Cynnar, Cerddoriaeth

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Mae hanes cerddoriaeth gynnar Cymru yn llawer cyfoethocach nag y mae pobl yn dueddol o sylweddoli. Mae’r cofnod hwn yn ymwneud â chyfnod yr Oesoedd Canol a’r cyfnod modern cynnar hyd at tua 1650 ac fe’i rhennir yn dair rhan: (1) y gerddoriaeth farddol frodorol, cerdd dant; (2) cerddoriaeth ar gyfer addoli yn yr eglwys Gristnogol; a (3) cerddoriaeth sy’n dangos dylanwad Seisnig.

Er mai cymharol brin yw’r ffynonellau sydd wedi goroesi yng Nghymru o gerddoriaeth gynnar â nodiant confensiynol, nid yw hynny’n golygu mai tlawd oedd diwylliant cerddorol Cymru. Parhaodd traddodiad llafar yn llawer hirach yma nag mewn rhannau eraill o Brydain, a chafodd y llyfrau hynny a fodolai (yn arbennig y rhai hynny a oedd yn gysylltiedig â’r Eglwys) eu difa’n fwriadol weithiau, yn enwedig yn ystod diwygiadau Protestannaidd yr 16g. Fodd bynnag, gellir casglu llawer am gerddoriaeth yng Nghymru o ffynonellau eraill – barddoniaeth, ysgrifennu hanesyddol a damcaniaethol, llechresi, statudau, cyfrifon a gohebiaeth, ac mae cryn dipyn o’r deunydd hwn yn tystio i ddiwylliant cerddorol bywiog ac amrywiol.

Repertoire barddol cerdd dant

Cerdd dant (‘crefft y tant’) yw’r gerddoriaeth fwyaf penodol ‘Gymreig’ y gwyddys iddi fodoli yng nghyfnod yr Oesoedd Canol a’r cyfnod modern cynnar. Mae iddi arwyddocâd rhyngwladol am mai dyma un o’r repertoires olaf yn y byd gorllewinol o gerddoriaeth wedi’i thraddodi’n llafar (ac yn glywedol). Roedd cerdd dant yn gerddoriaeth gelfyddydol o statws uchel ar gyfer offerynnau llinynnol – yn arbennig y delyn a’r crwth (offeryn bwa yn debyg i’r lyra). Câi ei chysylltu’n glòs â noddwyr o blith yr uchelwyr, ac roedd yn bartner hanfodol i farddoniaeth gaeth soffistigedig, neu ganu caeth. Chwaraeai cantorion cerdd dant ran bwysig yn y gymdeithas, ac roeddynt yn perthyn i urdd farddol a ddilynai gorff o reolau a oedd wedi’u diffinio’n glir.

Roedd Beirdd y Tywysogion, hyd at yr amser y collodd Cymru ei hannibyniaeth yn 1284, yn arfer y traddodiad, er eu bod ar y cyfan yn gysylltiedig ag un llys tywysogaidd, yn wahanol i Feirdd yr Uchelwyr yn ddiweddarach, a dueddai i symud rhwng cartrefi’r uchelwyr. Er na wyddom lawer am eu repertoire cerddorol cysylltiedig, mae awdl o tua 1213 gan Llywarch ap Llywelyn yn sôn am ganmol Llywelyn ab Iorwerth, tywysog Gwynedd, ‘can folawd â thafawd a thant’. Cawn syniad o rôl tri math ar gerddor o fardd mewn disgrifiad yng Nghyfraith Hywel Dda. Roedd y bardd teulu yn un o’r 24 o swyddogion y llys a oedd hefyd yn teithio gyda’r osgordd, tra oedd y pencerdd (a ddisgrifir mewn un ffynhonnell fel ‘bardd gwedi enillo cadair’) yn swyddog ychwanegol o’r llys ac yn ymwelydd cyson a chanddo’i gasgliad ei hun o ganeuon. Câi ei dalu i hyfforddi’r cerddor (clerwr dan brentisiaeth o statws is). Gallai tywysog gydnabod statws a gwasanaeth pencerdd drwy roi telyn iddo, er bod dau gopi cynnar o’r Gyfraith yn enwi rhoddion eraill posibl, sef y crwth neu’r pibau, a daeth y tri offeryn hyn gyda’i gilydd i ymgorffori cerddoriaeth Cymru hyd at y 14g. o leiaf.

