fygu canu gyda’r tannau yn hytrach na’i hyrwyddo, ond y brif effaith yn y pen draw oedd dileu ansicrwydd a chreu trefn o ganol yr anhrefn.
  
 
Roedd materion eraill hefyd yn peri pryder. Testun cryn anfodlonrwydd oedd bod y cystadlaethau cerdd dant i gyd yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 1933 wedi’u gosod yn un o’r pebyll ymylol. Cwynai ambell un arall am ddirywiad mewn safonau o’i gymharu â’r dyddiau a fu. Roedd galw cyson hefyd am wella safonau cerddorol y grefft.
 
Roedd materion eraill hefyd yn peri pryder. Testun cryn anfodlonrwydd oedd bod y cystadlaethau cerdd dant i gyd yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 1933 wedi’u gosod yn un o’r pebyll ymylol. Cwynai ambell un arall am ddirywiad mewn safonau o’i gymharu â’r dyddiau a fu. Roedd galw cyson hefyd am wella safonau cerddorol y grefft.
  
Yn ei lyfr ''Hud a Hanes Cerdd Dannau'' mae [[Aled Lloyd Davies]] yn nodi 1947, y flwyddyn y cynhaliwyd yr Ŵyl Cerdd Dant gyntaf yn y Felinheli, fel dechrau cyfnod o adfywiad gwirioneddol, gan ddweud, ‘[o’r] dyddiad hwnnw y gwelwyd y Gymdeithas yn datblygu, yn tyfu mewn aelodaeth a dylanwad ac yn ehangu gorwelion ei diddordeb’ (Davies 1984). Erbyn dechrau’r 1980au roedd gan y Gymdeithas 850 o aelodau, ac roedd cyhoeddi ''Llawlyfr Gosod'' Aled Lloyd Davies ei hun yn 1983 yn ddigwyddiad o bwys: y llawlyfr cerdd dant mwyaf manwl a gyhoeddwyd erioed yn hanes y grefft.
+
Yn ei lyfr ''Hud a Hanes Cerdd Dannau'' mae [[Davies, Aled Lloyd (g.1930) | Aled Lloyd Davies]] yn nodi 1947, y flwyddyn y cynhaliwyd yr Ŵyl Cerdd Dant gyntaf yn y Felinheli, fel dechrau cyfnod o adfywiad gwirioneddol, gan ddweud, ‘[o’r] dyddiad hwnnw y gwelwyd y Gymdeithas yn datblygu, yn tyfu mewn aelodaeth a dylanwad ac yn ehangu gorwelion ei diddordeb’ (Davies 1984). Erbyn dechrau’r 1980au roedd gan y Gymdeithas 850 o aelodau, ac roedd cyhoeddi ''Llawlyfr Gosod'' Aled Lloyd Davies ei hun yn 1983 yn ddigwyddiad o bwys: y llawlyfr cerdd dant mwyaf manwl a gyhoeddwyd erioed yn hanes y grefft.
  
