Datgeiniad

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 21:24, 31 Mai 2021 gan CadiW (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Llefarydd barddoniaeth oedd y datgeiniad neu’r datgeinydd, a fyddai weithiau’n cyfeilio iddo’i hun ag offeryn neu o bosibl â ffon. Cyfeirir ato’n gyntaf ymhlith trioedd olaf dau fersiwn diweddar o ramadeg y beirdd: mae fersiwn Llyfr Coch Hergest (a gopïwyd rhwng 1382 ac 1410) yn nodi mai ‘damwein yw kaffael datkeinyat a datkano kerd yn gwbyl megys y kano y prydydd’, a fersiwn arall ychydig yn fwy diweddar yn nodi ymhellach: ‘Tri pheth a vrddassant gerd: ehudrwydd ac ehofynder parabyl ac ethrylith y datkeinad, ac awdurdawt y prydyd, a chyuarwydyt ar gerddwryaeth yn barnu’.

Roedd llefaru clir yn hanfodol i’r datgeiniad, ynghyd â dychymyg addas ac (o bosibl) afael ar fesurau cerdd dant, er bod y datgan mewn llawer achos ymhell o fod yn gywir, fel y noda’r dyfyniad uchod. Serch hynny, roedd swyddogaeth hanfodol i’r datgeiniad proffesiynol, ac mae’r bardd Guto’r Glyn (c.1435–c.1493) yn dathlu huodledd y datgeiniad Rhys Bwtling, a ddisgrifir ganddo fel ‘mab huotlaf’. Mae ffynonellau diweddarach yn honni bod Rhys yn dod o Brestatyn ac mai ef oedd datgeiniad buddugol eisteddfod Caerfyrddin c.1452: copïwyd rhai o’i alawon neu ‘brifgeinciau’ tybiedig hefyd (gw. isod) mewn llawysgrif o ddechrau’r 17g.

Ymhelaethir mewn dull llawer mwy trefnus ar y disgrifiadau cynnar o’r datgeiniad yn Statud Gruffudd ap Cynan, y gyfres enwog o reolau barddol a gysylltir ag eisteddfod gyntaf Caerwys, 1523 (er eu bod, mae’n debyg, yn rhoi trefn ffurfiol ar agweddau ar arferion llawer cynharach). Mae’r rheolau hyn yn dal i gynnal y rhaniad clir rhwng y datgeiniad a’r bardd o ran statws a chyfrifoldeb. Y prif wahaniaeth yw bod y datgeiniad yn canu rhywbeth sydd eisoes yn bodoli, a’r bardd, neu’r ‘gwnaethuriadwr’, yn creu rhywbeth gwreiddiol, ‘y peth niwnaethbwyd erioed’.

Mae gofynion y gwahanol fersiynau o’r Statud yn amrywio cryn dipyn, ond mae’n amlwg fod rhai datgeiniaid yn llawer mwy medrus nag eraill. Mae un fersiwn cynnar a gopïwyd gan y bardd William Llŷn (1534/5–80) yn pennu dwy lefel o ddatgeiniad. I ennill grôt, roedd angen i’r datgeiniad wasanaethu fel gwas i’r bardd a chynnig medrau sylfaenol yn ymwneud â cherdd dafod. Roedd y rhain yn cynnwys darllen a deall Cymraeg; dosbarthu a datgan englyn, cywydd ac awdl, a rhoi gwybod i’r prydydd am unrhyw wallau yn ei waith. Dylai hefyd wybod sut i gyfansoddi englyn.

I ennill grôt arall, roedd rhaid iddo ddeall elfennau cerdd dant yn ogystal â cherdd dafod. Roedd rhaid iddo ddysgu’r holl ‘blethiadau’ (chwe dull gwahanol o daro’r tannau), ‘profiad’ cyffredin, y ‘gostegion’ (grŵp o bedwar darn) a’r tri ar ddeg o ‘brifgeinciau’. Roedd angen iddo wybod hefyd sut i gyflwyno cywydd ar y ceinciau hynny. Yn ychwanegol at hyn oll, mae’r fersiwn yn y Llyfrgell Brydeinig (BL Additional 15038) yn disgwyl iddo allu canu’r delyn a’i chyweirio (‘kanv telyn ai chwerio’) a ‘gwybod kwlwm a chaniad’.