Yn ei gofnod o’i deithiau yn Topographia Hibernica (c.1200), nododd Gerallt Gymro yn benodol fod y Cymry’n defnyddio’r offerynnau hyn (yn wahanol i’r Gwyddelod, a ddefnyddiai’n unig y delyn a’r timpán – offeryn anghofiedig bellach – a’r Albanwyr, a ddefnyddiai’r delyn, y crwth a’r timpán). Mae dau ddisgrifiad (c.1330) sy’n edrych yn ôl ar y wledd fawr a gynhaliodd yr Arglwydd Rhys yn Aberteifi yn 1176 (a adwaenir weithiau fel yr eisteddfod gyntaf) hefyd yn honni bod telynorion, crythorion a phibyddion yn cystadlu yn erbyn ei gilydd.

Yn ôl pob tebyg, roedd traddodiadau Cymru ac Iwerddon yn cydblethu’n glòs yn y cyfnod cynnar hwn. Mae testun barddol lled hanesyddol sy’n dwyn y teitl Cadwedigaeth Cerdd Dannau (a ysgrifennwyd gyntaf yng nghanol yr 16g., ond sy’n amlwg yn tynnu ar ddysg gynharach) yn honni i gyngor o gerddorion o Gymru ac Iwerddon gyfarfod yng ‘Nglyn Achlach’ (Glendalough, Swydd Wicklow) ar ddechrau’r 12g. o dan awdurdod ‘Mwrthan Wyddyl’ (Muirchertach Ua Briain, uchel frenin Iwerddon, m.1119). Prif dasg y cyngor oedd dosbarthu 24 mesur cerdd dant a’u cadw’n ddilys. Patrymau cordiol syml yn ailadrodd oedd y mesurau, patrymau a ffurfiai’r seilwaith i gyfran helaeth o’r corff o gerddoriaeth cerdd dant ac a oedd yn bartner strwythurol naturiol i fesurau barddol cerdd dafod.

Fe’u copïwyd i nifer o lawysgrifau o tua 1500 ymlaen, yn cynnwys tabl nodiant telyn Robert ap Huw tua 1613 (gw. isod), ac yn sicr mae rhai o’u teitlau yn awgrymu tarddiad Gwyddelig (e.e. ‘mak y mwn hir’; ‘karsi’). Mae ffynonellau eraill yn awgrymu y byddai cerddorion yn croesi Môr Iwerddon. Credir bod Gruffudd ap Cynan (c.1055–1137), Brenin Gwynedd a aned yn Iwerddon, wedi dod â cherddorion Gwyddelig i Gymru, a Gellan Pencerdd – gyda’i enw Gwyddelig – a fu farw ym Mrwydr Aberlleiniog, Ynys Môn, yn 1094, oedd telynor-fardd Gruffudd ei hun.

Gyda diwedd teyrnasiad tywysogion Cymru yn 1282 daeth tro ar fyd i grefftwyr barddol, a oedd bellach yn gorfod teithio o amgylch tai eu noddwyr o uchelwyr, arfer a elwid yn ‘clera’. Parhaodd llawer o Feirdd yr Uchelwyr i gyfeilio iddynt eu hunain ar y delyn a defnyddient derminoleg gerddorol yn eu barddoniaeth yn aml: mae Dafydd ap Gwilym (fl.1330–50) yn ‘Y Gainc’ yn ei ddisgrifio’i hun yn llunio cerdd wrth y delyn. Yn y 14g. gwelwyd hefyd fesur newydd a phoblogaidd iawn, sef y cywydd, mesur y cafodd ei barau o linellau saith sill mewn odl effaith uniongyrchol, o bosibl ar arddull a strwythur cerdd dant. Roedd offerynnau yn rhan bwysig o’r traddodiad, ac mae ‘Cywydd Moliant i’r Delyn Rawn a Dychan i’r Delyn Ledr’ gan Iolo Goch (c.1325–c.1398) yn rhoi disgrifiad manwl o delyn y traddodiad barddol, telyn o statws uchel a chanddi ffrâm bren a thannau o rawn (blew ceffyl), a thelyn yr oedd Iolo yn ei hystyried yn llawer gwell na’r math newydd o delyn gyda’i gorchudd lledr a’i thannau coludd.

