Cymysgrywedd

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Term benthyg o wyddorau biolegol yw cymysgryw neu cymysgrywedd. Er bod rhai yn gwadu ei addasrwydd mewn trafodaethau diwylliannol oherwydd ei darddiad etymolegol biolegol, mae cymysgrywedd fel term wedi ehangu’n ddiweddar i gynnwys unrhywbeth o dras gymysg megis diwylliannau, traddodiadau ac hyd yn oed ieithoedd. Er bod rhai yn ffafrio defnyddio’r gair hybridedd yn lle cymysgrywedd, defnyddiwyd y ddau derm yn y Gymraeg. (Gweler am ddefnydd o cymysgrywedd, er enghraifft, O dan lygaid y Gestapo (2004) Simon Brooks.)

Mae’r cysyniad o gymysgrywedd mewn cyd-destun diwylliannol wedi tyfu mewn pwysigrwydd yn sgil gwaith awduron ôl-drefedigaethol fel Homi K. Bhabha a Frantz Fanon. Yn ei waith The Location of Culture (1994) mae Bhabha yn cyfeirio at gymysgrywedd fel her i gynrychiolaeth trefedigaethol. Hynny yw, er bod y broses drefedigaethol wedi’i seilio ar wadu rhai ffurfiau o wybodaeth frodorol, canlyniad anochel y cyswllt trefedigaethol yw’r profiad o gymysgrywedd. Ar ben hynny, oherwydd y profiad cymysgryw hwn, mae peth o’r wybodaeth sydd wedi ei gwadu yn gallu dod yn rhan o’r disgwrs dominyddol a hyd yn oed yn gallu dieithrio awdurdod y disgwrs dominyddol.

Yn ei gwaith Postcolonialism Revisited (2005), sy’n archwilio beirniadaeth lenyddol ôl-drefedigaethol yng nghyd-destun llenyddiaeth Gymreig Saesneg ei hiaith, mae Kirsti Bohata yn trafod y tensiwn rhwng defnydd ôl-drefedigaethol o gymysgrywedd neu hybridedd (defnydd nad yw’n ddibynnol ar ‘ddilysrwydd diwylliannol’) a’r sefydlogrwydd sydd ymhlyg yn y diwylliannau ‘rhiant’. Mae’n sylwi, gan gyfeirio at waith Robert Young, bod y term yn anochel yn gysylltiedig ag ideoleg hil. Mewn ffordd debyg, mae Charles Hale yn gweld cymysgrywedd fel cysyniad twyllodrus (hyd yn oed peryglus) oherwydd mae’n ddisgwrs sy’n gallu atgyfnerthu cysylltiadau grym a’r status quo yn hytrach na’u cwestiynu a’u gwyrdroi. Fodd bynnag, mae David Samuels yn gweld cymysgrywedd fel rhywbeth sy’n rhoi blaenoriaeth i’r syniad o ddisgwrs. Hynny yw, rhoddir blaenoriaeth i gyd-destun diwylliannol (yn ei ystyr ehangaf) cyfathrebiadau ysgrifenedig a llafar yn hytrach ‘nag iaith fel system sy’n sefyll ar ei ben ei hun yn nhermau geirfa a chystrawen. Yn y ffordd hon mae’r cysyniad yn mynd i’r afael â chwestiynau o asiantaeth, symud, a thactegau wrth i realiti cymdeithasol gael ei gyfansoddi’.

Yn ei waith The Location of Culture mae Bhabha yn canolbwyntio ar bwysigrwydd cymysgrywedd neu hybridedd fel ysbardun ar gyfer cynhyrchiant diwylliannol. Mae’n cyfeirio yn enwedig at waith Frantz Fanon, Les Damnés de la Terre (1961), sydd yn dod â’r syniad o hunaniaeth hybrid a’r rhyddid o gyfieithu at ei gilydd. Mae Fanon yn ystyried hunaniaeth gymysg/hybrid fel rhywbeth hanfodol i greu’r amodau ar gyfer newid diwylliannol chwyldroadol.

Mewn cyd-destun ôl-drefedigaethol mae David Samuels yn dadlau dros arwyddocâd y cysyniad o gymysgrywedd mewn byd sy’n cael ei ddiffinio’n gynyddol yn nhermau’r byd-eang a’r traws-leol. Yn y cyd-destun hwn nodwedd arbennig cymysgrywedd yw’r ffordd mae’n gallu ein helpu i deall cyfoeth a dyfnder profiad radical lleol. Mae’r profiad hwn yn cael ei esbonio nid o reidrwydd yn nhermau etifeddiaeth neu ddiwylliant rhanedig ond yn hytrach yn nhermau cyfraniad gwahanol diwylliannau ac etifeddiaethau.

Rowan O’Neill

Llyfryddiaeth

Bhabha, H. K. (1994), The Location of Culture (London: Routledge).

Bohata, K. (2005) Postcolonialism Revisited (Cardiff: University of Wales Press).

Brooks, S. (2004) O dan lygaid y Gestapo: Yr Oleuedigaeth Gymraeg a Theori Lenyddol yng Nghymru (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).

Kapchan, D. A. a Strong, P. T. (1999), ‘Theorising the hybrid’, Journal of American Folklore, 112/445, 239-253.

O’Neill, R. (2016), ‘Welsh keywords: Cymysgrywedd’, Planet, 223, 61-68.

Samuels, D. (1999),‘The Whole and the Sum of its Parts, or, How Cookie and the Cupcakes Told the Story of Apache History in San Carlos’, Journal of American Folklore, 112/445, 464-474.


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.