Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Cywydd"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
(Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '__NOAUTOLINKS__Mesur cypledol odledig yw’r cywydd deuair hirion, a rhoi iddo ei enw’n llawn, sy’n un o bedwar mesur ar hugain Cerdd Dafod. Ymddangos...')
 
Llinell 1: Llinell 1:
__NOAUTOLINKS__Mesur cypledol odledig yw’r cywydd deuair hirion, a rhoi iddo ei enw’n llawn, sy’n un o bedwar mesur ar hugain Cerdd Dafod. Ymddangosodd ar glawr gyntaf yn y gramadeg barddol a briodolir i Einion Offeiriad yn gynnar yn y 14g. Ffurf gyntefig arno a geid yno, ond yng ngwaith y Cywyddwyr cynnar ‒ Dafydd ap Gwilym (fl. 1330‒50), Iolo Goch (fl. 1345‒97), Llywelyn Goch Amheurig Hen (fl. 1350‒90) ac eraill ‒ fe’i cywreiniwyd drwy gynganeddu pob llinell a pheri bod diwedd naill fraich y cwpled yn diweddu’n acennog a’r llall yn ddiacen. Gan mai mesur yn cynnwys cwpledi odledig o linellau saith sillaf ydyw, bernir ei fod yn seiliedig ar fesur cynharach y traethodl. Mesur syml digynghanedd oedd hwnnw a ddefnyddid yn bennaf gan y beirdd isradd, y glêr.
+
__NOAUTOLINKS__Mesur cypledol odledig yw’r cywydd deuair hirion, a rhoi iddo ei enw’n llawn, sy’n un o bedwar mesur ar hugain Cerdd Dafod. Ymddangosodd ar glawr gyntaf yn y gramadeg barddol a briodolir i Einion Offeiriad yn gynnar yn y 14g. Ffurf gyntefig arno a geid yno, ond yng ngwaith y Cywyddwyr cynnar ‒ Dafydd ap Gwilym (''fl.'' 1330‒50), Iolo Goch (''fl.'' 1345‒97), Llywelyn Goch Amheurig Hen (''fl.'' 1350‒90) ac eraill ‒ fe’i cywreiniwyd drwy gynganeddu pob llinell a pheri bod diwedd naill fraich y cwpled yn diweddu’n acennog a’r llall yn ddiacen. Gan mai mesur yn cynnwys cwpledi odledig o linellau saith sillaf ydyw, bernir ei fod yn seiliedig ar fesur cynharach y traethodl. Mesur syml digynghanedd oedd hwnnw a ddefnyddid yn bennaf gan y beirdd isradd, y glêr.
  
Y cywyddau cynharaf sy’n debyg o fod ar glawr yw’r rhai a ganodd Dafydd ap Gwilym i Ifor Hael o Fasaleg. Er na ellir dweud i sicrwydd mai Dafydd oedd prif bensaer mesur y cywydd, gellir dweud iddo wneud llawer i’w boblogeiddio gan sicrhau ei fod yn dod yn gyfrwng derbyniol gan y penceirddiaid. Os Dafydd ap Gwilym a arloesodd gyda’r cywydd serch, Iolo Goch a fabwysiadodd y mesur ar gyfer y canu mawl a marwnad urddasol a ffurfiol yn nhraddodiad yr awdl.
 
Llinell 6: Llinell 6:
  
Dwy nodwedd ar grefft y cywydd yn y 14g. oedd cymeriad llythrennol, lle’r oedd geiriau dechreuol y llinellau yn cychwyn â’r un gytsain, a chymeriad cynganeddol, lle’r oedd gair ar ddechrau un llinell yn cynganeddu â’r gair ar ddechrau’r llinell ddilynol. Nodwedd amlwg arall ar arddull cywyddau’r 14g. oedd y defnydd o dorymadroddi, lle’r oedd brawddeg yn ymestyn dros nifer o linellau ac yn cynnwys sangiadau. Gwelir yr arddull hon ar ei gorau yng nghywyddau Dafydd ap Gwilym, a cheir enghraifft o dorymadroddi bwriadus yn y dyfyniad hwn o’i gywydd ‘Trafferth mewn Tafarn’, lle mae modd dilyn rhediad y ddwy frawddeg mewn print italig isod:
 
Briwais, ni neidiais yn iach,
 
Y grimog, a gwae’r omach,
 
Wrth ystlys, ar waith ostler,
 
Ystôl groch ffôl, goruwch ffêr.
 