Yr eisteddfod oedd y prif ddull o reoli arferion barddol, a cheisiai hefyd amddiffyn crefftwyr proffesiynol (gwýr wrth gerdd) rhag diddanwyr amatur crwydrol (vacabundi). Mae deunydd cysylltiedig wedi goroesi o dair eisteddfod fawr a dylanwadol iawn, eisteddfodau a noddwyd ill tair gan uchelwyr. Nid yw’r gyntaf, a gynhaliwyd yng Nghaerfyrddin tua 1452, yn datgelu rhyw lawer am arferion cerddorol yr oes, er mai yma yr adolygwyd 24 mesur barddol cerdd dafod, ac mae’n bosibl mai hyn a ysgogodd cyfundrefnu’r mesurau cerddorol fel grŵp swyddogol o 24. Gwyddys llawer mwy am hinsawdd gerddorol y ddwy eisteddfod a gynhaliwyd yn nhref fechan Caerwys, Sir y Fflint, yn 1523 ac 1567, diolch i’r ddogfen farddol fanwl a elwir yn ‘Statud Gruffudd ap Cynan’, a luniwyd ar gyfer y digwyddiad yn 1523 ac a adolygwyd yn 1567. Mae’r Statud yn honni iddi dynnu’n uniongyrchol ar arferion a sefydlwyd mewn eisteddfod a lywyddodd Gruffudd ap Cynan ei hun: mae’n amlwg nad oes sail i hyn ond mae’r ddogfen, serch hynny, yn ymgorffori traddodiadau hir.

Mae’r Statud yn cynnwys nid yn unig reoliadau ymarferol, fel taliadau i feirdd a rôl y datgeiniad (gw. y cofnod hwnnw), ond mae hefyd yn manylu ar repertoire. Byddai cerddorion a beirdd yn dringo drwy’r un categorïau prentisiaeth, gan fynd o fod yn ddisgybl ysbâs (y prentis dros dro heb radd), i fod yn ddisgybl disgyblaidd (prentis dan hyfforddiant), ac yn ddisgybl pencerdd (prentis meistr) i bencerdd (meistr y grefft). Gallai telynorion hefyd, yn y pen draw, gymhwyso yn athrawon (meistr hyfforddwyr). Er mwyn datblygu roedd yn rhaid i gerddorion barddol feistroli gwahanol genres, yn cynnwys nifer penodol o ganiadau, gostegion a chlymau cytgerdd (mae enghreifftiau o’r rhain wedi goroesi yn llyfr Robert ap Huw). Câi buddugwyr yr eisteddfod eu gwobrwyo ag ariandlws a gâi ei arddangos fel bathodyn ar yr ysgwydd, ac mae’r ariandlws telyn a enillodd Dai Nanklyn yn 1523 wedi goroesi hyd heddiw: fe’i rhoddwyd gan ben teulu’r Mostyniaid, un o bum comisiynydd yr eisteddfod.

