Cyrff, Y

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Grŵp roc o ardal Llanrwst, Dyffryn Conwy oedd Y Cyrff a fu’n weithgar fel band o 1984–92. O dan ddylanwad Toni Schiavone, athro daearyddiaeth yn Ysgol Dyffryn Conwy, penderfynodd Mark Roberts ffurfio grŵp gyda rhai o’i gyfoedion. Dechreuodd Y Cyrff berfformio yn yr ysgol fel grŵp a oedd yn chwarae fersiynau Cymraeg o ganeuon The Clash (grŵp a fu’n ddylanwad mawr arnynt). Yr aelodau gwreiddiol oedd Mark Roberts (prif leisydd, gitâr), Barry Cawley (gitâr fas) a Dylan Huws (drymiau). Ymunodd Paul Jones yn ddiweddarach ar y gitâr fas gyda Cawley’n symud i’r gitâr flaen, ac fe ymunodd Mark Kendall fel drymiwr pan ymadawodd Dylan Huws er mwyn ymuno â’r grŵp pync Cymraeg, Anhrefn.

Yn dilyn nifer o berfformiadau ar hyd a lled gogledd Cymru yn 1984–5, daeth y grŵp i sylw cylch ehangach o Gymry o ganlyniad i’w hymddangosiad ar yr LP amlgyfrannog o ganeuon sîn ‘tanddaearol’ fyrlymus y cyfnod Cam o’r Tywyllwch (Anhrefn, 1985) gyda’r caneuon ‘Lebanon’ a ‘Tic Toc’. Er na chawsant sylw teilwng gan y cyfryngau Cymraeg yn ystod eu cyfnod cynnar, roedd ymateb beirniadol ffafriol i’w cerddoriaeth amrwd, amgen a chyfwynebiadol, ynghyd â’r geiriau a oedd yn wleidyddol o ran natur ond heb fod yn amlwg genedlaetholgar.

Rhyddhawyd EP chwe chân o’r enw Y Testament Newydd (Sain) yn 1986, ac roedd yn flwyddyn nodedig iddynt am reswm arall hefyd. O ganlyniad i waith Rhys Mwyn yn hyrwyddo grwpiau Cymraeg y tu hwnt i Gymru, a’r sylw a roddodd y troellwr disgiau Radio 1, John Peel, i’r cerddorion hynny, derbyniodd Y Cyrff wahoddiad i chwarae mewn gig Cymraeg yn y Fulham Greyhound, Llundain, ym mis Ebrill 1986. Fel grŵp ‘tanddaearol’ rhoddwyd sylw iddynt y tu hwnt i ffiniau Cymru o’r dechrau. Parhaodd yr apêl ryngwladol hon wrth iddynt berfformio yng Ngwlad Pwyl yn 1988. Darlledwyd eu taith yno ar raglen gyntaf Fideo 9 ym mis Mai y flwyddyn honno. Ynghyd â grwpiau fel Anhrefn, a oedd yn perfformio yn yr Almaen, ac Ewrop yn gyffredinol, roedd Y Cyrff yn nodweddu cyfnod o lwyddiant i gerddoriaeth Gymreig ar dir mawr Ewrop.

Erbyn rhyddhau eu sengl Hwyl Fawr Heulwen/Pethau Achlysurol (Ankst, 1990) roedd arddull a sain y band wedi merwino rhywfaint a’u caneuon yn fwy poblogaidd. Lledaenodd eu hapêl ymhellach o ganlyniad. Recordiwyd eu halbwm olaf Llawenydd Heb Ddiwedd (Ankst, 1991) yn Stiwdio Les, Bethesda, ac ym marn nifer dyma un o recordiau mwyaf arwyddocaol hanes canu pop Cymraeg erioed. Cafodd un o’u caneuon enwocaf, ‘Cymru, Lloegr, a Llanrwst’, ei rhyddhau ar Yr Atgyfodi (1989), EP chwe chân ar eu label eu hunain. Yn wir, yn nhyb rhai, daeth y gân – gyda theitl y gân yn perthyn i ymadrodd lleol sy’n dyddio o gyfnod Llywelyn ap Gruffudd – yn anthem i genhedlaeth gyfan o Gymry Cymraeg.

