Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Cymdeithasau ac Ysgolion Cerdd"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
 
Llinell 2: Llinell 2:
 
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''
 
Sefydlwyd nifer o gymdeithasau Cymraeg yn Llundain yn ystod y 18g. a’r 19g gyda’r nod o gynnig noddfa i Gymry gwlatgar a drigai yno ac i ddiwylliant Cymreig yn fwy cyffredinol. Sefydlwyd Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion yn 1751 gan Richard Morris, o deulu amryddawn Morrisiaid Môn. Bu’r Cymmrodorion yn gefnogol i gerddoriaeth Cymru, gan gyflogi telynorion megis [[John Parry]] (Parry Ddall) ac Ifan Wiliam i ddarparu adloniant cerddorol yn eu cyfarfodydd. Ystyriai John Parry y cyfarfodydd hyn yn gyfle i’r Cymry glywed ac ailgydio yn eu cerddoriaeth frodorol a chawsant eu disgrifio fel ‘the reign of song, hilarity and good fellowship’ (Jenkins a Ramage 1951, 163).
+
Sefydlwyd nifer o gymdeithasau Cymraeg yn Llundain yn ystod y 18g. a’r 19g gyda’r nod o gynnig noddfa i Gymry gwlatgar a drigai yno ac i ddiwylliant Cymreig yn fwy cyffredinol. Sefydlwyd Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion yn 1751 gan Richard Morris, o deulu amryddawn Morrisiaid Môn. Bu’r Cymmrodorion yn gefnogol i gerddoriaeth Cymru, gan gyflogi telynorion megis [[Parry, John (Parry Ddall; c.1710-82) | John Parry]] (Parry Ddall) ac Ifan Wiliam i ddarparu adloniant cerddorol yn eu cyfarfodydd. Ystyriai John Parry y cyfarfodydd hyn yn gyfle i’r Cymry glywed ac ailgydio yn eu cerddoriaeth frodorol a chawsant eu disgrifio fel ‘the reign of song, hilarity and good fellowship’ (Jenkins a Ramage 1951, 163).
  
Cymdeithas arall a gyfrannai at ddadeni diwylliannol y cyfnod oedd Cymdeithas y Gwyneddigion a sefydlwyd yn 1770 gan Owain Myfyr a Robin Ddu yr Ail o Fôn. Un o gyfraniadau mawr y Gwyneddigion oedd hyrwyddo’r gwaith o gyhoeddi llenyddiaeth Gymraeg yr oesoedd a fu, sef ''Barddoniaeth Dafydd ab Gwilym'' (1789), ''The Heroic Elegies and Other Pieces of Llywarch Hen'' (1792), ''The Myvyrian Archaiology of Wales'' (1801–7) a chylchgrawn hynafiaethol ''Y Greal'' (1805–7). Yn wahanol i’r Cymmrodorion, dyma gymdeithas a oedd yn ymroi mwy i ddifyrrwch diwylliannol a byddai canu’r delyn a chanu penillion yn rhan greiddiol o’r cyfarfodydd. Erbyn troad y 19g. tyfodd y Gwyneddigion yn un o’r cymdeithasau mwyaf poblogaidd ymysg Cymry Llundain y dydd. Cyflawnent waith ysgolheigaidd di-ail dros ddiwylliant, llenyddiaeth, cerddoriaeth a barddoniaeth Gymraeg (Williams 1935, 15) a’r amod wrth ymaelodi oedd y gallu i siarad Cymraeg a hoffter o ganu, neu o leiaf hoffter o wrando ar farddoniaeth yn cael ei chanu i gyfeiliant [[telyn]].
 