Er nad yw’r Statud yn mynnu bod angen gallu darllen cerddoriaeth, ymddengys i nodiant gael ei greu yn benodol ar gyfer cerdd dant tua 1560, efallai am fod y broses gyfansoddi yn mynd yn gynyddol gymhleth. Mae tri deg tri o ddarnau gyda nodiant wedi goroesi yng nghasgliad Robert ap Huw. Mae’n bosibl fod y nodiant yn arbennig o ddefnyddiol i athrawon wrth hyfforddi prentisiaid: mae adran gyfan o lyfr Robert ap Huw (a gopïwyd, yn ôl pob golwg, o lawysgrif goll o eiddo’r athro telyn Wiliam Penllyn, fl.1550–70) yn canolbwyntio ar yr ymarferion technegol ailadroddus o’r enw clymau cytgerdd, ar sail y 24 mesur. Byrhoedlog oedd y nodiant, mae’n debyg, er iddo barhau o ddiddordeb i haneswyr a hynafiaethwyr am nifer o flynyddoedd, ac mae’n dal i gyfareddu perfformwyr a cherddolegwyr modern. Yn anffodus, roedd y traddodiad barddol ei hun yn dirywio erbyn 1600 wrth iddo ddod o dan bwysau enbyd gan y drefn gymdeithasol newydd (gw. yr adran Dylanwad Seisnig: cerddoriaeth yn y Gymru Fodern Gynnar, isod), a rhoddwyd y gorau i gynlluniau am drydedd eisteddfod yn 1594.

Cerddoriaeth eglwysig yng Nghymru’r Oesoedd Canol

Lladin oedd iaith y litwrgi yng Nghymru hyd at y Diwygiad, ond prin yw’r dystiolaeth o draddodiad cerddorol ar wahân. Yn wir, roedd yr eglwys yng Nghymru yn yr Oesoedd Canol yn gwbl glwm wrth y cyd-destun rhyngwladol, ac roedd wedi dechrau cydymffurfio’n glòs â’i chymdogion yn Lloegr ac Ewrop ers y 13g. o leiaf. Fel mewn lleoedd eraill, y ffurf amrywiol ar Ddefod Rhufain o’r enw ‘Arfer Caersallog’, a gyfundrefnwyd yn Eglwys Gadeiriol Caersallog ar ddechrau’r 12g., a oedd yn dominyddu, ac fe’i mabwysiadwyd yn gyflym mewn eglwysi ar draws rhannau helaeth o Loegr, Cymru, yr Alban ac Iwerddon. Roedd dyfodiad Arfer Caersallog i Gymru yn ganlyniad anochel i’r awdurdod ehangach yr oedd diwygwyr Eingl-Normanaidd yn ei wthio, a daeth yn orfodol i’r rhan fwyaf o eglwysi seciwlar yng Nghymru. Mae statudau Eglwys Gadeiriol Tyddewi yn dangos iddo gael ei gyflwyno yno yn raddol o 1224, ac mae’r ffaith iddo ddominyddu yma ac mewn lleoedd eraill yn esbonio pam nad oes dim yn y rhan fwyaf o’r ffynonellau sydd wedi goroesi sy’n anarferol neu’n anghyffredin.

Dim ond dau lyfr litwrgïaidd o Gymru sydd wedi goroesi (a’u cynnwys i gyd yn Lladin) sydd â nodiant cerddorol sylweddol. Mae Llyfr Esgobol Bangor (c.1310–20), sydd wedi’i addurno’n goeth, yn cael ei gysylltu â’r Esgob Anian II o Fangor, er i’r llyfr gael ei lunio mewn ysgrifdy yn Nwyrain Anglia, ac er nad oes iddo ddim cynnwys amlwg ‘Gymreig’. Ar y llaw arall, mae Antiffonari Penpont, a luniwyd ychydig yn ddiweddarach, ac a ddefnyddiwyd o bosibl yn eglwys Ioan Efengylydd, Aberhonddu, yn cynnwys Gwasanaeth i Ddewi Sant, gwasanaeth unigryw mewn odl sy’n cynnwys antiffonau, atebiadau, emynau a gweddïau i’w defnyddio ar 1 Mawrth ac achlysuron eraill. Fodd bynnag, mae llawer o’r gerddoriaeth ynddo wedi’i benthyg yn uniongyrchol o Wasanaeth Caersallog Sant Tomos a luniwyd yn gynharach (ac a gopïwyd gan nifer), ac mae ei destunau yn dilyn patrymau safonol o fesurau ac odlau a oedd yn gyffredin mewn gwasanaethau ar odl ar draws Ewrop yn yr Oesoedd Canol.

