Cynlluniau Goad

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Cynlluniau sydd yn dangos y parthau hynny o fewn trefi sydd wedi’u categoreiddio at bwrpas adwerthu. Enwir y cynlluniau ar ôl Charles E. Goad a gynhyrchodd y rhain yn gyntaf ar gyfer cwmnïau Yswiriant Tân.

Maent yn cynnwys enw’r adwerthwr, disgrifiad o ddefnydd y siop dan sylw, enwau strydoedd, strydoedd unffordd, mannau cerdded, lonydd gwasanaethu a meysydd parcio, lleoliad banciau, cymdeithasau adeiladau a gwestai, pellter rhwng trefi eraill, datblygiadau arfaethedig, adeiladau gwag a safleoedd gwag.

Fe’u cyhoeddir gan C E Goad Cyf, Hen Hatfield, Swydd Hertford.


Owain Llywelyn

Llyfryddiaeth

https://www.experian.co.uk/business/marketing/location-planning/

The Glossary of Property Terms, Estates Gazette, pedwerydd argraffiad, tudalen 86



Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.