Daearyddiaethau Dychmygedig

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 22:05, 21 Medi 2016 gan SeimonBrooks (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

Daw’r cysyniad o ‘Ddaearyddiaeth Dychmygedig’ yn wreiddiol o lyfr arloesol Edward Said, Orientalism (Dwyreinioldeb), a gyhoeddwyd gyntaf ym 1978. Yn ei lyfr, mae Said yn trafod sut y gellir olrhain cychwyn Dwyreinioldeb i benderfyniad Cyngor Eglwysi Fienna ym 1312 i sefydlu nifer o gadeiriau prifysgol mewn astudiaethau Arabaidd, Groegaidd, Hebraeg a Syrïaidd ym Mharis, Rhydychen, Bologna, Avignon a Salamanca. Datblygodd fel maes dysgedig (ynghyd â meysydd academaidd eraill gan gynnwys Daearyddiaeth, Gwyddoniaeth a Hanes) mewn perthynas â syniadaethau ehangach ynglŷn â chymdeithas, diwylliant, a gwleidyddiaeth. Felly, er bod y ‘Dwyrain’ yn ymddangos fel categori gwrthrychol a real, dengys Said ei fod hefyd yn cael ei greu gan y meddwl. Mae Dwyreinioldeb wedi ei seilio ar yr uned ddaearyddol, ddiwylliannol, ieithyddol ac ethnig ffuglennol yma ('the Orient'). Trwy’r meddwl, daw grŵp o bobl i wahaniaethu rhyngddyn nhw eu hunain a phobl ‘eraill’. O’r sylweddoliad hwn, daw diffiniad Said o ‘ddaearyddiaethau dychmygedig’ (imaginative geographies, weithiau imagined geographies), sef y broses o sefydlu syniadau yn ein meddyliau am ‘eraill’:

this universal practice of designating in one’s mind a familiar space which is ‘ours’ and an unfamiliar space beyond ‘ours’ which is ‘theirs’ is a way of making geographical distinctions that can be entirely arbitrary. I use the word ‘arbitrary’ here because imaginative geography of the ‘our land-barbarian land’ variety does not require that the barbarians acknowledge the distinction. It is enough for ‘us’ to set up these boundaries in our own minds; ‘they’ become ‘they’ accordingly, and both their territory and their mentality are designated as different from ‘ours’.

Nid cyfeirio at lefydd ar fap yn unig a wna Daearyddiaeth felly, ond at syniadau pwerus ynglŷn â phobl a thir tu hwnt i’n pobl a’n tir ‘ni’. Dengys Said bod syniadau am Ddaearyddiaeth yn cydblethu â syniadau am ddiwylliant, cymdeithas, cenedligrwydd ac ethnigrwydd.

Mae hyn yn ein harwain at dri phwynt ynglŷn â’r cysyniad o ‘Ddaearyddiaethau Dychmygedig’. Yn gyntaf, rhaid gofalu rhag pendroni’n ormodol dros y cwestiwn a yw daearyddiaethau dychmygedig yn ‘wir’ neu’n ‘ddychmygol’. Er bod syniadau yn hannu o gymysgedd o honiadau, argraffiadau a ffuglennau, gallasant serch hynny fod yn hynod bwerus. Er enghraifft, mae’r syniad o’r ‘Dwyrain’ yn seiliedig ar lawer mwy na’r hyn a wyddys yn ffeithiol amdano. Fel y dywed yr ysgolhaig James Der Derian, mae syniadau yn rhan ganolog o Wleidyddiaeth Ryngwladol:

People go to war because of how they see, perceive, picture, imagine and speak of others: that is, how they construct the difference of others as well as the sameness of themselves through representation.

Yn ail, nid dysgu am ‘eraill’ yn unig a wnawn drwy ‘ddaearyddiaethau dychmygedig’. Mae’r rhain hefyd yn cyfrannu at ein dealltwriaeth o bwy ydym ‘ni’ (y Gorllewin, neu’r ‘Occident’). Yn wir, un o ddadleuon mawr Said oedd mai rhan yn unig o nod Dwyreinioldeb fel maes academaidd oedd astudio ‘eraill’; rhan bwysiced, os nad yn bwysicach, oedd atgyfnerthu’r syniad o ‘Ewrop’. Er enghraifft, i’r Groegwyr a’r Rhufeiniaid oedd â diddordeb mawr yn y Dwyrain, rhan o’u tasg wrth wahanu pobl a llefydd ar sail hil, cenedl a meddwl oedd profi bod y Groegwyr a’r Rhufeinwyr yn well na phobl eraill. Yn wir, mae’r meddylfryd Ewropeaidd yn llawn syniadau, lluniau, storïau, ffigyrau a chanfyddiadau sy’n seiliedig ar syniadau am y ‘Dwyrain’, a gwelir olion hyn yng ngwaith Marlowe, Shakespeare, Milton a Cervantes.