Ar y dechrau, roedd y Statud yn gwahardd datgeiniaid yn benodol rhag symud i fyny drwy’r gyfres o raddau a oedd ar gael i feirdd a cherddorion, ac yn eu rhwystro rhag mynd o amgylch ar eu pennau eu hunain. Roedd disgwyl iddynt hefyd weithredu fel gweision personol i’r prydydd y byddent yn teithio yn ei gwmni (roedd eu dyletswyddau weithiau’n cynnwys gosod y bwrdd a cherfio pob math o aderyn); byddai rhai’n gwasanaethu fel arwyddfeirdd yn ogystal, gyda chyfrifoldeb am olrhain llinach y noddwr. Fodd bynnag, yn y fersiwn o’r Statud sydd wedi goroesi yn llawysgrif Peniarth 158 yn y Llyfrgell Genedlaethol, mae’r datgeiniad yn cael safle uwch, ochr yn ochr â’r bardd, y telynor a’r crythor, fel ymarferwr un o’r pedair ‘kerdd raddol’ (celfyddydau graddedig): gallai bellach gymhwyso’n ‘ddisgybl ysbas’ neu’n ‘ddisgybl disgyblaidd’.

Mae’n arbennig o arwyddocaol fod y Statud yn mynnu bod y datgeiniad yn gwybod y tair ar ddeg (weithiau pedair ar ddeg) o brifgeinciau ‘ar delyn ne grwth’ a gwybod sut i’w datgan (eu ‘canu hwy ai dafod’). Mae’r fersiwn yn MS Additional 15038 y Llyfrgell Brydeinig fel petai’n bur fanwl ynghylch sut y câi’r rhain eu defnyddio: ‘Datgeiniad a ddyle wybod … 14 o brif geinkeu ar danne a datgan kowydd gida hwy’. Nid oes dim wedi goroesi o’r prifgeinciau ar wahân i’w teitlau, sy’n digwydd gyntaf fel dwy restr ar wahân yn Llawysgrif Peniarth 126 (c.1500). Mae’r un teitlau’n digwydd ynghyd ag amryfal ychwanegiadau mewn sawl rhestr ddiweddarach, lle cânt eu priodoli bron yn ddieithriad i’r cerddorion Cadwgan a Chyhelyn.

Mae’n ddigon posibl nad oeddynt yn ddim mwy na fformiwlâu byr a gâi eu hailadrodd ar delyn neu grwth, a’u defnyddio i bob pwrpas i gadw ‘curiad’ rheolaidd y pennill, gan alluogi’r datgeiniad i ddod â’i batrymau geiriol yn fyw. Roedd angen offeryn ar gyfer y math hwn o gyfeiliant, er bod un fersiwn diweddar o Statud Gruffudd ap Cynan yn cyfeirio at ddosbarth is o lefarwyr a elwid yn ‘ddatgeiniaid pen pastwn’, a gyfeiliai iddynt eu hunain â dim mwy na ffon braff. Mae’r grŵp perfformio Datgeiniaeth sy’n cael ei hyfforddi gan Peter Greenhill wedi arbrofi’n llwyddiannus iawn yn ddiweddar â’r math hwn o gyfeilio â phastwn.

Sally Harper

Llyfryddiaeth

  • Gwyn Thomas, Eisteddfodau Caerwys (Caerdydd, 1968)
  • Meredydd Evans, ‘Canu Cymru yn yr unfed ganrif ar bymtheg’, Cof Cenedl, 13 (1998), 33–67
  • Sally Harper, Music in Welsh Culture before 1650: A Study of the Principal Sources (Aldershot, 2007)
  • Sally Harper, ‘Dafydd ap Gwilym, Bardd a Cherddor’/ Dafydd ap Gwilym, Poet and Musician’, http://www.dafyddapgwilym.net/ (Prifysgol Abertawe, 2007)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.