Tyfu a datblygu fu hanes cerdd dant drwy gydol yr 20g. Ar ddechrau’r ganrif, er mor frwd oedd ymdrechion yr unigolion a oedd yn ymhel â’r grefft, roedd y cyfan yn amatur a digyswllt. Dim ond yn raddol y newidiodd hynny, ac roedd sefydlu’r Gymdeithas yn gwbl allweddol yn y broses. Pan gyflwynwyd y gystadleuaeth [[côr]] cerdd dant yn yr 1970au, a phan dyfodd y gystadleuaeth honno mewn poblogrwydd, esgorodd ar y cyfnod mwyaf llewyrchus erioed o ran nifer cystadleuwyr a chynulleidfaoedd. Gydag S4C a Radio Cymru yn darlledu’r Ŵyl Cerdd Dant yn flynyddol, datblygodd yr ŵyl yn gyson yn ei maint a’i phroffesiynoldeb, ac o’r 1990au ymlaen dechreuodd y Gymdeithas dalu cyflog rhan-amser i drefnydd, Dewi Jones. [[Gŵyl]] undydd yw’r Ŵyl Cerdd Dant a gynhelir ym mis Tachwedd bob blwyddyn, bob yn ail yn y de a’r gogledd, gyda phwyllgor gwaith lleol yn trefnu dan arweiniad y trefnydd canolog.
+
Tyfu a datblygu fu hanes cerdd dant drwy gydol yr 20g. Ar ddechrau’r ganrif, er mor frwd oedd ymdrechion yr unigolion a oedd yn ymhel â’r grefft, roedd y cyfan yn amatur a digyswllt. Dim ond yn raddol y newidiodd hynny, ac roedd sefydlu’r Gymdeithas yn gwbl allweddol yn y broses. Pan gyflwynwyd y gystadleuaeth [[Corau Cymysg | côr]] cerdd dant yn yr 1970au, a phan dyfodd y gystadleuaeth honno mewn poblogrwydd, esgorodd ar y cyfnod mwyaf llewyrchus erioed o ran nifer cystadleuwyr a chynulleidfaoedd. Gydag S4C a Radio Cymru yn darlledu’r Ŵyl Cerdd Dant yn flynyddol, datblygodd yr ŵyl yn gyson yn ei maint a’i phroffesiynoldeb, ac o’r 1990au ymlaen dechreuodd y Gymdeithas dalu cyflog rhan-amser i drefnydd, Dewi Jones. [[Gwyliau Cerddoriaeth | Gŵyl]] undydd yw’r Ŵyl Cerdd Dant a gynhelir ym mis Tachwedd bob blwyddyn, bob yn ail yn y de a’r gogledd, gyda phwyllgor gwaith lleol yn trefnu dan arweiniad y trefnydd canolog.
  
 
Mae’r Gymdeithas yn cyhoeddi cylchgrawn, ''Allwedd y Tannau'', bob mis Awst, ac yn cynnal gwefan fywiog gyda chyfarwyddiadau gosod cerdd dant. Trefnir cwrs preswyl bob blwyddyn ar gyfer gosodwyr a hefyd i hyfforddi cyfeilyddion. Rheolir y Gymdeithas gan bwyllgor gwaith gyda chnewyllyn o ddeunaw aelod, traean ohonynt yn cael eu newid drwy etholiad yn flynyddol. Mae gan y Gymdeithas Swyddog Gweinyddol, Trefnydd yr Ŵyl ynghyd â deg ar hugain o delynau sy’n cael eu llogi i bobl ifanc sy’n awyddus i ddysgu chwarae, gyda swyddog yn gyfrifol amdanynt.
 
Mae’r Gymdeithas yn cyhoeddi cylchgrawn, ''Allwedd y Tannau'', bob mis Awst, ac yn cynnal gwefan fywiog gyda chyfarwyddiadau gosod cerdd dant. Trefnir cwrs preswyl bob blwyddyn ar gyfer gosodwyr a hefyd i hyfforddi cyfeilyddion. Rheolir y Gymdeithas gan bwyllgor gwaith gyda chnewyllyn o ddeunaw aelod, traean ohonynt yn cael eu newid drwy etholiad yn flynyddol. Mae gan y Gymdeithas Swyddog Gweinyddol, Trefnydd yr Ŵyl ynghyd â deg ar hugain o delynau sy’n cael eu llogi i bobl ifanc sy’n awyddus i ddysgu chwarae, gyda swyddog yn gyfrifol amdanynt.

Y diwygiad cyfredol, am 14:48, 6 Gorffennaf 2021

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Sefydlwyd Cymdeithas Cerdd Dant Cymru mewn cynhadledd genedlaethol yn y Bala yn 1934: cyfnod pan oedd diddordeb mawr yn y grefft, ond pan oedd hefyd lawer o ansicrwydd ynglŷn â’r rheolau. Ar ddechrau’r 20g., un o’r ffigurau amlycaf yn y byd cerdd dant oedd Dafydd Roberts, Telynor Mawddwy (1879-1956), gŵr a gafodd ei drwytho yn nhraddodiad cerdd dant ardal Mawddwy. Treuliodd gyfnod allweddol ym Mhlas Llanofer, lle meistrolodd y grefft o ganu’r delyn deires. Ei gyfraniad pwysicaf oedd cyhoeddi llawlyfr cerdd dant yn 1911 o’r enw Y Tant Aur.