Trewais, drwg fydd tra awydd,
 
Lle y’m rhoed, heb un llam rhwydd,
 
Mynych dwyll amwyll ymwrdd,
 
Fy nhalcen uwchben y bwrdd. 
 
 +
:Briwais, ni neidiais yn iach,
 +
:Y grimog, a gwae’r omach,
 +
:Wrth ystlys, ar waith ostler,
 +
:Ystôl groch ffôl, goruwch ffêr.
 +
:Trewais, drwg fydd tra awydd,
 +
:Lle y’m rhoed, heb un llam rhwydd,
 +
:Mynych dwyll amwyll ymwrdd,
 +
:Fy nhalcen uwchben y bwrdd. 
 +
 +
 +
Ceid cyfartaledd uchel o gynganeddion sain yng nghywyddau’r 14g., ond erbyn y ganrif ddilynol ceid mwy o gynganeddion cytseiniol, sef y draws a’r groes. Datblygodd y cwpled yn fwy o uned gyflawn a chywasgedig yng nghywyddau’r 15g. hefyd, gan roi’r cyfle i’r beirdd lunio cwpledi epigramatig. Yr oedd gan Dudur Aled (''c.''1465‒1525x7), er enghraifft, ddawn i lunio cwpledi bachog a chofiadwy tebyg i hwn:
  
Ceid cyfartaledd uchel o gynganeddion sain yng nghywyddau’r 14g., ond erbyn y ganrif ddilynol ceid mwy o gynganeddion cytseiniol, sef y draws a’r groes. Datblygodd y cwpled yn fwy o uned gyflawn a chywasgedig yng nghywyddau’r 15g. hefyd, gan roi’r cyfle i’r beirdd lunio cwpledi epigramatig. Yr oedd gan Dudur Aled (c.1465‒1525x7), er enghraifft, ddawn i lunio cwpledi bachog a chofiadwy tebyg i hwn:
 
Ysbys y dengys pob dyn
 
Ysbys y dengys pob dyn
 
O ba radd y bo’i wreiddyn.
 
O ba radd y bo’i wreiddyn.
Llinell 24: Llinell 26:
  
Mae’r mesur yn fyw ac yn iach heddiw, ac fe’i defnyddir yn fedrus gan nifer o’n beirdd cyfoes i ganu ar bob math o bynciau.
 
Bleddyn Owen Huws
 
Llyfryddiaeth:
+
'''Bleddyn Owen Huws'''
Evans, D. gol. (1980), Y Flodeugerdd o Gywyddau (Gwasg Christopher Davies: Abertawe).
+
 
 +
==Llyfryddiaeth==
 +
 
 +
Evans, D. (gol.) (1980), Y Flodeugerdd o Gywyddau (Gwasg Christopher Davies: Abertawe).
 +
 
Huws, B.O. a Lake, A.C. goln. (2016), Genres y Cywydd (Tal-y-bont).
 
Jones, T.G. gol. (1926), Gwaith Tudur Aled, I (Gwasg Prifysgol Cymru: Caerdydd), XXXI.21‒2.  
 
Johnston, D. (2005), Llên yr Uchelwyr: Hanes Beirniadol Llenyddiaeth Gymraeg 1300‒1525 (Gwasg Prifysgol Cymru: Caerdydd), tt. 90‒108.
 
Johnston, D. et al., goln. (2010), Cerddi Dafydd ap Gwilym (Gwasg Prifysgol Cymru: Caerdydd), 73.31‒8.
 
Morris-Jones, J. (1980), Cerdd Dafod (Gwasg Prifysgol Cymru: Caerdydd), tt. 328‒9.
 
Rowlands, E. I., ‘Nodiadau ar y traddodiad moliant a’r cywydd’, Llên Cymru, 7 (1963), 217‒43.
 