Mae cerddoriaeth Llyfr Esgobol Bangor hefyd yn gyson ag Arfer Caersallog, ond – am ei fod yn fath llawer mwy prin o lyfr, ar gyfer esgob – mae’n cynnwys rhai eitemau gyda nodiant na cheir mohonynt yn yr un llyfr gwasanaeth arall sydd wedi goroesi. Ar y cyfan, nid yw’r llond llaw o lyfrau litwrgïaidd eraill sy’n gysylltiedig â Chymru yn cynnwys unrhyw nodiant cerddorol o gwbl, er bod testunau unigryw yn anrhydeddu Sant Cadog, Sant Teilo, Sant Dyfrig (Dubricius) a Santes Gwenfrewi wedi goroesi hyd heddiw, ac mae’n bosibl fod alawon wedi’u cysylltu â’r rhain hefyd.

Mae’n debygol fod unrhyw ddarpariaeth gerddorol sylweddol (yn cynnwys polyffoni corawl ac organ) yn yr eglwys yng Nghymru ar ddiwedd yr Oesoedd Canol wedi’i chyfyngu i grŵp bychan iawn o sefydliadau. Y pennaf o’r rhain oedd Eglwys Gadeiriol Tyddewi, a sylfaenwyd, yn ôl pob tebyg, fel rhyw fath o glas mynachaidd, ond a ail-luniwyd ar ffurf Eingl- Normanaidd yn fuan wedi’r Goncwest. Ehangwyd ei darpariaeth gerddorol yn sylweddol tua 1365 gyda choleg siantri cyfagos yr Esgob Adam Houghton, sef Coleg y Santes Fair, a sylfaenwyd yn rhannol fel ateb i safon isel y litwrgi yn yr eglwys. Roedd prinder o offeiriaid lleol a fedrai ganu’n dda, a golygai hynny fod angen dod ag offeiriaid i mewn o Loegr, rhywbeth a gostiai’n fawr.

Lluniodd Houghton gasgliad hir o statudau ar gyfer Coleg y Santes Fair yn 1372, sy’n awgrymu bod addoli’r Forwyn Fair yn rhan amlwg o’r drefn ddyddiol. Byddai’r ddau fachgen o’r Coleg yn ymuno â phedwar aelod côr yr eglwys ar ddydd Sul ac ar ddyddiau gŵyl pwysig, ac erbyn tua 1500 roedd nifer y bechgyn wedi cynyddu i wyth. Erbyn hyn, un o’u dyletswyddau pwysig oedd ymgynnull o flaen y groes ar y groglen ar ddiwedd pob dydd i ganu antiffon (neu ‘anthem’) i Iesu, ‘Nunc Christe te petimus’.

Canodd Ieuan ap Rhydderch (c.1390–1470), yr uchelwr o fardd a addysgwyd yn Rhydychen, glodydd yr organ a’r côr yn Nhyddewi rai blynyddoedd ynghynt mewn cywydd a anerchai Dewi Sant, ac mae cyfrifon Tyddewi o’r 1490au yn cyfeirio at organ ac organydd a oedd hefyd yn feistr y côr. Yn ystod esgobyddiaeth Edward Vaughan (1509–22) y cyfansoddwr John Norman oedd yn y swydd hon. Bu Norman gynt yn gantor yn y tŷ Awstinaidd cefnog Llanthony Secunda, ger Caerloyw. Mae’n ddigon posibl i antiffon Cwmplin polyffonig Norman, ‘Miserere mihi’, sydd wedi goroesi hyd heddiw, gael ei ysgrifennu ar gyfer Tyddewi, er bod Norman wedi symud i Lundain erbyn 1521. Roedd meistr ar wahân i’r plant erbyn 1549, pan nododd comisiynwyr y siantri daliad o £10 i Lewis Morres; talwyd yr un swm hefyd i ‘feistr y côr’, heb ei enwi, yn 1557–8 ‘ar gyfer cadw’r organau a dysgu’r coryddion’ (‘for keeping of the organs and teaching of the choristers’).