Yn drydydd, nid gwahaniaethu rhwng ‘ni’ a ‘nhw’ yw’r unig elfen nodweddiadol ond sut y mae darluniau a disgrifiadau o ‘eraill’ yn simsanu rhwng yr adnabyddadwy a’r dieithr. Yn sgil hyn, daw’n bosib i adnabod rhywbeth neu rywun newydd a welir am y tro cyntaf ar sail categori sydd eisoes yn gyfarwydd. Yr hyn sy’n arbennig i’r Gorllewin, yn ôl Said, yw bod y Dwyrain yn ymddangos fel rhan o’r Gorllewin, ac fel rhywbeth sydd eisoes yn adnabyddus. Dyma pam mae Said yn cyfeirio at y broses o greu delweddau a disgrifiadau o’r Dwyrain fel un theatraidd: ‘The Orient then seems to be, not an unlimited extension beyond the familiar European world, but rather a closed field, a theatrical stage affixed to Europe’. Er bod Dwyreinioldeb wedi ei ffurfioli drwy ystod eang o lyfrau, traddodiadau a geirfa (a, gallwn ychwanegu, trwy fwyd a ffasiwn), yr un yw’r effaith, sef trosi’r Dwyrain i mewn i rywbeth arall, ac yn arbennig, rhywbeth sydd eisoes yn gyfarwydd i’r Gorllewin.

Bu gwaith Edward Said yn hynod ddylanwadol ar draws y gwyddorau cymdeithasol, a gwelir ôl ei ddadleuon mewn sawl testun pwysig arall o’r 20g. gan gynnwys llyfr Benedict Anderson, Imagined Communities; casgliad Eric Hobsbawm a Terence Ranger, The Invention of Tradition; llyfr Homi K. Bhabha, The Location of Culture; Gender Trouble Judith Butler; White Nation Ghassan Hage, a Representation: Cultural Representations and Signifying Practices Stuart Hall. Yng nghyd-destun meddwl am ddaearyddiaethau dychmygedig yng Nghymru, gwelir gwaith diweddar Simon Brooks, Pam Na Fu Cymru?, Wales Unchained: Literature, Politics and Identity in the American Century Daniel G. Williams; erthygl Pyrs Gruffudd, ‘Remaking Wales: nation-building and the Welsh imagination, 1925-1950’, ac wrth feddwl am Gymru mewn perthynas ag Israel a Phalesteina, gwaith Jasmine Donahaye, Losing Israel.

Daeth y term ‘Daearyddiaethau Dychmygedig’ yn ddefnyddiol hefyd yng nghyswllt trafodaethau am y Rhyfel ar Derfysgaeth (2001 - ). Dyma Ryfel a lawnsiwyd gan gyn-Arlywydd America, George W. Bush, a’i gyngreiriaid yn dilyn 9/11, ac a gefnogwyd yn ddiamwys gan Brif Weinidog Prydain, Tony Blair. Yn The Colonial Present, mae’r daearyddwr Derek Gregory yn ymdrin â’r syniadau a arddelwyd fel rhan o’r rhyfel yma yn erbyn Affganistan (2001), Irac (2003) a Phalesteina. Yn arbennig, try at y cysyniad o ‘ddaearyddiathau dychmygedig’ i drafod sut y cafodd syniadau trefedigaethol ynglŷn â’r Dwyrain ac Islam eu hail-danio a’u hatgyfnerthu yn y cyd-destun yma. Fe’i defnyddir i wahaniaethu yn erbyn y sawl a gredwn eu bod yn ‘bell i ffwrdd’ ac felly’n wahanol i ‘ni’: ‘distance, like difference – is not an absolute, fixed and given, but is set in motion and made meaningful through cultural practices’. Serch hynny, dywed Gregory nad yw unrhyw ddaearyddiaeth ddychmygedig yn hollgynhwysol a chaeëdig. Yn hytrach, mae disgrifiadau a darluniau yn parhau i newid, ac maent felly yn creu’r cyfleoedd i herio ein dealltwriaeth o’r presennol.

Angharad Closs Stephens

Llyfryddiaeth

Closs Stephens, A. (2011), ‘Beyond Imaginative Geographies? Critique, cooptation and imagination in the aftermath of the War on Terror’, Environment and Planning D: Society and Space, 29, 254-267.

Gregory, D. (2004), The Colonial Present (Malden, Oxford: Blackwell).

Said, E. (1978), Orientalism (London: Penguin).


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.