Cynghanedd

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Cyfundrefn fydryddol gywrain o gyfatebiaeth gytseiniol ac o odlau mewnol sy’n unigryw i’r Gymraeg yw’r gynghanedd. Ystyr ‘cynghanedd’, yn gyffredinol, yw miwsig, harmoni, cytgord, cydgordiad. Ceir enghreifftiau o gynghanedd a lled-gynghanedd gyntefig yn y farddoniaeth hynaf sydd wedi goroesi, sef barddoniaeth Aneirin a Thaliesin, hyn yn awgrymu’n gryf fod barddoniaeth Frythoneg yn llawn o addurniadau mydryddol fel cyflythrennedd ac odlau mewnol. Yr odli mewnol hwn yng ngwaith y Cynfeirdd a esgorodd, yng nghyflawnder yr amser, ar y gynghanedd Lusg (odl yn unig) ac ar y gynghanedd Sain (odl a chyfatebiaeth gytseiniol), er enghraifft, diweddglo ‘Marwnad Owain ab Urien’ gan Taliesin, lle ceir cynghanedd Lusg gyflawn yn yr ail linell, cynghanedd Sain sy’n ymylu ar fod yn gywir rhwng y drydedd a’r bedwaredd linell, a chynghanedd Sain berffaith gywir rhwng llinellau 5 a 6:

Gŵr gwiw uch ei amliw seirch
A roddai feirch i eirchiaid.
Cyd as cronnai mal caled,
Rhy ranned rhag ei enaid.
Enaid Owain ab Urien,
Gobwyllid Rheen o’i raid.

Egin cynghanedd yn unig a geir yng ngwaith y Cynfeirdd. Esblygodd y gynghanedd yn raddol yn ystod Oes y Tywysogion, o’r 11g. hyd at y 14g., yn fras. Dyma gyfnod y Gogynfeirdd, sef oes y Beirdd Llys a ganai fawl a marwnad i dywysogion Cymru, hyd nes y daeth y gyfundrefn i ben gyda marwolaeth Llywelyn ap Gruffudd ym 1282. Noddwyd y beirdd wedi hynny gan uchelwyr Cymru, a datblygodd y gynghanedd ymhellach, hyd nes iddi ymsefydlogi ac aros yn weddol ddigyfnewid hyd y dydd hwn.

Yn ystod Oes y Tywysogion y dechreuodd y gynghanedd ymddatblygu o ddifri, a phroses raddol ydoedd. Prin iawn yw cynganeddion cyflawn a gorffenedig yng ngwaith y Gogynfeirdd cynharaf, hynny yw, cyflawn a chywir yn ôl y rheolau cydnabyddedig o’r 14g. ymlaen. Os edrychir ar farwnad Meilyr Brydydd i Ruffudd ap Cynan, er enghraifft, gwelir mai 15 o gynganeddion cywir a geir yn y gerdd, 12 cynghanedd Lusg a thair cynghanedd Sain, allan o 172 o linellau:

Rhên nef, mor rhyfedd Ei ryfeddawd
Ni ludd ei erlid yn odidawg
Ni yn Eryri yn rheïawg
Cyn myned mur ced yn dawedawg
Bûm o du gwledig yn lleithigawg
Bu fedd eurgylchwy yn fordwyawg
Toresid gormes yn llynghesawg
Hael a ri a renni yn ei riydd
Brenhinedd Powys a’u Gwenhwysydd
Gorau gwaith gwyniaith â’i gyweithydd
Dybu o’i gyffes gwared bedydd
Gan lain loyw addef yn nef drefred
Ar emys ei lys a’i luosydd
Ergyrwayw brwydrin cyn rhewin rhawd
Ar bob rhai rheidiai yn eur-rodawg

Awgrymir gan hyn mai’r cynganeddion odl, Llusg a Sain, a ddatblygodd gyntaf.

