Davies, E. T.

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

(1878–1969)

Cerddor, cyfansoddwr ac addysgwr oedd Evan Thomas Davies, ac un a fu’n allweddol yn sefydlu cerddoriaeth fel maes astudio yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, yn ystod hanner cyntaf yr 20g. Fe’i ganed ym Mhontmorlais ger Merthyr Tudful ond fe’i magwyd yn Nowlais lle’r oedd ei deulu yn flaenllaw yng ngweithgarwch cerddorol y gymuned leol. Canai ei dad yr organ yng Nghapel Hermon ac ystyrid ei fam, a berthynai i linach y cerddor a’r cyfeilydd R. S. Hughes (Aberystwyth a Bethesda), yn gantores ddawnus.

Er mai fel cyfansoddwr yr unawd Ynys y Plant (a wobrwywyd yn Eisteddfod Genedlaethol Llundain, 1909) y cofir am E. T. Davies, gwnaeth gyfraniad amlwg i fyd caniadaeth y cysegr a chanu’r organ yng Nghymru ei ddydd. Llwyddodd i ymelwa o gyfoeth y traddodiad cerddorol ym Merthyr a’r cyffiniau, a’r profiadau cynnar hyn yn un o drefi mwyaf poblog a cherddorol y cyfnod a gyfeiriodd ei yrfa am weddill ei oes. Wedi iddo ennill cymhwyster FRCO ac wrth i’r bri ar adeiladu organau pib mewn capeli Ymneilltuol gynyddu, fe’i gwahoddwyd i roi datganiadau a pherfformiadau i’w sefydlu ledled Cymru.

Fe’i penodwyd yn Gyfarwyddwr Cerdd amser llawn cyntaf Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, yn 1920, i olynu Harry Evans (ei gyn-athro o Ddowlais) a Caradog Roberts (Rhosllannerchrugog). Bu’n cydweithio gyda Henry Walford Davies (Athro a phennaeth yr adran gerdd ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth) i wireddu cynlluniau’r Cyngor Cerdd Cenedlaethol gyda nawdd a chefnogaeth Gwendoline a Margaret Davies, Gregynog. Sefydlodd driawd llinynnol ym Mangor (ar batrwm ensemblau tebyg ym mhrifysgolion Aberystwyth a Chaerdydd) a sicrhaodd le haeddiannol i gerddoriaeth offerynnol fel rhan o’r maes llafur. Trwy gydol ei flynyddoedd ym Mangor pwysleisiodd werth perfformiadau byw o gerddoriaeth a hyn a fu’n gychwyn i’r gyfres gyngherddau wythnosol a sefydlwyd yno bryd hynny.

Yn 1935 gwahoddodd Arnold Dolmetsch i’r brifysgol i draddodi cyfres o ddarlithoedd ar gerddoriaeth Llawysgrif Robert ap Huw (Musica, Llyfrgell Brydeinig, MS. Additional 14905) a fu’n sail i sefydlu The Early Welsh Music Society a gyhoeddodd gasgliad o recordiadau masnachol o berfformiadau Mabel Dolmetsch a thrawsgrifiadau o rai adrannau o’r cynnwys cerddorol yn 1936. Bu’r digwyddiad yn gyfrwng i ddwyn cryn sylw i gerddoriaeth gynnar Cymru ar dudalennau The Musical Times a The Consort ac yn y man, ymhlith cerddoregwyr blaenllaw Ewrop y dydd. Er nad oedd E. T. Davies yn gyfansoddwr toreithiog, lluniodd ddeunaw o weithiau unawdol ar gyfer y piano, darnau corawl sy’n seiliedig ar alawon traddodiadol Cymru (e.e. trefniant o ‘Modryb Neli’ a ‘Suo Gân’) a gweithiau siambr sy’n adlewyrchu nodweddion Cymreig (e.e. Hobed o Hilion i driawd offerynnol).

Golygodd fersiwn Cymraeg o’r Dioddefaint yn ôl Sant Matthew (J. S. Bach), cyfrannodd i gyfrol Sydney Northcote Caneuon Cenedlaethol Cymru (1959) a derbyniodd sawl comisiwn gan y BBC. Lluniodd rai emyn-donau adnabyddus (e.e. ‘Pontmorlais’ a ‘Glastonbury Thorn’) a chydweithiodd gyda J. Lloyd Williams (golygydd Cylchgrawn Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru) i ddwyn credinedd i’r maes ymhlith cerddorion proffesiynol ei gyfnod.

Wyn Thomas

Llyfryddiaeth

‘In Memoriam: E. T. Davies’, Cerddoriaeth Cymru, III/6 (1970), 2–10
Frank Price Jones, ‘E. T. Davies’, Y Bangoriad, 2/10, Mawrth (1970), 63–4
A. Tudno Williams, E. T. Davies – Arloeswr Cerdd (Dinbych, 1981)
Wyn Thomas, ‘The Early Welsh Music Society’, Barn, 338 (1991), 32–5



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.