Datganiad i'r wasg

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Saesneg: Press release

Taflen neu ddogfen sy’n cael ei hanfon at sefydliadau newyddion yn rhad ac am ddim yn y gobaith y bydd y deunydd sydd ynddo yn cael ei ddefnyddio fel newyddion. Yn aml, mae ar ffurf stori newyddion sy’n ymddangos yn wrthrychol, ond nod y datganiadau hyn yw tynnu sylw gohebydd neu olygydd i gynhyrchu stori sy’n cyd-fynd â gogwydd y newyddion a fynegir yn y datganiad.

Mae’r datganiadau’n cyrraedd stafelloedd newyddion, neu ohebwyr unigol yn ddyddiol drwy e-bost, neu yn llai aml bellach, drwy ffacs neu lythyr. Y datganiadau mwyaf defnyddiol i newyddiadurwyr yw’r rhai sy’n eu hysbysu am gyfarfodydd, agendâu a digwyddiadau. Serch hynny, maen nhw’n parhau ymysg yr ymdrechion mwyaf amlwg i roi cyhoeddusrwydd i fuddiannau sefydliad trwy geisio dylanwadu ar y cyfryngau newyddion.

Daw datganiadau i’r wasg o ffynonellau swyddogol megis llywodraethau neu gyrff statudol, cyrff masnachol sy’n ceisio hysbysebu eu nwyddau, elusennau neu grwpiau ymgyrchu, a sefydliadau lleol sy’n gobeithio rhoi cyhoeddusrwydd i’w gweithgareddau.

Mae cwmnïau cysylltiadau cyhoeddus, sydd fel arfer yn gyfrifol am ddatganiadau i’r wasg, yn aml yn cyflogi cyn-newyddiadurwyr i greu’r datganiadau mewn ffyrdd a fydd yn gwella’r siawns o lwyddiant. Er na roddir sylw i’r rhan fwyaf o ddatganiadau, daw rhai yn straeon newyddion, yn enwedig mewn stafelloedd newyddion lle y mae prinder newyddiadurwyr a phwysau gwaith cynyddol. Mewn achosion o’r fath, mae’r datganiadau yn wybodaeth defnyddiol sydd ar gael yn y fan a’r lle. Gelwir y math hwn o newyddiaduraeth yn churnalism yn Saesneg.



Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.