Ymaelododd [[Edward Jones]] (Bardd y Brenin) â’r Gwyneddigion yn 1783 (Williams 1935) ac yn ddiweddarach, yn 1819, penodwyd [[John Parry]] (Bardd Alaw) yn llywydd y gymdeithas. Hyrwyddent y traddodiad [[canu gwerin]] trwy gyfrwng yr [[eisteddfodau]] a noddid ganddynt. Cynhaliwyd Eisteddfodau’r Gwyneddigion rhwng 1789 ac 1795 ([[Kinney]] 2011, 164) a ffrwyth un o gystadlaethau eu heisteddfod gyntaf yn y Bala oedd ''Musical and Poetical Relicks of the Welsh Bards'' (1794). Yr awdur, Edward Jones, a gynigiodd dlws am ‘y casgliad gorau o benillion telyn’ (Williams 1936, 94; Ramage yn Morgan 1966, 205) a’r clerigwr Gwallter Mechain a ddaeth i’r brig.
+
Ymaelododd [[Jones, Edward (Bardd y Brenin; 1752-1824) | Edward Jones]] (Bardd y Brenin) â’r Gwyneddigion yn 1783 (Williams 1935) ac yn ddiweddarach, yn 1819, penodwyd [[Parry, John (Bardd Alaw; 1776-1851) | John Parry]] (Bardd Alaw) yn llywydd y gymdeithas. Hyrwyddent y traddodiad [[Gwerin, Canu a Cherddoriaeth Draddodiadol | canu gwerin]] trwy gyfrwng yr [[Eisteddfod, Cerddoriaeth a'r | eisteddfodau]] a noddid ganddynt. Cynhaliwyd Eisteddfodau’r Gwyneddigion rhwng 1789 ac 1795 ([[Kinney, Phyllis (g.1922) | Kinney]] 2011, 164) a ffrwyth un o gystadlaethau eu heisteddfod gyntaf yn y Bala oedd ''Musical and Poetical Relicks of the Welsh Bards'' (1794). Yr awdur, Edward Jones, a gynigiodd dlws am ‘y casgliad gorau o benillion telyn’ (Williams 1936, 94; Ramage yn Morgan 1966, 205) a’r clerigwr Gwallter Mechain a ddaeth i’r brig.
  
Yn 1794 sefydlwyd cangen gyntaf Cymdeithas y Cymreigyddion yn Llundain gan John Jones (Jac Glan-y-gors) a Thomas Roberts (Llwyn’rhudol) a’i hamcan oedd diogelu’r Gymraeg a chynnig man cyfarfod i Gymry’r brifddinas i ddadlau ynghylch materion gwleidyddol. Cynhalient eu heisteddfodau lleol eu hunain (Ramage yn Morgan 1966, 155) ac yn 1810 penderfynwyd gwahodd telynorion a chantorion i’w cylch (Jenkins a Ramage 1951, 131). Daeth eu gweithgarwch i ben yn 1855. Fodd bynnag, sefydlwyd dwy gymdeithas a ymddiddorai’n arbennig mewn canu gyda’r delyn yn Llundain, sef Y Canorion ac Undeb Cymry. Sefydlwyd y naill gan Bardd Alaw yn 1820 a’r llall yn 1823, a bwriad y ddwy oedd hybu cerddoriaeth y delyn. Cyfarfyddent mewn tafarndai i gydganu a pherfformio alawon Cymreig.
 
Cymdeithas arall a hyrwyddai gerddoriaeth draddodiadol Cymru oedd Cymreigyddion y Fenni a sefydlwyd ar 22 Tachwedd 1833 (gw. Gregory 1950, 97; Thomas 1978, 1; Stephens 1997, 141), gyda Thomas Price (Carnhuanawc), [[Augusta Hall]] (Arglwyddes Llanofer), y Foneddiges Elizabeth Brown Greenly (Llwydlas) a John Jones (Tegid) ymysg ei haelodau mwyaf blaenllaw. Cynhaliwyd deg eisteddfod rhwng 1834 ac 1853 a chynnyrch un o gystadlaethau eisteddfod 1838 oedd ''Ancient National Airs of Gwent and Morganwg'' (1844) gan [[Maria Jane Williams]], sef y casgliad cyhoeddedig cyntaf o gerddoriaeth werin Gymreig (Huws 1973–4, 93). O ganlyniad, rhoddodd y gymdeithas hon ‘wasanaeth gwerthfawr i lên a cherddoriaeth Cymru’ (Gregory 1954, 37). Erbyn i’r gymdeithas ddod i ben ar 14 Ionawr 1854, cafwyd cartref newydd i feithrin llên a diwylliant Cymru gyda gwaith y cymdeithasau taleithiol a’r hen bersoniaid llengar.
+
Cymdeithas arall a hyrwyddai gerddoriaeth draddodiadol Cymru oedd Cymreigyddion y Fenni a sefydlwyd ar 22 Tachwedd 1833 (gw. Gregory 1950, 97; Thomas 1978, 1; Stephens 1997, 141), gyda Thomas Price (Carnhuanawc), [[Hall, Augusta (1802-96) | Augusta Hall]] (Arglwyddes Llanofer), y Foneddiges Elizabeth Brown Greenly (Llwydlas) a John Jones (Tegid) ymysg ei haelodau mwyaf blaenllaw. Cynhaliwyd deg eisteddfod rhwng 1834 ac 1853 a chynnyrch un o gystadlaethau eisteddfod 1838 oedd ''Ancient National Airs of Gwent and Morganwg'' (1844) gan [[Williams, Maria Jane (1795-1873) | Maria Jane Williams]], sef y casgliad cyhoeddedig cyntaf o gerddoriaeth werin Gymreig (Huws 1973–4, 93). O ganlyniad, rhoddodd y gymdeithas hon ‘wasanaeth gwerthfawr i lên a cherddoriaeth Cymru’ (Gregory 1954, 37). Erbyn i’r gymdeithas ddod i ben ar 14 Ionawr 1854, cafwyd cartref newydd i feithrin llên a diwylliant Cymru gyda gwaith y cymdeithasau taleithiol a’r hen bersoniaid llengar.
  