Fel gwaith Idris Fychan ryw chwarter canrif ynghynt, roedd Y Tant Aur yn adlewyrchu gosodiadau syml y cyfnod. Gwerthwyd rhai miloedd o’r argraffiad cyntaf, a bu raid i gwmni Snell gyhoeddi ail argraffiad bum mlynedd yn ddiweddarach. Ond roedd yr ail argraffiad hwn mewn gwirionedd yn fersiwn gwahanol iawn. Y datblygiad mwyaf amlwg yw’r ymdrech a wnaed i greu cyfalawon mwy cerddorol. Roedd Telynor Mawddwy ei hun, yn ei ragair i’r argraffiad cyntaf, wedi dyfynnu beirniadaeth y cerddor D. Emlyn Evans (1843–1913) o bobl cerdd dant: ‘Perygl mawr datganwyr yw adrodd eu penillion ar ryw ychydig o seiniau, megis y cyweirnod neu y pumed, a thrwy hynny wneud y datganiad yn gaeth ac undonnog [sic]’ (yn Roberts 1911). Cymerodd Dafydd Roberts y feirniadaeth hon at ei galon.

Roedd y newidiadau a wnaed rhwng argraffiad cyntaf ac ail argraffiad Y Tant Aur yn cynrychioli trobwynt allweddol yn hanes y grefft. Agorwyd y drws i gyfalawon llawer mwy cerddorol - rhywbeth a arweiniodd yn uniongyrchol at y pwyslais newydd hwn mewn cerdd dant am weddill yr 20g.

Ffigwr arall dylanwadol oedd y telynor dall, David Francis (1865–1929). I’w gartref ef ym Mlaenau Ffestiniog y cyrchai amryw o bobl i ddysgu’r grefft. Yn eu plith yr oedd J. E. Jones, Maentwrog, awdur y gyfrol o ysgrifau Swyn y Tannau (1936) ac un o ddatgeinwyr gorau’r cyfnod. Un arall oedd David Roberts (Dewi Mai o Feirion; 1883–1956) – gŵr a dyfodd i fod yn un o enwau mwyaf allweddol byd cerdd dant yr 20g. Yn ei golofn wythnosol yn Y Cymro a’r Brython yn yr 1930au, gwyntyllodd lu o gwestiynau yr oedd, yn ei dyb ef, daer angen eu hateb. Ysgogodd hyn lythyru brwd a chyson yn y wasg, a chanlyniad hynny yn y pen draw oedd galw’r gynhadledd i sefydlu’r Gymdeithas Cerdd Dant yn y Bala.

Yn 1934, lluniodd Dewi Mai restr o ddatgeiniaid cerdd dant a oedd yn arfer y grefft mewn gwahanol rannau o Gymru: cyfanswm rhyfeddol o 210. Ond os oedd bri amlwg ar y grefft, ymddengys fod cryn lawer o ddadlau ac anghytuno ynglŷn â sut i osod gwahanol fesurau barddonol, pa geinciau a oedd yn addas ac yn y blaen. I rai, efallai nad oedd hyn o dragwyddol bwys, ond gan fod cystadlu mewn eisteddfodau yn rhan amlwg o’r gweithgarwch, roedd y pwysau am reolau pendant yn cynyddu’n gyson. Yr angen hwnnw yn bennaf a arweiniodd at sefydlu’r Gymdeithas yn 1934. Ond mewn gwirionedd, ni chafodd yr holl reolau eu pennu’n derfynol hyd at yr 1960au. Cwynai rhai ar y pryd fod y rheolau newydd yn fwy tebygol o fygu canu gyda’r tannau yn hytrach na’i hyrwyddo, ond y brif effaith yn y pen draw oedd dileu ansicrwydd a chreu trefn o ganol yr anhrefn.