Cyflawnwyd cynllun uchelgeisiol arall ar gyfer coleg siantri, a sylfaenwyd gan yr Esgob Thomas Bek, yn Llangadog rywbryd cyn 1283, ond fe’i symudwyd yn fuan wedi hynny i Abergwili (Caerfyrddin). Fel coleg y Santes Fair yn Nhyddewi, ei brif bwrpas oedd eiriolaeth ddyddiol reolaidd, y tro hwn ar ran y brenin, ei sylfaenydd a’r holl ffyddloniaid ymadawedig. Fe’i hailsylfaenwyd yn ddiweddarach fel Coleg yr Iesu yn Aberhonddu yn 1542, a olygodd drosglwyddo yn eu cyfanrwydd ‘ganonau, prebendariaid, coryddion, organyddion a gweinidogion eraill … yn ogystal â’r llyfrau, urddwisgoedd, organau a’r offer a’r addurniadau eraill’ (‘canons, prebendaries, quiriesters, organistes and the other mynisters ... together with the books, vestiments, organes and other the implements and ornamentes’).

Mae llai o ddogfennaeth wedi goroesi o eglwysi cadeiriol eraill Cymru, er bod Dafydd ap Gwilym (fl.1330–50) a Gruffydd Grug (fl.c.1340–80) ill dau wedi canu clodydd yr offeryn ym Mangor, a bod yr offeiriad o Fôn, Dafydd Trefor (m.1528?), yn ddiweddarach wedi disgrifio’i sain swynol a safon cantorion yr eglwys gadeiriol. Yn yr un modd, dathlodd Iolo Goch ganu polyffoni yn Llanelwy tua 1400, a chanodd Guto’r Glyn (c.1435–c.1493) glodydd yr organ a’r gymuned ddysgedig yn eglwys blwyf Croesoswallt. Mae taliadau i gerddorion ac organyddion hefyd wedi’u cofnodi mewn eglwysi plwyf yng Nghaerdydd, Abertawe, Aberhonddu a Threfaldwyn, ac mae cist goeth yr organ (c.1540) wedi goroesi hyd heddiw yn eglwys San Steffan, Pencraig (Powys). Erbyn dechrau’r 17g. honnwyd mai’r organ yn eglwys blwyf Sant Silin yn Wrecsam oedd yr orau yng Nghymru, er na soniodd y beirdd erioed amdani.

Roedd llawer o gerddorion eglwysig cynnar Cymru yn weithgar y tu allan i Gymru. Yn eu plith yr oedd Robert Jones, Siôn Gwynedd a John Lloyd, a enwyd bob un mewn rhestr o ‘ymarferwyr’ cyfansoddi rhagorol a luniwyd gan Thomas Morley yn 1597. Roedd Philip ap Rhys (m.1566) yn rhy hen i ymddangos yma, er ei fod yn rhan o’r gymuned Gymreig fawr yn Llundain yn oes y Tuduriaid. O’i waith sydd wedi goroesi, y saith darn i’r organ (yn cynnwys eitemau ar gyfer offeren i’r organ) yw’r gerddoriaeth llawfwrdd gynharaf sydd ar gael y mae modd ei phriodoli i gyfansoddwr o dras Gymreig; mae rhywfaint o dystiolaeth hyd yn oed y gallai’r casgliad y maent yn rhan ohono fod â pheth cysylltiad â Thyddewi.

Dylanwad Seisnig: cerddoriaeth yn y Gymru Fodern Gynnar

Gyda Deddfau Uno 1536 ac 1542 tynnwyd Cymru yn rhan o deyrnas gyfunol gyda Lloegr, teyrnas a chanddi un canolbwynt, a sbardunodd hynny gyfnod o newid cymdeithasol mawr. Croesodd llawer o Gymry cefnog y ffin i gael addysg yn y Prifysgolion neu yn Ysbytai’r Brawdlys, gan ddychwelyd adref wedi magu hoffterau Seisnig amlwg. Câi eraill eu denu at destunau cerddorol dysgedig, fel yr uchelwr o Sir y Fflint, Sioned Conway (gw. Conwy, Siôn), a gyfieithodd Apologia Musices (1588), y testun Lladin hir gan y dyneiddiwr o Rydychen, John Case, o dan y teitl ‘Klod kerdd dafod’.

