Cymdeithas Emynau Cymru

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 14:42, 6 Gorffennaf 2021 gan CadiW (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Mewn darlith ar ‘Emynwyr Bro Morgannwg’ yn Eisteddfod Genedlaethol Pen-y-bont ar Ogwr, 1948, crybwyllodd Elfed y posibilrwydd o ffurfio cymdeithas emynau i Gymru, ar lun cymdeithasau tebyg ar gyfer Unol Daleithiau America a Chanada (a ffurfiwyd yn 1922) ac ar gyfer Prydain Fawr ac Iwerddon (a ffurfiwyd yn 1936). Ni sefydlwyd cymdeithas benodol ar y pryd, ac ymddiriedwyd y gwaith o astudio’r emyn Cymraeg a’i lyfryddiaeth i’r Gymdeithas Lyfryddol Gymreig. Ffurfiwyd Cymdeithas Emynau Cymru yn Eisteddfod Genedlaethol y Bala ar 10 Awst 1967, a’i nod yw hyrwyddo diddordeb ym mhob agwedd ar emynyddiaeth Cymru. Ei phrif amcanion yw dwyn pobl ynghyd i ddarlithiau ac ysgolion undydd i ddysgu ac i drafod gwahanol agweddau ar emynyddiaeth Cymru; casglu a diogelu defnyddiau; hyrwyddo astudio emynau ac emyn-donau; cyhoeddi ffrwyth ymchwil yn y maes; a chysylltu â chymdeithasau emynau mewn gwledydd eraill.

Ers 1968, mae’r Gymdeithas wedi cyhoeddi Bwletin o astudiaethau emynyddol, ac ers 2001 Gylchlythyr blynyddol yn ychwanegol at y Bwletin. Ceir ôl-rifynnau’r Bwletin ar wefan Cylchgronau Cymru ac ôl-rifynnau’r Cylchlythyr ar wefan y Gymdeithas ei hun (http://www.emynau.org). Mae’r Gymdeithas yn cynnal darlith flynyddol yn yr Eisteddfod Genedlaethol, a chyhoeddwyd y mwyafrif o’r darlithiau hyn yn y Bwletin. Er 1986 cynhaliwyd hefyd Ysgol Undydd flynyddol gyda phapurau a sesiynau trafod.

Erbyn hyn cyhoeddodd y Gymdeithas sawl cyfrol o ysgrifau ac emynau gan wahanol awduron. Mae’n cydweithio â Chymdeithas Emynau Prydain Fawr ac Iwerddon ac fe’i cynrychiolwyd yng nghynadleddau cydwladol yr Internationale Arbeitsgemeinschaft für Hymnologie (IAH).

Rhidian Griffiths



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.