Ynghyd â’u dawn i gyfansoddi caneuon trawiadol, bachog, bu geiriau Y Cyrff (a ysgrifennwyd gan eu prif leisydd, Mark Roberts) yn destun sylw academaidd. Gan gyfeirio at y gair llyfraith o’r llinell ‘ailysgrifennwn y llyfraith’ yn y gân ‘Llawenydd heb Ddiwedd’, dywedodd Damian Walford Davies mewn erthygl ar eiriau caneuon pop Cymraeg: ‘Cywesgir dau air, dau syniad yn un. Wrth i’r gân ruthro i’w diwedd, ymddengys fod dau air yn uno’n sydyn yn afiaith y cyflymdra, dan bwysau’r odlau anorfod. Bethir term newydd yn y fan a’r lle [ac mae’n] fathiad beiddgar… caiff “llyfrau” a “chyfraith” eu ffiwsio’n un … [yr un] yw’r ddau air fan hyn, ac mae’r undod yn awgrymu awdurdod a hynafiaeth y “llyfrau cyfraith” Cymraeg – holl bwysau sefydliadol yr ysgrifenedig, y codedig, yr hyn sy’n cael ei dderbyn fel “Cyfraith”’ (Davies 1996, 202–3).

Yn ystod eu hymgyrch i hyrwyddo’r record ar daith yn Tsiecoslofacia yn 1992, cyhoeddodd y grŵp eu bod am ddod i ben a hynny wedi wyth mlynedd o berfformio. Fyth ers i Mark Roberts gyfarfod Cerys Matthews yn 1991, roedd hi â’i bryd ar greu cerddoriaeth a apeliai y tu hwnt i Gymru. Dyma a sbardunodd ffurfio Catatonia, grŵp a ddaeth i nodweddu cyfnod o symud oddi wrth gerddoriaeth Gymraeg. Yn eironig, roedd llwyddiant cerddoriaeth boblogaidd Gymraeg yn hwb i gerddorion fel Mark Roberts a Gruff Rhys droi at y Saesneg fel cyfrwng i’w cerddoriaeth (gw. er enghraifft, ap Siôn 1996, 24). Yn nhyb rhai, fel Simon Brooks, roedd hyn o ganlyniad i anallu cerddorion o’r fath i wneud bywoliaeth ar sail cerddoriaeth Gymraeg yn unig (Brooks 1998).

Er eu bod erbyn heddiw yn cael eu cydnabod fel un o’r grwpiau pwysicaf a mwyaf dylanwadol yn hanes cerddoriaeth boblogaidd Gymraeg, roedd Y Cyrff yn grŵp a oedd ar yr ymylon yn ddiwylliannol ac yn nodweddu cyfnod o newid mawr yn niwylliant yr ieuenctid. Ynghyd â grwpiau fel Anhrefn, Ffa Coffi Pawb, Tynal Tywyll a’r Crumblowers, roedd eu gweledigaeth amgen ynghylch dyfodol y diwylliant Cymraeg yn un arloesol, a chred un o sylfaenwyr cwmni recordiau Ankst, Emyr Glyn Williams, na fu grŵp cystal erioed wedyn. Yn 2006, penderfynodd Mark Roberts a Paul Jones ryddhau albwm ar label Rasal o’r enw Oes. Eu henw y tro hwn oedd Y Ffyrc, sef anagram o ‘Cyrff’. Er i’r albwm a’r ailffurfio dderbyn sylw ar y pryd, ni ryddhawyd cynnyrch ganddynt wedyn.

Gethin Griffiths a Pwyll ap Siôn

Disgyddiaeth

  • ‘Pum Munud’ / ‘Trwy’r Cymylau’ [sengl] (SUS01, 1986)
  • Y Testament Newydd (Sain 1419P, 1987)
  • Y Cyrff [EP] (DNA 01, 1989)
  • Yr Atgyfodi (1989)
  • ‘Hwyl Fawr Heulwen’ / ‘Pethau Achlysurol’ [sengl] (Ankst 009, 1990)
  • Llawenydd Heb Ddiwedd (Ankst 016, 1991)

Casgliadau:

  • Mae Ddoe yn Ddoe… (Ankst 030, 1992)
  • Atalnod Llawn (Rasal CD012, 2005)

Llyfryddiaeth

  • Damian Walford Davies, ‘“Ailysgrifennwn y Llyfraith”: Barddoniaeth y Canu Pop’, Hanes Cerddoriaeth Cymru, 1 (1996), 180–205
  • Pwyll ap Siôn, ‘Cerdd Dant, Cerdd Dafod a’r Cyfryw Anifeiliaid Blewog’, Barn, 404 (Medi, 1996), 24–25
  • Simon Brooks, Diwylliant Poblogaidd a’r Gymraeg (Cyfres y Cynulliad) (Talybont, 1998)
  • Hefin Wyn, Ble Wyt Ti Rhwng? (Talybont, 2006)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.