Fodd bynnag, parhaodd teuluoedd tirfeddianwyr i gynnig nawdd traddodiadol i feirdd, ac mae hinsawdd ddiwylliannol Lleweni ger Dinbych, cartref teulu Salusbury, yn un o’r enghreifftiau gorau o’r ddeuoliaeth hon. Roedd John Salusbury (1566/7–1612), a urddwyd yn farchog gan Elizabeth yn 1601, yn ŵr llys pwerus ac yn fân fardd a dreuliai lawer o amser yn Llundain, ond byddai, serch hynny, yn croesawu’r beirdd i Leweni pan fyddai gartref dros y Nadolig.

Mae rhestr o 80 o deitlau alawon o Leweni, a gopïwyd tua 1595, yn cynnig sampl gynrychioliadol o adloniant Seisnig nodweddiadol y cartref hwn: mae’n cynnwys alawon baledi a dawns, darnau unawd i’r liwt ac alawon theatr diweddar. Dim ond un teitl, ‘Seedanen’ (Sidanen), sydd â chysylltiadau Cymreig; mae’r alaw ei hun wedi’i cholli, er ei bod yn gysylltiedig â dau destun baled (un yn Saesneg, un yn Gymraeg) sy’n dathlu tras Gymreig y Frenhines Elizabeth. Mae arwyddion o ddeuoliaeth ddiwylliannol o’r fath mewn sawl lle, ac mae’n rhaid fod hynny wedi cael effaith ar gerddorion. Un o’r telynorion y gwyddom iddo ymweld â Lleweni yn yr 1590au oedd Thomas ap Richard, yr un Thomas Richards, yn ôl pob tebyg, ag a gyflogwyd gan Syr Edward Stradling o Sain Dunwyd yn 1584. Roedd galw mawr am Richards nid yn unig fel telynor barddol, ond hefyd am ei ddoniau ar ‘offeryn a chanddo dannau gwifr’ (‘stringed with wyar strings’, yn ôl llythyr gan Stradling at Richards, sy’n dyddio o’r un flwyddyn) – telyn Wyddelig mae’n debyg, a fyddai’n dod yn boblogaidd cyn hir yn y llys yn Lloegr. Roedd telynau o wahanol fathau yn dod yn fwyfwy poblogaidd yng nghartrefi Cymru, ac mae’n annhebygol mai telynor barddol traddodiadol oedd y telynor teulu a gyflogwyd gan Syr William Aubrey o Lantrithyd yn yr 1620au a’r 1630au.

Roedd llawer o gartrefi yn berchen ar offerynnau. Yn 1592 roedd firdsinalau, sacbytiau, cornetau, recorderau ac oboau i’w cael yng Nghastell Caeriw, cartref Syr John Perrot; roedd llyfrau canu yn y capel hefyd. Byddai teulu Wynn o Wydir hefyd yn dod â feiolau, liwtiau a thrwmpedau o Loegr rai blynyddoedd yn ddiweddarach, yn aml ar gyfer aelodau iau o’r teulu. Câi pwysigrwydd addysg gerddorol i ferched ei bwysleisio hefyd, ac yn 1621 cyflogwyd dyn ifanc o Gaersallog am ddeunaw mis i ddysgu’r feiol fas, firdsinalau a ‘pricksonges by the booke’ (h.y. sut i ddarllen nodiant cerddorol) i ferched Bryncir, ger Porthmadog.

Mae’n glir y byddai cartrefi mwyaf Cymru yn mwynhau adloniant dramatig, weithiau wrth ddathlu priodasau neu ddigwyddiadau eraill, gan ddefnyddio talentau lleol yn aml. Mae dau ddarn yn Saesneg o waith masg o Leweni wedi goroesi o’r 1580au, a rhai blynyddoedd yn ddiweddarach ysgrifennodd Syr Thomas Salusbury o Leweni (1612–43) dri masg. Perfformiwyd dau o’r rhain yng nghastell y Waun, cartref ewythr Thomas, Syr Thomas Myddleton (1586–1666); mae testun 1634 (er, yn anffodus, heb gerddoriaeth) yn cynnwys pedair cân i Orpheus a chylch o bedair dawns.

