Darlledu gwasanaeth cyhoeddus

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Saesneg: Public Service Broadcasting

Math o ddarlledu lle y mae’r holl arian, neu ran o’r cyllid yn dod o aelodau’r cyhoedd. Gall hyn olygu rhoddion gwirfoddol, ymdrechion codi arian, cymorth cymunedol a/neu ffioedd trwydded.

Mae'r rhwydweithiau darlledu cyhoeddus yn ymgorffori radio a theledu ac mae ganddynt awydd i ddarparu rhaglenni o ansawdd da sydd yn addysgiadol neu addysgol o ran eu natur, a rhagdybir eu bod yn gweithredu’n annibynnol i’r Llywodraeth neu’r farchnad. Gellir trefnu’r rhwydweithiau yn lleol, rhanbarthol, cenedlaethol neu fel cyfuniad ohonynt.

Cychwynnodd y Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig (BBC) yn y 1920au gan gyflwyno model cenedlaethol o ddarlledu cyhoeddus ar gyfer radio, ac erbyn heddiw mae’n gweithredu’n fyd-eang fel gwasanaeth radio, teledu ac ar-lein.

Yn yr Almaen, sefydlwyd nifer o systemau darlledu cyhoeddus rhanbarthol ar ôl yr Ail Ryfel Byd fel gwrthgyferbyniad i beiriant propaganda monopolistaidd y Natsïaid.

Mae gorsafoedd darlledu cyhoeddus Unol Daleithiau’r America (UDA) wedi’u trwyddedu’n lleol, er bod llawer ohonynt yn darlledu rhaglenni’r radio cyhoeddus cenedlaethol (National Public Radio) a PBS (Public Broadcasting System). Mae gan lawer o orsafoedd cyhoeddus gysylltiadau agos â sefydliadau addysg uwch lleol. Gan dynnu ar ddelfryd yr Oes Oleuedig ynghlŷn â chyfrifoldeb cymdeithasol a budd y cyhoedd, roedd darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus yn gofyn i nifer o gomisiynau cynghori yn ystod y blynyddoedd yn dilyn yr Ail Ryfel Byd, megis Comisiwn Hutchins UDA yn 1947 neu Gomisiwn Brenhinol Prydain ar y Wasg yn 1947 a 1977 eu dilysu.

Daeth systemau darlledu cyhoeddus i’r amlwg fel unig fenter darlledu cenedl-wladwriaeth, a tan y 1980au yn y rhan fwyaf o wledydd y gorllewin, dyma oedd prif ddulliau darlledu. Yna, wedi i nifer o bolisïau mwy rhyddfrydol dros dechnolegau dosbarthu newydd ddod i rym, ynghyd â’r dadleuon ynghylch prinder sbectrwm (sef y rhan o'r ystod o amleddau tonnau electromagnetig a neilltuir i orsafoedd darlledu), daeth y gwasanaethau cyhoeddus i dderbyn eu bod nhw’n gorfod cyd-fyw gyda mwy o rwydweithiau masnachol yn y rhan fwyaf o leoedd o gwmpas y byd.

Heddiw, mae darlledu gwasanaeth cyhoeddus yn dueddol o weithredu ochr yn ochr â llu o rwydweithiau mawr masnachol ac mewn sawl achos, rhai mwy pwerus. Un eithriad yw UDA, lle y mae systemau darlledu masnachol a chyhoeddus wedi bodoli o’r dechrau, er bod mantais sylweddol gyda’r cyntaf dros yr olaf. Ac yn wir, er bod y rhan fwyaf o systemau darlledu cyhoeddus yn hawlio statws dielw, mae’r mwyafrif yn croesawu ac yn defnyddio graddau amrywiol o fasnacheiddio. Er enghraifft, gwelir nifer o ymgyrchoedd codi arian ar y sgrîn, a chaniateir hysbysebion ar gyfer rhaglenni penodol, nawdd rhannol a/neu werthu cynnyrch (e.e. DVDs o raglenni a darlledwyd eisoes). Serch hynny, mae’r Siarter Darlledu Gwasanaeth Cyhoeddus yn parhau i fod yn glir: mae’r rhan fwyaf o systemau’n gyfrifol am ddarparu rhaglenni newyddion a rhaglenni materion cyfoes sy’n hyrwyddo budd y cyhoedd yn gyntaf oll.

Mae’r rhai sy’n darparu gwasanaethau darlledu cyhoeddus yn ystyried bod eu rôl yn hanfodol o safbwynt democratiaeth, yn enwedig fel arf i adfywio’r ‘ddadl feirniadol-resymol’ ymhlith y cyhoedd (Habermas 1989). Maen nhw o’r farn bod yr ethos anfasnachol hwn yn hwyluso eu gallu i ddarparu rhaglenni newyddion a materion cyfoes trylwyr o safon uchel. Yn eu tyb nhw, maen nhw’n gallu gwneud hyn heb gael eu dylanwadu’n ormodol gan y farchnad, obsesiwn gydag elw a’r nifer o wylwyr a gwrandawyr.

Ar y llaw arall, mae eraill yn dadlau bod cynnal ansawdd o’r fath yn fwy o ddyhead na ffaith, gan fynnu bod darlledwyr cyhoeddus yn fwy tebygol o fod yn agored i gael eu dylanwadu gan bwysau’r Llywodraeth wrth adrodd y newyddion na’u cystadleuwyr masnachol.

Llyfryddiaeth

Habermas, J., 1989. The Structural Transformation of the Public Sphere. Cyfieithiwyd gan Burger, T. gyda Lawrence, F. Cambridge, MA: MIT Press.




Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.