'''Leila Salisbury'''
 
'''Leila Salisbury'''

Y diwygiad cyfredol, am 14:39, 6 Gorffennaf 2021

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Sefydlwyd nifer o gymdeithasau Cymraeg yn Llundain yn ystod y 18g. a’r 19g gyda’r nod o gynnig noddfa i Gymry gwlatgar a drigai yno ac i ddiwylliant Cymreig yn fwy cyffredinol. Sefydlwyd Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion yn 1751 gan Richard Morris, o deulu amryddawn Morrisiaid Môn. Bu’r Cymmrodorion yn gefnogol i gerddoriaeth Cymru, gan gyflogi telynorion megis John Parry (Parry Ddall) ac Ifan Wiliam i ddarparu adloniant cerddorol yn eu cyfarfodydd. Ystyriai John Parry y cyfarfodydd hyn yn gyfle i’r Cymry glywed ac ailgydio yn eu cerddoriaeth frodorol a chawsant eu disgrifio fel ‘the reign of song, hilarity and good fellowship’ (Jenkins a Ramage 1951, 163).

Cymdeithas arall a gyfrannai at ddadeni diwylliannol y cyfnod oedd Cymdeithas y Gwyneddigion a sefydlwyd yn 1770 gan Owain Myfyr a Robin Ddu yr Ail o Fôn. Un o gyfraniadau mawr y Gwyneddigion oedd hyrwyddo’r gwaith o gyhoeddi llenyddiaeth Gymraeg yr oesoedd a fu, sef Barddoniaeth Dafydd ab Gwilym (1789), The Heroic Elegies and Other Pieces of Llywarch Hen (1792), The Myvyrian Archaiology of Wales (1801–7) a chylchgrawn hynafiaethol Y Greal (1805–7). Yn wahanol i’r Cymmrodorion, dyma gymdeithas a oedd yn ymroi mwy i ddifyrrwch diwylliannol a byddai canu’r delyn a chanu penillion yn rhan greiddiol o’r cyfarfodydd. Erbyn troad y 19g. tyfodd y Gwyneddigion yn un o’r cymdeithasau mwyaf poblogaidd ymysg Cymry Llundain y dydd. Cyflawnent waith ysgolheigaidd di-ail dros ddiwylliant, llenyddiaeth, cerddoriaeth a barddoniaeth Gymraeg (Williams 1935, 15) a’r amod wrth ymaelodi oedd y gallu i siarad Cymraeg a hoffter o ganu, neu o leiaf hoffter o wrando ar farddoniaeth yn cael ei chanu i gyfeiliant telyn.

Ymaelododd Edward Jones (Bardd y Brenin) â’r Gwyneddigion yn 1783 (Williams 1935) ac yn ddiweddarach, yn 1819, penodwyd John Parry (Bardd Alaw) yn llywydd y gymdeithas. Hyrwyddent y traddodiad canu gwerin trwy gyfrwng yr eisteddfodau a noddid ganddynt. Cynhaliwyd Eisteddfodau’r Gwyneddigion rhwng 1789 ac 1795 ( Kinney 2011, 164) a ffrwyth un o gystadlaethau eu heisteddfod gyntaf yn y Bala oedd Musical and Poetical Relicks of the Welsh Bards (1794). Yr awdur, Edward Jones, a gynigiodd dlws am ‘y casgliad gorau o benillion telyn’ (Williams 1936, 94; Ramage yn Morgan 1966, 205) a’r clerigwr Gwallter Mechain a ddaeth i’r brig.