Roedd y ddarpariaeth gerddorol yn y Waun hefyd yn nodedig mewn ffyrdd eraill. Yn yr 1630au adnewyddodd Myddleton gapel y castell, gan ffurfio ar yr un pryd ei sefydliad corawl bychan ei hun. Benthyciwyd cantorion dan gyfarwyddyd yr organydd William Deane o eglwys blwyf Wrecsam, ac yn 1632 comisiynwyd y saer organau sefydledig o Lundain, John Burward, i adeiladu organ (mae’r contract ar ei chyfer yn dal i fodoli heddiw). Mae set o lyfrau rhan o’r Waun wedi goroesi hyd heddiw, ac yn cynnwys repertoire y capel, a gynhwysai anthemau a gwasanaethau (rhai gan Deane ei hun) y gallai unrhyw sefydliad corawl bychan cyffelyb yn Lloegr yn y cyfnod hwnnw fod wedi’u canu.

Er bod llai o dystiolaeth am y gerddoriaeth a ganwyd ac a chwaraewyd mewn cylchoedd cymdeithasol is, yn sicr roedd digon ohoni. (Trafodir dyfodiad salmyddiaeth fydryddol gynulleidfaol, gan gynnwys y deuddeg alaw a gynhwyswyd yn sallwyr Edmwnd Prys yn 1621, yn yr erthygl Crefyddol, Cerddoriaeth.) Mewn cyd-destun mwy gwledig, câi diddanwyr poblogaidd, yn eu plith ffidlwyr, crythorion, pibyddion a thabyrddwyr, eu cyhuddo yn fynych gan reithgorau Cymru ar ddiwedd yr 16g. a dechrau’r 17g. am darfu ar yr heddwch, yn aml am iddynt ganu caneuon a oedd yn cynnwys awgrymiadau enllibus neu am chwarae yn ystod oriau gwasanaethau eglwys. Roedd eu cerddoriaeth yn amlwg yn llai dyrchafedig na cherdd dant y crefftwyr barddol traddodiadol, ond roedd yn sicr yn rhan amlwg o’r tirlun cerddorol ar y pryd.

Sally Harper

Llyfryddiaeth

  • Gwyn Thomas, Eisteddfodau Caerwys (Caerdydd, 1968)
  • Osian Ellis, Hanes y delyn yng Nghymru (Caerdydd, 1980)
  • John Harper, ‘Ailolwg ar Philip ap Rhys a’i Gerddoriaeth Organ Litwrgïaidd’, Hanes Cerddoriaeth Cymru, 2 (1997), 126–72
  • Philip Weller, ‘Golwg Gerallt Gymro ar Gerddoriaeth’, Hanes Cerddoriaeth Cymru, 2 (1997), 1–64
  • Meredydd Evans, ‘Canu Cymru yn yr unfed ganrif ar bymtheg’, Cof Cenedl, 13 (1998), 33–67
  • Sally Harper (gol.) Astudiaethau Robert ap Huw, Hanes Cerddoriaeth Cymru, 3 (2000)
  • ———, ‘Tunes for a Welsh Psalter: Edmwnd Prys’s Llyfr y Salmau’, Studia Celtica, 37 (2003), 221–67
  • ———, ‘Datblygiad cerdd dant yng Nghymru yn yr Oesoedd Canol’, Cof Cenedl, 19 (2004), 1–35
  • ———, Music in Welsh Culture before 1650 (Aldershot, 2007)
  • ———, ‘Canu’r “Songes of the Doeinges of their Auncestors”: Agweddau ar Draddodiadau Cerddorol Cymru a Lloegr’, Llên Cymru, 31 (2008), 104–117
  • ———, ‘Musical Imagery in the Poetry of Guto’r Glyn’, ‘Gwalch Cywyddau Gwýr’: Essays on Guto’r Glyn and Fifteenth-Century Wales, gol. Dylan Foster Evans, Barry J. Lewis & Ann Parry Owen (Aberystwyth, 2013), 177–202



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.