Cymdeithasau ac Ysgolion Cerdd

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 19:54, 2 Mawrth 2021 gan CadiW (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Sefydlwyd nifer o gymdeithasau Cymraeg yn Llundain yn ystod y 18g. a’r 19g gyda’r nod o gynnig noddfa i Gymry gwlatgar a drigai yno ac i ddiwylliant Cymreig yn fwy cyffredinol. Sefydlwyd Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion yn 1751 gan Richard Morris, o deulu amryddawn Morrisiaid Môn. Bu’r Cymmrodorion yn gefnogol i gerddoriaeth Cymru, gan gyflogi telynorion megis John Parry (Parry Ddall) ac Ifan Wiliam i ddarparu adloniant cerddorol yn eu cyfarfodydd. Ystyriai John Parry y cyfarfodydd hyn yn gyfle i’r Cymry glywed ac ailgydio yn eu cerddoriaeth frodorol a chawsant eu disgrifio fel ‘the reign of song, hilarity and good fellowship’ (Jenkins a Ramage 1951, 163).

Cymdeithas arall a gyfrannai at ddadeni diwylliannol y cyfnod oedd Cymdeithas y Gwyneddigion a sefydlwyd yn 1770 gan Owain Myfyr a Robin Ddu yr Ail o Fôn. Un o gyfraniadau mawr y Gwyneddigion oedd hyrwyddo’r gwaith o gyhoeddi llenyddiaeth Gymraeg yr oesoedd a fu, sef Barddoniaeth Dafydd ab Gwilym (1789), The Heroic Elegies and Other Pieces of Llywarch Hen (1792), The Myvyrian Archaiology of Wales (1801–7) a chylchgrawn hynafiaethol Y Greal (1805–7). Yn wahanol i’r Cymmrodorion, dyma gymdeithas a oedd yn ymroi mwy i ddifyrrwch diwylliannol a byddai canu’r delyn a chanu penillion yn rhan greiddiol o’r cyfarfodydd. Erbyn troad y 19g. tyfodd y Gwyneddigion yn un o’r cymdeithasau mwyaf poblogaidd ymysg Cymry Llundain y dydd. Cyflawnent waith ysgolheigaidd di-ail dros ddiwylliant, llenyddiaeth, cerddoriaeth a barddoniaeth Gymraeg (Williams 1935, 15) a’r amod wrth ymaelodi oedd y gallu i siarad Cymraeg a hoffter o ganu, neu o leiaf hoffter o wrando ar farddoniaeth yn cael ei chanu i gyfeiliant telyn.

Ymaelododd Edward Jones (Bardd y Brenin) â’r Gwyneddigion yn 1783 (Williams 1935) ac yn ddiweddarach, yn 1819, penodwyd John Parry (Bardd Alaw) yn llywydd y gymdeithas. Hyrwyddent y traddodiad canu gwerin trwy gyfrwng yr eisteddfodau a noddid ganddynt. Cynhaliwyd Eisteddfodau’r Gwyneddigion rhwng 1789 ac 1795 (Kinney 2011, 164) a ffrwyth un o gystadlaethau eu heisteddfod gyntaf yn y Bala oedd Musical and Poetical Relicks of the Welsh Bards (1794). Yr awdur, Edward Jones, a gynigiodd dlws am ‘y casgliad gorau o benillion telyn’ (Williams 1936, 94; Ramage yn Morgan 1966, 205) a’r clerigwr Gwallter Mechain a ddaeth i’r brig.

Yn 1794 sefydlwyd cangen gyntaf Cymdeithas y Cymreigyddion yn Llundain gan John Jones (Jac Glan-y-gors) a Thomas Roberts (Llwyn’rhudol) a’i hamcan oedd diogelu’r Gymraeg a chynnig man cyfarfod i Gymry’r brifddinas i ddadlau ynghylch materion gwleidyddol. Cynhalient eu heisteddfodau lleol eu hunain (Ramage yn Morgan 1966, 155) ac yn 1810 penderfynwyd gwahodd telynorion a chantorion i’w cylch (Jenkins a Ramage 1951, 131). Daeth eu gweithgarwch i ben yn 1855. Fodd bynnag, sefydlwyd dwy gymdeithas a ymddiddorai’n arbennig mewn canu gyda’r delyn yn Llundain, sef Y Canorion ac Undeb Cymry. Sefydlwyd y naill gan Bardd Alaw yn 1820 a’r llall yn 1823, a bwriad y ddwy oedd hybu cerddoriaeth y delyn. Cyfarfyddent mewn tafarndai i gydganu a pherfformio alawon Cymreig.

Cymdeithas arall a hyrwyddai gerddoriaeth draddodiadol Cymru oedd Cymreigyddion y Fenni a sefydlwyd ar 22 Tachwedd 1833 (gw. Gregory 1950, 97; Thomas 1978, 1; Stephens 1997, 141), gyda Thomas Price (Carnhuanawc), Augusta Hall (Arglwyddes Llanofer), y Foneddiges Elizabeth Brown Greenly (Llwydlas) a John Jones (Tegid) ymysg ei haelodau mwyaf blaenllaw. Cynhaliwyd deg eisteddfod rhwng 1834 ac 1853 a chynnyrch un o gystadlaethau eisteddfod 1838 oedd Ancient National Airs of Gwent and Morganwg (1844) gan Maria Jane Williams, sef y casgliad cyhoeddedig cyntaf o gerddoriaeth werin Gymreig (Huws 1973–4, 93). O ganlyniad, rhoddodd y gymdeithas hon ‘wasanaeth gwerthfawr i lên a cherddoriaeth Cymru’ (Gregory 1954, 37). Erbyn i’r gymdeithas ddod i ben ar 14 Ionawr 1854, cafwyd cartref newydd i feithrin llên a diwylliant Cymru gyda gwaith y cymdeithasau taleithiol a’r hen bersoniaid llengar.

Leila Salisbury

Llyfryddiaeth

G. J. Williams, ‘Eisteddfodau’r Gwyneddigion’, Y Llenor, XIV (1935), 11–22
———, ‘Eisteddfodau’r Gwyneddigion II’, Y Llenor, XV (1936), 88–96
Mair Gregory, ‘Cymdeithas Cymreigyddion y Fenni’, Llên Cymru, I/2 (1950), 97–112
R. T. Jenkins and H. Ramage, A History of the Honourable Society of Cymmrodorion, and of the Gwyneddigion and Cymreigyddion Societies (1751–1951) (Llundain, 1951)
Mair Gregory, ‘Cymdeithas Cymreigyddion y Fenni II’,

Llên Cymru, III/1 (1954), 32–42

Helen Ramage, ‘Yr Eisteddfod’, yn Dyfnallt Morgan (gol.), Gwýr Llên y Ddeunawfed Ganrif a’u Cefndir (Llandybïe, 1966 [1977]), 198–206
D. Huws, ‘Ancient National Airs of Gwent and Morgannwg’, Cerddoriaeth Cymru/Welsh Music, 4/5 (Gaeaf, 1973–4), 93
Mair Elvet Thomas, Afiaith yng Ngwent (Caerdydd, 1978)
M. Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Caerdydd, 1997)
Phyllis Kinney, Welsh Traditional Music (Caerdydd, 2011)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.