Cynaeafu ac ailgylchu dŵr glaw

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Cydnabyddir bellach fod defnydd o ddŵr glân a phur at bwrpasau lle nad oes angen purdeb o’r fath [e.e. i fflysio toiledau, ar gyfer systemau gwres canolog ac ati] yn wastraffus o ran yr adnodd prin hwn. Fel canlyniad mae defnydd cynyddol o broses i gasglu/cynhaeafu dŵr glaw sydd yn syrthio ar y to neu arwynebau solet [hard standings].

Cesglir y dŵr a’i gadw mewn tanc tanddaearol a’i bwmpio fel bo’r angen at bwrpasau lle na fydd angen dŵr pur [h.y. lle nad oes angen ei yfed neu ei ddefnyddio ar gyfer ymolchi ac ati].


Owain Llywelyn

Llyfryddiaeth

“Barry’s Advanced Construction of Buildings”, Stephen Emmett a Christopher Gorse, Blackwell Publishing, ail argraffiad, tudalennau 584-585



Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.