Cymdeithas Cerdd Dant Cymru

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 14:48, 6 Gorffennaf 2021 gan CadiW (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Sefydlwyd Cymdeithas Cerdd Dant Cymru mewn cynhadledd genedlaethol yn y Bala yn 1934: cyfnod pan oedd diddordeb mawr yn y grefft, ond pan oedd hefyd lawer o ansicrwydd ynglŷn â’r rheolau. Ar ddechrau’r 20g., un o’r ffigurau amlycaf yn y byd cerdd dant oedd Dafydd Roberts, Telynor Mawddwy (1879-1956), gŵr a gafodd ei drwytho yn nhraddodiad cerdd dant ardal Mawddwy. Treuliodd gyfnod allweddol ym Mhlas Llanofer, lle meistrolodd y grefft o ganu’r delyn deires. Ei gyfraniad pwysicaf oedd cyhoeddi llawlyfr cerdd dant yn 1911 o’r enw Y Tant Aur.

Fel gwaith Idris Fychan ryw chwarter canrif ynghynt, roedd Y Tant Aur yn adlewyrchu gosodiadau syml y cyfnod. Gwerthwyd rhai miloedd o’r argraffiad cyntaf, a bu raid i gwmni Snell gyhoeddi ail argraffiad bum mlynedd yn ddiweddarach. Ond roedd yr ail argraffiad hwn mewn gwirionedd yn fersiwn gwahanol iawn. Y datblygiad mwyaf amlwg yw’r ymdrech a wnaed i greu cyfalawon mwy cerddorol. Roedd Telynor Mawddwy ei hun, yn ei ragair i’r argraffiad cyntaf, wedi dyfynnu beirniadaeth y cerddor D. Emlyn Evans (1843–1913) o bobl cerdd dant: ‘Perygl mawr datganwyr yw adrodd eu penillion ar ryw ychydig o seiniau, megis y cyweirnod neu y pumed, a thrwy hynny wneud y datganiad yn gaeth ac undonnog [sic]’ (yn Roberts 1911). Cymerodd Dafydd Roberts y feirniadaeth hon at ei galon.

Roedd y newidiadau a wnaed rhwng argraffiad cyntaf ac ail argraffiad Y Tant Aur yn cynrychioli trobwynt allweddol yn hanes y grefft. Agorwyd y drws i gyfalawon llawer mwy cerddorol - rhywbeth a arweiniodd yn uniongyrchol at y pwyslais newydd hwn mewn cerdd dant am weddill yr 20g.

Ffigwr arall dylanwadol oedd y telynor dall, David Francis (1865–1929). I’w gartref ef ym Mlaenau Ffestiniog y cyrchai amryw o bobl i ddysgu’r grefft. Yn eu plith yr oedd J. E. Jones, Maentwrog, awdur y gyfrol o ysgrifau Swyn y Tannau (1936) ac un o ddatgeinwyr gorau’r cyfnod. Un arall oedd David Roberts (Dewi Mai o Feirion; 1883–1956) – gŵr a dyfodd i fod yn un o enwau mwyaf allweddol byd cerdd dant yr 20g. Yn ei golofn wythnosol yn Y Cymro a’r Brython yn yr 1930au, gwyntyllodd lu o gwestiynau yr oedd, yn ei dyb ef, daer angen eu hateb. Ysgogodd hyn lythyru brwd a chyson yn y wasg, a chanlyniad hynny yn y pen draw oedd galw’r gynhadledd i sefydlu’r Gymdeithas Cerdd Dant yn y Bala.

Yn 1934, lluniodd Dewi Mai restr o ddatgeiniaid cerdd dant a oedd yn arfer y grefft mewn gwahanol rannau o Gymru: cyfanswm rhyfeddol o 210. Ond os oedd bri amlwg ar y grefft, ymddengys fod cryn lawer o ddadlau ac anghytuno ynglŷn â sut i osod gwahanol fesurau barddonol, pa geinciau a oedd yn addas ac yn y blaen. I rai, efallai nad oedd hyn o dragwyddol bwys, ond gan fod cystadlu mewn eisteddfodau yn rhan amlwg o’r gweithgarwch, roedd y pwysau am reolau pendant yn cynyddu’n gyson. Yr angen hwnnw yn bennaf a arweiniodd at sefydlu’r Gymdeithas yn 1934. Ond mewn gwirionedd, ni chafodd yr holl reolau eu pennu’n derfynol hyd at yr 1960au. Cwynai rhai ar y pryd fod y rheolau newydd yn fwy tebygol o fygu canu gyda’r tannau yn hytrach na’i hyrwyddo, ond y brif effaith yn y pen draw oedd dileu ansicrwydd a chreu trefn o ganol yr anhrefn.

