Cymdeithasiaeth

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 12:38, 6 Mehefin 2016 gan Dafydd James (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio


Bathwyd y term ‘cymdeithasiaeth’ gan Robert Jones Derfel (1824-1905) yn yr 1880au i gyfleu'r cysyniad ‘sosialaeth’ mewn cyd-destun Cymreig. Trwy ddarllen gweithiau Robert Owen o’r Drenewydd, tad y mudiad cydweithredol, y daeth R. J. Derfel yn sosialydd, ac o’r cychwyn rhoddodd bwyslais arbennig ar ‘[g]ydweithrediad, cydfeddiant, cydfwynhad’, yn ogystal â chydraddoldeb, wrth ddiffinio cymdeithasiaeth. ‘[E]fengyl newydd Cymdeithasiaeth i bobl Cymru,’ meddai yn y cylchgrawn Cymru Fydd yn 1888, yw bod ‘rhaid cenedleiddio…tir, a thai a gwaith’ er mwyn ‘sicrhau'r elw, sydd yn awr yn myned i logellau'r ychydig, i'r cyfundeb er lles i bawb yn y cyfundeb.’ Oherwydd y pwyslais a roddai ar les cymunedau, ni welai Derfel anhawster mewn bod yn sosialydd ac yn genedlaetholwr Cymreig: ‘Yr wyf yn methu â gweled bod dim Cymdeithasiaeth yn gofyn i mi beidio â bod yn Gymro,’ meddai yn 1900.

Fodd bynnag, wrth i’r Blaid Lafur gyda’i phwyslais rhyngwladol ddyfod i rym yng Nghymru yn negawdau cynnar yr 20g. disodlwyd y term ‘cymdeithasiaeth’ gan ‘sosialaeth’. Ond yn yr 1970au ac 1980au cafodd y term adfywiad yn natganiadau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg. ‘[G]an mai yn unig tu fewn i gyd-destun cymuned fyw y gellir adfer iaith…daeth tynged a pharhad cymunedau lleol, a’r polisïau a alwn yn gymdeithasiaeth, i ganol ein hagenda gwleidyddol,’ meddai Ffred Ffransis yn ei bamffled Cymdeithasiaeth - Yr Ail Ffrynt. Gwelai gyfalafiaeth ‘unigolyddol, gwladwriaethol, neu (yn fwyaf peryglus) cydwladol’ fel y prif fygythiad i ddyfodol cymunedau Cymreig; rhaid oedd cynyddu grym democrataidd a chydweithredol cynghorau lleol i’w gwrthsefyll. Ar yr un adeg, cafwyd dadansoddiadau tebyg gan Raymond Williams wrth iddo yntau ymaelodi â Phlaid Cymru a phwysleisio pwysigrwydd ‘sosialaeth bro’. ‘A new theory of socialism must now centrally involve place’, meddai mewn cyfweliad a gyhoeddwyd yn Radical Wales yn 1984; yma, ac mewn llawer erthygl arall, mae ‘sosialaeth bro’ Williams yn ymdebygu i gymdeithasiaeth Derfel.

Gan mai fel bardd yr adwaenid Derfel yn bennaf, yn nechrau’r 20g. cysylltwyd y term ‘cymdeithasiaeth’ â gweithgaredd llenyddol. ‘[B]ardd cymdeithasiaeth oedd R. J. Derfel,’ meddai J. Breeze Davies yn 1923. ‘Dylasai ei Ganeuon fod ym meddiant pob gweithiwr’, meddai T. E. Nicholas yn 1912, gan gyfeirio at y casgliad a gyhoeddwyd gan Derfel yn 1891, sy’n cynnwys cerddi fel ‘Pob un i bawb - pawb i bob un’ lle anogir y Cymry i ddiddymu tlodi a meddiannu eu cymunedau, neu ‘Gwerth yr hyn sydd gennyt’, sy’n herio cyfalafwyr Cymreig penodol fel Arglwydd Penrhyn i drosglwyddo’u cyfoeth ‘yn feddiant cymdeithasol’ i’r cymunedau a ecsbloetiwyd ganddynt. Ar ôl ei ddisodli gan y term ‘sosialaeth’, ni ddefnyddiwyd ‘cymdeithasiaeth’ i gyfeirio at weithiau llên, ond gellid dadlau mai ‘bardd cymdeithasiaeth’ yn yr un modd oedd T. E. Nicholas yntau, yn ogystal â beirdd Eingl-Gymreig megis Huw Menai yn Through the Upcast Shaft (1920) ac Idris Davies yn ei farddoniaeth yntau. Oherwydd iddynt ganolbwyntio ar bortreadu cymunedau Cymreig yn gwrthsefyll effeithiau niweidiol cyfalafiaeth, mae gwaith nifer o nofelwyr Eingl-Gymreig yr 1930au yn perthyn i’r un categori hefyd, fel, er enghraifft, nofel Lewis Jones, Cwmardy (1937) a thrioleg Rhys Davies am gymunedau Cwm Clydach yn y Rhondda – Honey and Bread, A Time to Laugh a Jubilee Blues (1935, 1937, 1939). Yn ddiweddarach ceir mewn nofelau fel The Fight for Manod (1979) Raymond Williams, neu Shifts (1988) Chris Meredith yr un pwyslais ar geisio sicrhau dyfodol cymunedau Cymreig a’u diwylliant cynhenid yn wyneb cyfalafiaeth sy’n ddiystyriol o’u hanghenion. Yn y Gymraeg gellid dadlau bod testunau megis, Chwalfa T. Rowland Hughes (1946), Cysgod y Cryman Islwyn Ffowc Elis (1953), a Trefaelog Gareth Miles (1989) hefyd yn yr un modd yn ‘nofelau cymdeithasiaeth’.

Jane Aaron

Llyfryddiaeth

Davies, J. B. (1923), ‘Bywyd a gwaith Emrys ap Iwan, 1851-1906’, Cymru, 64, 60-3.

Derfel, R. J. (1888), ‘Ein Rhagolygon a’n Gwaith’, Cymru Fydd, 1, 270-8.

Derfel, R. J. (1892), ‘Cymdeithasiaeth’, Cwrs y Byd, 2, 224-6.

Derfel, R. J. (1891), Caneuon (R. J. Derfel: Manceinion).

Derfel, R. J. (1900), ‘Gwladgarwch dan Gymdeithasiaeth’, Llais Llafur, 3 Mawrth 1900.

Derfel, R. J. (1905), ‘A brief account of my life’, Llais Llafur, 5 Awst-12 Rhagfyr 1905.

Ffransis, Ff. (1987), Cymdeithasiaeth – Yr Ail Ffrynt (Aberystwyth: Cymdeithas yr Iaith).

Nicholas, T. E. (1912), ‘R. J. Derfel’, Ceninen Gŵyl Dewi, 23-4.

Williams, S. (2014), ‘Cloriannu Cymdeithasiaeth: Syniadau Gwleidyddol Cymdeithas yr Iaith’, Gwerddon, 17, 41-57.

Williams, R. (1984), ‘Decentralism and the Politics of Place’, Resources of Hope (Llundain: Verso, 1989), tt. 238-44.

Wright, M. (2015), ‘Cymdeithasiaeth’, yn y gyfres ‘Welsh Key Words’, Planet, 219, 20-26.


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.