Ganrif a rhagor ar ôl y cyfnod pan oedd Meilyr Brydydd yn ei flodau, roedd gwaith Llywelyn Fardd yr Ail (c.1215-c.1280) yn dangos yn glir y cynnydd a wnaed a’r modd yr oedd y gynghanedd yn symud tua’i ffurf derfynol. Yn ei awdl o fawl 22 llinell i Lywelyn ab Iorwerth o Wynedd, er enghraifft, y mae’r odlau mewnol digyswllt a geid ar ddechrau cyfnod y Beirdd Llys wedi troi’n gynganeddion Sain cyflawn:

fy nghystlwn, nas gwn nas gwys,
O feirdd ysbydaid ysbaid ysbys
Handid fy arglwydd cyfrwydd cyfrwys
Nid dawn anghyflawn nac anghyflys

Ceir yn yr un awdl gynganeddion cywir yng nghorff y llinell, gyda’r darnau pengoll un ai ar ddechrau’r llinell neu ddiwedd y llinell, neu’r ddau:

O echen lawen wrth lef (a gwŷs)
(Handoeddit) o’r llin â’r llyfn (emys)
Yn orau cenau, Cynon (fegys)

A cheir un gynghanedd Lusg yn yr awdl:

Handym feirdd heirddion (haelon hwylfrys)

Yng ngwaith Beirdd y Tywysogion gwelir y gynghanedd yn symud gan bwyll i gyfeiriad cyflawnder a gorffennedd. Nid yw’r acen wedi ymsefydlogi eto yn eu gweithiau, a’r hyn a geir yn aml yn y canu, a chan y Gogynfeirdd diweddar yn enwedig, yw cynghanedd gywir hyd at y sillaf olaf ond un, cynghanedd rag-acennog o ryw fath. Byddai angen hollti’r gair olaf i sicrhau cynghanedd gywir, er enghraifft, eto o waith yr ail Lywelyn Fardd:

Caru byd anghlyd, anghlae/ar
Trydydd fydd, pan fo dydd dy/ar
Rhyfeddgrawn rhylawn, rhylaf/ar
Bwyf gwastad gan Fab Rhad rheith/gar
O gadwent present heb brysur/der

Ac eto, er bod nifer o’i linellau yn wallus yn ôl safonau diweddarach, fe geir cynganeddion cyflawn ar hyd y llinell gan yr un bardd:

I iawn obeithaw a wybyther
Ys gwell yn gysbell gosber
A gaiff ei enaid ysbaid oesber
Caïn yng nghyfrin ag anghyfraith

Uned fydryddol yw’r gynghanedd, cyfatebiaeth gytseiniol ac odledig, o fewn un llinell o farddoniaeth. Ceir pedwar math o gynghanedd: Croes, Traws, Llusg, Sain. Tra bo’r gynghanedd Groes a’r gynghanedd Draws yn ddwy chwaer, nid yw’r gynghanedd Lusg yn perthyn o gwbl iddynt, ond mae’n gyfnither gyfan i’r gynghanedd Sain. Mae’r gynghanedd Sain, ar y llaw arall, yn gyfnither i’r tair cynghanedd arall. Hi yw’r unig gynghanedd sy’n cyfuno’r ddwy elfen anhepgor: cyfatebiaeth gytseiniol ac odlau mewnol.

Cyfrwng mynegiant yw’r gynghanedd yn anad dim. Un o’r damcaniaethau pennaf – a mwyaf dadleuol – ynghylch y gynghanedd yw mai rhan gynhenid, organig o’r iaith Gymraeg ydyw, rhan o ramadeg yr iaith, yn hytrach na dyfais sy’n bodoli y tu allan i’r iaith, yn ddibynnol arni ond ar wahân iddi.

Ceir pedwar math o gynghanedd:


1. Y Gynghanedd Groes

Mae pob llinell o gynghanedd Groes yn meddu ar ddwy brif acen. Yn y math symlaf o acennu, mae’r naill acen yn syrthio ar y gair olaf yn rhan gyntaf y llinell, a’r llall yn syrthio ar y gair olaf yn yr ail ran, ac ar y llafariaid y mae’r acen yn syrthio bob tro, er enghraifft:

                      /                  /
Y llwybrau gynt : lle bu’r gân
   ll     br     g        ll   b   r g

Mae’r acen yn syrthio’n naturiol ar y llafariad y yn yr orffwysfa, ac ar â yn y brifodl. Mae’n rhaid ateb pob cytsain a ddaw o flaen yr acen yn y rhan gyntaf yn yr ail ran, a hynny yn yr union drefn ag y maent yn y rhan gyntaf. Nid oes angen ateb dim a ddaw ar ôl yr acen (‘gynt’/’gân’). Cynghanedd Groes gytbwys acennog y gelwir y math hwn o gynghanedd, gan mai un pwyslais yn unig a geir yn yr orffwysfa ac yn y brifodl.