Roedd materion eraill hefyd yn peri pryder. Testun cryn anfodlonrwydd oedd bod y cystadlaethau cerdd dant i gyd yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 1933 wedi’u gosod yn un o’r pebyll ymylol. Cwynai ambell un arall am ddirywiad mewn safonau o’i gymharu â’r dyddiau a fu. Roedd galw cyson hefyd am wella safonau cerddorol y grefft.

Yn ei lyfr Hud a Hanes Cerdd Dannau mae Aled Lloyd Davies yn nodi 1947, y flwyddyn y cynhaliwyd yr Ŵyl Cerdd Dant gyntaf yn y Felinheli, fel dechrau cyfnod o adfywiad gwirioneddol, gan ddweud, ‘[o’r] dyddiad hwnnw y gwelwyd y Gymdeithas yn datblygu, yn tyfu mewn aelodaeth a dylanwad ac yn ehangu gorwelion ei diddordeb’ (Davies 1984). Erbyn dechrau’r 1980au roedd gan y Gymdeithas 850 o aelodau, ac roedd cyhoeddi Llawlyfr Gosod Aled Lloyd Davies ei hun yn 1983 yn ddigwyddiad o bwys: y llawlyfr cerdd dant mwyaf manwl a gyhoeddwyd erioed yn hanes y grefft.

Tyfu a datblygu fu hanes cerdd dant drwy gydol yr 20g. Ar ddechrau’r ganrif, er mor frwd oedd ymdrechion yr unigolion a oedd yn ymhel â’r grefft, roedd y cyfan yn amatur a digyswllt. Dim ond yn raddol y newidiodd hynny, ac roedd sefydlu’r Gymdeithas yn gwbl allweddol yn y broses. Pan gyflwynwyd y gystadleuaeth côr cerdd dant yn yr 1970au, a phan dyfodd y gystadleuaeth honno mewn poblogrwydd, esgorodd ar y cyfnod mwyaf llewyrchus erioed o ran nifer cystadleuwyr a chynulleidfaoedd. Gydag S4C a Radio Cymru yn darlledu’r Ŵyl Cerdd Dant yn flynyddol, datblygodd yr ŵyl yn gyson yn ei maint a’i phroffesiynoldeb, ac o’r 1990au ymlaen dechreuodd y Gymdeithas dalu cyflog rhan-amser i drefnydd, Dewi Jones. Gŵyl undydd yw’r Ŵyl Cerdd Dant a gynhelir ym mis Tachwedd bob blwyddyn, bob yn ail yn y de a’r gogledd, gyda phwyllgor gwaith lleol yn trefnu dan arweiniad y trefnydd canolog.

Mae’r Gymdeithas yn cyhoeddi cylchgrawn, Allwedd y Tannau, bob mis Awst, ac yn cynnal gwefan fywiog gyda chyfarwyddiadau gosod cerdd dant. Trefnir cwrs preswyl bob blwyddyn ar gyfer gosodwyr a hefyd i hyfforddi cyfeilyddion. Rheolir y Gymdeithas gan bwyllgor gwaith gyda chnewyllyn o ddeunaw aelod, traean ohonynt yn cael eu newid drwy etholiad yn flynyddol. Mae gan y Gymdeithas Swyddog Gweinyddol, Trefnydd yr Ŵyl ynghyd â deg ar hugain o delynau sy’n cael eu llogi i bobl ifanc sy’n awyddus i ddysgu chwarae, gyda swyddog yn gyfrifol amdanynt.

Arfon Gwilym

Llyfryddiaeth

  • Dafydd Roberts, Y Tant Aur (Bermo, 1911)
  • J. E. Jones, Swyn y Tannau (Meirionydd, 1936)
  • Aled Lloyd Davies, Cerdd Dant: Llawlyfr Gosod (Gwynedd, 1983)
  • ———, Hud a Hanes Cerdd Dannau (Y Bala, 1984)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.