Cymeriad (cynghanedd)

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Addurniadau a geir ar ddechrau llinellau o gynghanedd yw cymeriad. O sefydlu’r egwyddor nad addurn yw’r gynghanedd ei hun, ond, yn hytrach, hanfod y mynegiant, a bod yr hyn a fynegir a’r ffordd y’i mynegir yn undod anwahanadwy, addurn ar y mynegiant yw cymeriad.

Yn wreiddiol, ymadrodd a ailadroddid yn llinell gyntaf pob pennill mewn awdl (caniad neu bennill unodl) oedd cymeriad. Yn Y Gododdin, er enghraifft, ailadroddir yr ymadrodd ‘Gwŷr a aeth Gatráeth’ mewn sawl awdl (penillion unodl, a’r odl yn newid o bennill i bennill), a cheir sawl enghraifft o gymeriadau o’r fath yn rhai o gerddi Llyfr Du Caerfyrddin, fel ‘Afallennau Myrddin’ (lle’r ailadroddir ‘Afallen beren’ o bennill i bennill), ac ‘Oianau Myrddin’ (lle’r ailadroddir ‘Oian a barchellan’ a ‘Hoian a barchellan). Ceir cymeriad hefyd yn y gerdd enwog o’r 9g., ‘Edmig Dinbych Penfro’, sef ‘Addwyn gaer y sydd’.

O safbwynt mesurau Cerdd Dafod, yn enwedig y cywydd, ceir pedwar math o gymeriad, ac fe’u ceir ar ddechrau’r llinellau.

1. Cymeriad llythrennol

Pan fo llinellau yn dechrau â’r un gytsain neu lafariad, ceir cymeriad llythrennol, er enghraifft, y gytsain b yng nghywydd Tudur Aled, ‘Arglwydd y Glyn’:

Bron a dyrr glaif, bryn dur glas,
Bwrw chwe mil, breichiau Melwas;
Braich Brutus ap Silus oedd,
Bliant, arfau, blaen torfoedd;
Bo tai’n y Siêb it yn sarn,
Brwyn yw coed wrth bren cadarn!
Bid aur dy ben i frenin,
Ban êl iarll ar ben ei lin.

2. Cymeriad cynganeddol

Pan fo gair neu eiriau ar ddechrau’r naill linell a’r llall mewn cwpled cywydd yn cynganeddu â’i gilydd, fe geir cymeriad cynganeddol, er enghraifft, y cwpledi hyn gan Gruffudd Gryg:

Llugorn fuost yn llwygaw,
Llygad glas maen cawad glaw.
Dysgaist am fy mhen dwysgaw,
Disgyn i lawr, glawr y glaw.

Dyma gwpled cyffelyb gan Iolo Goch:

Aml y canai ei emyn,
Ymlid y fondid a fyn.

3. Cymeriad Cyfochrog

Mannau mwyn am win a medd,
Tannau, miwsig, ton maswedd.

Dyna’r unig enghraifft o gymeriad cyfochrog a rydd Wiliam Midleton, ac ef yw awdur y cwpled. ‘Cymhariad kyfochr yw,’ meddai, ‘pann fytho daúsillafog eiriaú yn dechraú y mesúr, er torri kymhariad llythyrennol; ar y gytsain wreidhiol, rhaid údhynt gyfochri yn sain mewn acen dhyrchafedig’. Nid dau gymeriad ar wahân yw cymeriad cynganeddol a chymeriad cyfochrog yn ôl John Morris-Jones, ond un cymeriad gydag odlau dwbwl ar ddechrau’r ddwy linell yn disodli’r gyfatebiaeth gynganeddol ar ddechrau’r llinellau. Cwpled Wiliam Midleton a roir yn enghraifft gan John Morris-Jones, a hwnnw’n unig. ond fe geir eraill, er enghraifft, y cwpled hwn o waith Llywelyn ap Gutun:

Gwreinia megis gwŷr anardd,
Chweinia gynt a chwynnu gardd.

4. Cymeriad Synhwyrol

Yn ôl Wiliam Midleton yn Bardhoniaeth, neu Brydydhiaeth: ‘Kymhariad Synhwyrol yw, pann fytho y llythyrennaú gwreidhiol yn kydateb, ag yn kymharú, or ún rhyw; ag yn kyflawni syñwyr dhiffygiol yn y braich cyntaf hefyd.’ A’r enghraifft a roir ganddo o gymeriad synhwyrol yw cwpled o waith Guto’r Glyn, o’i gywydd i ofyn saeled gan Wiliam Rodn ap Richard Rodn o Holt ar ran Dafydd Bromfild o Fers:

Ni bú y Rodn; nai Bredúr
Negydh, oe win nag oe dhúr.
(Ni bu Rodn, nai Beredur,
Negydd o’i win nac o’i ddur.)

Os yw’r gystrawen yn anorffenedig neu’r ystyr yn ddiffygiol yn y llinell gyntaf, rhaid cael cystrawen gyflawn neu ystyr lawn ar ddechrau’r ail linell yn y cwpled. Yn ôl John Morris-Jones yn Cerdd Dafod: ‘Nid rhaid cyfatebiaeth o gwbl os bydd y synnwyr yn anorffenedig yn y llinell gyntaf ac yn rhedeg i’r ail, megis bod berf yn y gyntaf a’i gwrthrych neu ei dibeniad yn yr ail’, a’r enghrefftiau a rydd John Morris-Jones yw:

Duw a farno o’r diwedd
Barn iawn rhof a gwawn ’i gwedd.
Cyd bych (lanwych oleuni)
Deg a mwyn er dig i mi.

Ceir enghreifftiau diddiwedd o gymeriad llythrennol a chymeriad cynganeddol yng ngwaith y Cywyddwyr. Prinnach yw’r lleill.

Alan Llwyd

Llyfryddiaeth

Llwyd, A. (2007), Anghenion y Gynghanedd (Llandybïe: Cyhoeddiadau Barddas).

Morris-Jones, J. (1925), Cerdd Dafod sef Celfyddyd Barddoniaeth Gymraeg (Rhydychen: Gwasg Clarendon).

Williams, G. J. (gol.) (1930), Barddoniaeth neu Brydyddiaeth gan Wiliam Midleton yn ôl argraffiad 1593, gyda chasgliad o’i awdlau a’i gywyddau (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.