Ceir pedwar math o acennu i gyd. Un acen bendant ac un pwyslais yn unig sydd i’r gynghanedd Groes gytbwys acennog. Mewn cynghanedd Groes gytbwys ddiacen ceir dau bwyslais, pwyslais cryf y brif acen, a phwyslais gwannach yr is-acen. Mewn cynghanedd luosillafog-ddiacen ei gorffwysfa a’i phrifodl yn unig y gall y math hwn o acennu ddigwydd (nid lluosillafog-acennog fel caniatáu). Fel hyn y mae’r gynghanedd Groes gytbwys ddiacen yn gweithio:

          /   ´               /     ´
Ein lluniaeth : a’n llawenydd
   n ll   n   (th)     n ll       n (dd)

Mae’r brif acen yn syrthio ar y sillaf olaf ond un yn y gair olaf yn rhan gyntaf y llinell, yn union cyn y saib neu’r hollt naturiol rhwng y ddwy ran (:), ac mae’r is-acen yn syrthio ar y sillaf olaf un yn y gair olaf yn y rhan gyntaf. Felly mae’r brif acen yn syrthio ar y llafariad u yn lluniaeth, a’r is-acen yn syrthio ar y llafariaid iae yn lluniaeth. Yn yr un modd y mae’r brif acen yn disgyn ar y sillaf olaf ond un yn y gair olaf yn ail ran y llinell, sef y brifodl, a’r is-acen yn disgyn ar sillaf olaf ond un yn yr un gair. Pa gytsain neu gytseiniaid bynnag sy’n dod rhwng y brif acen a’r is-acen yn yr orffwysfa, yna mae’n rhaid i’r gytsain neu’r cytseiniaid ddod rhwng y brif acen a’r is-acen yn y brifodl, sef, yn y llinell uchod, n yn lluniaeth ac n yn llawenydd.

Yn y trydydd math o aceniad fe geir un brif acen yn unig yn yr orffwysfa, ac un brif acen ac un is-acen yn y brifodl, er enghraifft:

            /                     /   ´
Eryr gwyllt : ar war gelltydd
   r r g     llt     r     r g   llt

Gyda’r math hwn o aceniad, mae’n rhaid i’r gytsain neu’r cytseiniaid sy’n dod ar ôl y brif acen yn yr orffwysfa gael eu hateb gan y gytsain neu’r cytseiniaid sy’n dod rhwng y brifacen a’r is-acen yn y brifodl. Nid oes angen ateb y gytsain neu’r cytseiniaid sy’n dod ar ôl yr is-acen yn y brifodl.

Mewn un lle yn unig y ceir cynghanedd Groes anghytbwys ddyrchafedig, sef rhwng y cyrch ac ail hanner y gynghanedd mewn englyn, er enghraift:

                                                   /   ´
Wrth y Groes yn ymgroesi – y mynach
    /
Main ac athrist weli ...

Mae’n rhaid ateb y gytsain neu’r cytseiniaid sy’n dod rhwng y brif acen a’r is-acen yn hanner cyntaf y gynghanedd â’r un gytsain neu’r un cytseiniaid sy’n dod ar ôl y brif acen yn yr ail hanner.


2. Y Gynghanedd Draws

Mae’r gynghanedd Draws yn dilyn yr un rheolau yn union â’r gynghanedd Groes, gydag un gwahaniaeth sylfaenol. Fe geir yn ail ran y gynghanedd, yn union ar ôl yr orffwysfa, gytsain neu gytseiniaid sy’n sefyll y tu allan i’r gyfatebiaeth gytseiniol arferol. Fe atebir pob cytsain a geir yn rhan gyntaf y gynghanedd yn ail ran y gynghanedd, a’u hateb, unwaith yn rhagor, yn yr un drefn ag y dônt, gytsain wrth gytsain; ond mae’r gyfatebiaeth yn yr ail ran yn digwydd ar ôl camu ar draws cytsain neu gytseiniaid digyfatebiaeth. A dyma enghreifftiau o’r gynghanedd Draws.

