Dameg

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae dwy ystyr orgyffyrddol i’r gair ‘dameg’: (a) stori a fwriedir i ddysgu gwers, a (b) stori ac ynddi ail ystyr, ‘un peth dan rith o beth arall’ chwedl Geiriadur Charles. Gan amlaf o ddigon yn yr Efengylau, mae ‘dameg’ yn cyfieithu’r Groeg ‘parabole’, sef ‘gosod gyferbyn’, hynny yw ‘creu cyfatebiaeth’. Yn Nameg y Mab Afradlon, ym mhen ei holl hygrededd dynol, ceir yr ail lefel lle saif y tad dros Dduw a’r mab ieuengaf dros y pechadur. Ond rhaid pwysleisio nad oes ‘ail ystyr’ ym mhob dameg; stori realaidd yw Dameg y Samariad Trugarog, yn ateb y cwestiwn ‘pwy yw fy nghymydog?’.

‘Damhegion’ a ddywedwn weithiau am Chwedlau Aesop a ‘chwedlau anifeiliaid’ eraill. Yn wahanol i ddamhegion Iesu Grist, ffantasïol yw’r rhain o’r cychwyn, gydag anifeiliaid ac adar yn cynrychioli mathau o bobl gan roi inni rybudd a chyngor ynghylch ymddygiad.

Daliwn i ddweud ‘dameg’ am ambell stori a nofel o’r cyfnodau modern am fod un ai’r wers neu’r ystyr symbolaidd yn anodd ei hosgoi. Mae elfen ddamhegol gref mewn dwy o nofelau enwocaf yr 20g., Brave New World (Aldous Huxley) a Nineteen Eighty-four (George Orwell). Dameg enwog o’r 18g. yw Candide (Voltaire), yn arwain at y cyngor ‘triniwch eich gardd’.

Math o ddameg estynedig yw alegori.

Dafydd Glyn Jones

Llyfryddiaeth

Charles, T. (1805), ‘Dameg’, Geiriadur Ysgrythyrol (Y Bala: R. Saunderson).

Jones, W. O. (1926), ‘Dameg, -hegion’, yn Rhys. T. et al. (goln) Geiriadur Beiblaidd (Wrecsam: Hughes a’i Fab).


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.