Yn 1794 sefydlwyd cangen gyntaf Cymdeithas y Cymreigyddion yn Llundain gan John Jones (Jac Glan-y-gors) a Thomas Roberts (Llwyn’rhudol) a’i hamcan oedd diogelu’r Gymraeg a chynnig man cyfarfod i Gymry’r brifddinas i ddadlau ynghylch materion gwleidyddol. Cynhalient eu heisteddfodau lleol eu hunain (Ramage yn Morgan 1966, 155) ac yn 1810 penderfynwyd gwahodd telynorion a chantorion i’w cylch (Jenkins a Ramage 1951, 131). Daeth eu gweithgarwch i ben yn 1855. Fodd bynnag, sefydlwyd dwy gymdeithas a ymddiddorai’n arbennig mewn canu gyda’r delyn yn Llundain, sef Y Canorion ac Undeb Cymry. Sefydlwyd y naill gan Bardd Alaw yn 1820 a’r llall yn 1823, a bwriad y ddwy oedd hybu cerddoriaeth y delyn. Cyfarfyddent mewn tafarndai i gydganu a pherfformio alawon Cymreig.

Cymdeithas arall a hyrwyddai gerddoriaeth draddodiadol Cymru oedd Cymreigyddion y Fenni a sefydlwyd ar 22 Tachwedd 1833 (gw. Gregory 1950, 97; Thomas 1978, 1; Stephens 1997, 141), gyda Thomas Price (Carnhuanawc), Augusta Hall (Arglwyddes Llanofer), y Foneddiges Elizabeth Brown Greenly (Llwydlas) a John Jones (Tegid) ymysg ei haelodau mwyaf blaenllaw. Cynhaliwyd deg eisteddfod rhwng 1834 ac 1853 a chynnyrch un o gystadlaethau eisteddfod 1838 oedd Ancient National Airs of Gwent and Morganwg (1844) gan Maria Jane Williams, sef y casgliad cyhoeddedig cyntaf o gerddoriaeth werin Gymreig (Huws 1973–4, 93). O ganlyniad, rhoddodd y gymdeithas hon ‘wasanaeth gwerthfawr i lên a cherddoriaeth Cymru’ (Gregory 1954, 37). Erbyn i’r gymdeithas ddod i ben ar 14 Ionawr 1854, cafwyd cartref newydd i feithrin llên a diwylliant Cymru gyda gwaith y cymdeithasau taleithiol a’r hen bersoniaid llengar.

Leila Salisbury

Llyfryddiaeth

  • G. J. Williams, ‘Eisteddfodau’r Gwyneddigion’, Y Llenor, XIV (1935), 11–22
  • ———, ‘Eisteddfodau’r Gwyneddigion II’, Y Llenor, XV (1936), 88–96
  • Mair Gregory, ‘Cymdeithas Cymreigyddion y Fenni’, Llên Cymru, I/2 (1950), 97–112
  • R. T. Jenkins and H. Ramage, A History of the Honourable Society of Cymmrodorion, and of the Gwyneddigion and Cymreigyddion Societies (1751–1951) (Llundain, 1951)
  • Mair Gregory, ‘Cymdeithas Cymreigyddion y Fenni II’, Llên Cymru, III/1 (1954), 32–42
  • Helen Ramage, ‘Yr Eisteddfod’, yn Dyfnallt Morgan (gol.), Gwýr Llên y Ddeunawfed Ganrif a’u Cefndir (Llandybïe, 1966 [1977]), 198–206
  • D. Huws, ‘Ancient National Airs of Gwent and Morgannwg’, Cerddoriaeth Cymru/Welsh Music, 4/5 (Gaeaf, 1973–4), 93
  • Mair Elvet Thomas, Afiaith yng Ngwent (Caerdydd, 1978)
  • M. Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Caerdydd, 1997)
  • Phyllis Kinney, Welsh Traditional Music (Caerdydd, 2011)

Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.