Davies, Bryan (1934-2011)

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 21:28, 31 Mai 2021 gan CadiW (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Ganed y cyfeilydd a’r cyfansoddwr Bryan Davies i deulu glofaol yng Nglyn Rhedynog (Ferndale) yn y Rhondda Fach, ac yno y bu’n byw ar hyd ei oes. Fe’i haddysgwyd yn yr ysgol ramadeg leol lle sylwyd yn gynnar ar ei ddawn gerddorol a bu’n canu’r piano ar y radio yn bedair ar ddeg oed. Fe’i haddysgwyd ymhellach yng Ngholeg Cerdd a Drama’r Castell, Caerdydd (y Coleg Brenhinol Cerdd a Drama yn ddiweddarach), ac yng ngholeg hyfforddi athrawon Bretton Hall yng ngogledd Lloegr. Bu’n dysgu yn Llundain am gyfnod cyn dychwelyd i’r Rhondda lle bu’n athro ysgol am weddill ei yrfa. Ar wahanol adegau bu’n astudio gyda chyfansoddwyr a phianyddion amlwg fel Ralph Vaughan Williams, Aram Khachaturian, Vlado Perlemuter ac Aaron Copland.

Wedi iddo ymddeol fel athro fe’i penodwyd i staff y Coleg Cerdd a Drama yng Nghaerdydd fel hyfforddwr llais a phiano a bu’n cyfeilio mewn dosbarthiadau meistr i unawdwyr rhyngwladol fel Brigitte Fassbaender, Raphael Wallfisch a Wen Zhou Li. Cydnabuwyd ei allu fel cyfeilydd o’r safon uchaf oll gan gantorion amlycaf Cymru, yn eu plith Gwyneth Jones, Stuart Burrows, Bryn Terfel, Rebecca Evans, Gwyn Hughes Jones a Jason Howard. Fe’i disgrifiwyd gan Rebecca Evans fel ‘Rachmaninov y Rhondda’.

Roedd galw mynych am ei wasanaeth fel cyfeilydd a beirniad mewn eisteddfodau a gwyliau cerdd ledled Cymru. Ac yntau bob amser yn barod ei gymwynas, prin fod côr yng Nghymru, a chôr meibion yn arbennig, na fu Bryan Davies yn cyfeilio iddo ar ryw adeg, ac roedd cysylltiad agos rhyngddo a chorau meibion Treorci a Phendyrus a Chôr Meibion De Cymru. Caent hwythau fwynhad arbennig o sawl trefniant o’i eiddo fel ei osodiad hynod effeithiol o emyn-dôn fawreddog J. Morgan Nicholas, ‘Bryn Myrddin’, a’r gân Iddewig, Hava Nagila.

Yn ogystal â’i feistrolaeth dechnegol lwyr ar y piano, roedd ganddo allu arbennig wrth gyfeilio i addurno’n chwaethus ac ymhelaethu ar y cyfeiliant ffurfiol i gytgan opera gyda deunydd o’r rhannau cerddorfaol nes ei fod, yng ngeiriau arweinydd côr meibion Treorci, John Cynan Jones, yn ‘fand un-dyn’. Mae’r nodiadau a ysgrifennodd ar gyfer cloriau cryno-ddisgiau labeli Chandos a Deutsche Grammophon yn tystio ymhellach i helaethrwydd ei wybodaeth gerddorol. Cyfrifir y gŵr diymhongar hwn o Gwm Rhondda a fu farw ar 2 Ebrill 2011 yn un o bianyddion disgleiriaf Cymru.

Gareth Williams

Llyfryddiaeth

  • Gareth Williams, ‘Brian Davies: Pianist described as “the Rachmaninov of the Rhondda”,’ Independent, 5 Gorffennaf 2011



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.