Diwygiad 23:50, 26 Tachwedd 2016

Mesur cypledol odledig yw’r cywydd deuair hirion, a rhoi iddo ei enw’n llawn, sy’n un o bedwar mesur ar hugain Cerdd Dafod. Ymddangosodd ar glawr gyntaf yn y gramadeg barddol a briodolir i Einion Offeiriad yn gynnar yn y 14g. Ffurf gyntefig arno a geid yno, ond yng ngwaith y Cywyddwyr cynnar ‒ Dafydd ap Gwilym (fl. 1330‒50), Iolo Goch (fl. 1345‒97), Llywelyn Goch Amheurig Hen (fl. 1350‒90) ac eraill ‒ fe’i cywreiniwyd drwy gynganeddu pob llinell a pheri bod diwedd naill fraich y cwpled yn diweddu’n acennog a’r llall yn ddiacen. Gan mai mesur yn cynnwys cwpledi odledig o linellau saith sillaf ydyw, bernir ei fod yn seiliedig ar fesur cynharach y traethodl. Mesur syml digynghanedd oedd hwnnw a ddefnyddid yn bennaf gan y beirdd isradd, y glêr.

Y cywyddau cynharaf sy’n debyg o fod ar glawr yw’r rhai a ganodd Dafydd ap Gwilym i Ifor Hael o Fasaleg. Er na ellir dweud i sicrwydd mai Dafydd oedd prif bensaer mesur y cywydd, gellir dweud iddo wneud llawer i’w boblogeiddio gan sicrhau ei fod yn dod yn gyfrwng derbyniol gan y penceirddiaid. Os Dafydd ap Gwilym a arloesodd gyda’r cywydd serch, Iolo Goch a fabwysiadodd y mesur ar gyfer y canu mawl a marwnad urddasol a ffurfiol yn nhraddodiad yr awdl.

Roedd a wnelo chwaeth noddwyr barddoniaeth y 14g. lawer â’r derbyniad a gafodd y cywydd. Oherwydd iddo ennill ei blwyf fel ag y gwnaeth, mae’n rhaid fod iddo gryn apêl ymhlith y noddwyr. Diau eu bod hwy yn mwynhau’r elfen o hiwmor a’r defnydd o ymddiddan ffraeth a geid yng nghywyddau serch y cyfnod.

Dwy nodwedd ar grefft y cywydd yn y 14g. oedd cymeriad llythrennol, lle’r oedd geiriau dechreuol y llinellau yn cychwyn â’r un gytsain, a chymeriad cynganeddol, lle’r oedd gair ar ddechrau un llinell yn cynganeddu â’r gair ar ddechrau’r llinell ddilynol. Nodwedd amlwg arall ar arddull cywyddau’r 14g. oedd y defnydd o dorymadroddi, lle’r oedd brawddeg yn ymestyn dros nifer o linellau ac yn cynnwys sangiadau. Gwelir yr arddull hon ar ei gorau yng nghywyddau Dafydd ap Gwilym, a cheir enghraifft o dorymadroddi bwriadus yn y dyfyniad hwn o’i gywydd ‘Trafferth mewn Tafarn’, lle mae modd dilyn rhediad y ddwy frawddeg mewn print italig isod:

Briwais, ni neidiais yn iach,
Y grimog, a gwae’r omach,
Wrth ystlys, ar waith ostler,
Ystôl groch ffôl, goruwch ffêr.
Trewais, drwg fydd tra awydd,
Lle y’m rhoed, heb un llam rhwydd,
Mynych dwyll amwyll ymwrdd,
Fy nhalcen uwchben y bwrdd.

Ceid cyfartaledd uchel o gynganeddion sain yng nghywyddau’r 14g., ond erbyn y ganrif ddilynol ceid mwy o gynganeddion cytseiniol, sef y draws a’r groes. Datblygodd y cwpled yn fwy o uned gyflawn a chywasgedig yng nghywyddau’r 15g. hefyd, gan roi’r cyfle i’r beirdd lunio cwpledi epigramatig. Yr oedd gan Dudur Aled (c.1465‒1525x7), er enghraifft, ddawn i lunio cwpledi bachog a chofiadwy tebyg i hwn:

Ysbys y dengys pob dyn O ba radd y bo’i wreiddyn.

Y cywyddau mawl a marwnad oedd y rhai mwyaf niferus o ddigon, ond ceid amryw o genres eraill yng nghyfnod y Cywyddwyr, gan gynnwys y cywyddau serch, gofyn a diolch, dychan, ymryson, brud neu ddarogan, crefyddol, maswedd, cymod ac iacháu.

Mae’r mesur yn fyw ac yn iach heddiw, ac fe’i defnyddir yn fedrus gan nifer o’n beirdd cyfoes i ganu ar bob math o bynciau.

Bleddyn Owen Huws

Llyfryddiaeth