1. Traws gytbwys acennog:
Fy nghyw [yn dysgu] fy nghân
2. Traws gytbwys ddiacen:
Rhodio, [lle gynt] y rhedwn
3. Traws anghytbwys ddisgynedig:
Y bardd trwm [dan] bridd tramor
4. Traws anghytbwys ddyrchafedig:
Ac i’r ffon yr ymfodlonwyf – bellach,
A [chan] bwyll yr elwyf ...


3. Y Gynghanedd Sain

Mae’r gynghanedd Sain yn cyfuno prif elfennau’r tair cynghanedd arall, sef odl a chyfatebiaeth gytseiniol. Fel y gynghanedd Lusg, ceir dwy odl yn y gynghanedd Sain, ond mae’r ddwy odl, y tro hwn, yn digwydd yng nghorff y llinell. Gellir hollti’r gynghanedd Sain yn dair rhan: odl + odl + cyfatebiaeth gytseiniol. Yr ail ran, sef yr ail odl, yw’r rhan allweddol. Odl yn unig a geir yn rhan gyntaf y gynghanedd; yr ail ran yw’r ail odl a rhan gyntaf y gyfatebiaeth gytseiniol, a’r drydedd ran yw ail ran y gyfatebiaeth gytseiniol. O ran aceniad a chyfatebiaeth gytseiniol, mae’r gynghanedd Sain gytbwys acennog, y gynghanedd Sain gytbwys ddiacen a’r gynghanedd Sain anghytbwys ddisgynedig yn dilyn rheolau’r gynghanedd Groes a’r gynghanedd Draws i’r llythyren, ond nid felly’r gynghanedd Sain anghytbwys ddyrchafedig. Gyda’r gynghanedd Sain anghytbwys ddyrchafedig, y mae’r ail odl yn digwydd yn y sillaf olaf mewn gair lluosillafog-ddiacen, a’r tro hwn rhaid ateb y gytsain neu’r cytseiniaid sy’n dod o flaen y brif acen yn y gair sy’n cynnwys yr ail odl â’r gytsain neu’r cytseiniaid sy’n dod o flaen y brif acen yn y brifodl. Mae’r gair sy’n cynnwys yr ail odl yn air lluosillafog-ddiacen yn ddieithriad, a’r brifodl yn air unsill neu luosillafog- acennog bob tro.

Dyma enghreifftiau o’r gynghanedd Sain:

1. Sain gytbwys acennog:
Y llygaid dwys dan ddwys ddôr
2. Sain gytbwys ddiacen:
Gwrando, tremio, troi ymaith
3. Sain anghytbwys ddisgynedig:
Agor ryw ddôr ddaearol
4. Sain anghytbwys ddyrchafedig:
Fil myrdd uwch dyfnffyrdd y don


4. Y Gynghanedd Lusg

Cynghanedd sy’n dibynnu ar odl yn unig yw cynghanedd Lusg. Hi yw’r gynghanedd symlaf o ddigon, ond yn ogystal â bod yn gynghanedd hardd a phersain, gall hefyd fod yn gynghanedd hynod o effeithiol. Mae pob llinell o gynghanedd Lusg yn diweddu’n lluosillafog-ddiacen. Mae’r sillaf olaf ond un yn y llinell yn odli â sillaf olaf gair blaenorol yng nghorff y llinell, hynny yw, y mae sillaf olaf un o’r geiriau a geir yng nghorff y llinell yn odli â goben acennog y llinell, sef y sillaf olaf ond un, er enghraifft:

Ac adar haf o afiaith
Rwy’n hen a chloff, ond hoffwn
Lle bu chwerthin a gwinoedd
Lle’r oedd sglein ar bob ceiniog


Alan Llwyd

Llyfryddiaeth

Llwyd, A. (2007), Anghenion y Gynghanedd (Llandybïe: Cyhoeddiadau Barddas).

Morris-Jones, J. (1925), Cerdd Dafod sef Celfyddyd Barddoniaeth Gymraeg (Rhydychen: Gwasg Clarendon).


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.