Roedd materion eraill hefyd yn peri pryder. Testun cryn anfodlonrwydd oedd bod y cystadlaethau cerdd dant i gyd yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 1933 wedi’u gosod yn un o’r pebyll ymylol. Cwynai ambell un arall am ddirywiad mewn safonau o’i gymharu â’r dyddiau a fu. Roedd galw cyson hefyd am wella safonau cerddorol y grefft.

Yn ei lyfr Hud a Hanes Cerdd Dannau mae Aled Lloyd Davies yn nodi 1947, y flwyddyn y cynhaliwyd yr Ŵyl Cerdd Dant gyntaf yn y Felinheli, fel dechrau cyfnod o adfywiad gwirioneddol, gan ddweud, ‘[o’r] dyddiad hwnnw y gwelwyd y Gymdeithas yn datblygu, yn tyfu mewn aelodaeth a dylanwad ac yn ehangu gorwelion ei diddordeb’ (Davies 1984). Erbyn dechrau’r 1980au roedd gan y Gymdeithas 850 o aelodau, ac roedd cyhoeddi Llawlyfr Gosod Aled Lloyd Davies ei hun yn 1983 yn ddigwyddiad o bwys: y llawlyfr cerdd dant mwyaf manwl a gyhoeddwyd erioed yn hanes y grefft.

Tyfu a datblygu fu hanes cerdd dant drwy gydol yr 20g. Ar ddechrau’r ganrif, er mor frwd oedd ymdrechion yr unigolion a oedd yn ymhel â’r grefft, roedd y cyfan yn amatur a digyswllt. Dim ond yn raddol y newidiodd hynny, ac roedd sefydlu’r Gymdeithas yn gwbl allweddol yn y broses. Pan gyflwynwyd y gystadleuaeth côr cerdd dant yn yr 1970au, a phan dyfodd y gystadleuaeth honno mewn poblogrwydd, esgorodd ar y cyfnod mwyaf llewyrchus erioed o ran nifer cystadleuwyr a chynulleidfaoedd. Gydag S4C a Radio Cymru yn darlledu’r Ŵyl Cerdd Dant yn flynyddol, datblygodd yr ŵyl yn gyson yn ei maint a’i phroffesiynoldeb, ac o’r 1990au ymlaen dechreuodd y Gymdeithas dalu cyflog rhan-amser i drefnydd, Dewi Jones. Gŵyl undydd yw’r Ŵyl Cerdd Dant a gynhelir ym mis Tachwedd bob blwyddyn, bob yn ail yn y de a’r gogledd, gyda phwyllgor gwaith lleol yn trefnu dan arweiniad y trefnydd canolog.

Mae’r Gymdeithas yn cyhoeddi cylchgrawn, Allwedd y Tannau, bob mis Awst, ac yn cynnal gwefan fywiog gyda chyfarwyddiadau gosod cerdd dant. Trefnir cwrs preswyl bob blwyddyn ar gyfer gosodwyr a hefyd i hyfforddi cyfeilyddion. Rheolir y Gymdeithas gan bwyllgor gwaith gyda chnewyllyn o ddeunaw aelod, traean ohonynt yn cael eu newid drwy etholiad yn flynyddol. Mae gan y Gymdeithas Swyddog Gweinyddol, Trefnydd yr Ŵyl ynghyd â deg ar hugain o delynau sy’n cael eu llogi i bobl ifanc sy’n awyddus i ddysgu chwarae, gyda swyddog yn gyfrifol amdanynt.

Arfon Gwilym

Llyfryddiaeth

  • Dafydd Roberts, Y Tant Aur (Bermo, 1911)
  • J. E. Jones, Swyn y Tannau (Meirionydd, 1936)
  • Aled Lloyd Davies, Cerdd Dant: Llawlyfr Gosod (Gwynedd, 1983)
  • ———, Hud a Hanes Cerdd Dannau (Y Bala, 1984)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.