Davies, Ffrangcon (1855-1918)

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Bu’n rhaid i lawer o gantorion Cymreig symud i Lundain er mwyn gallu gwneud bywoliaeth, ac un a wnaeth hyn oedd y bariton hwn o Fethesda.

Astudiodd David Thomas Ffrangcon Davies yn Rhydychen ac er iddo gael trafferthion tra oedd yno graddiodd yn 1881. Dychwelodd i Gymru a bu’n giwrad yn Llanaelhaearn a Chonwy. Yn y cyfamser llwyddodd i ddatblygu ei ddoniau cerddorol ac ar ôl derbyn curadaeth yn Llundain, buan y cafodd ei dderbyn i’r cylchoedd cyngherddol yn y ddinas honno. Ymunodd â Chwmni Opera Carl Rosa a chafodd gyfleoedd i ganu yn Unol Daleithiau America a’r Almaen.

Bu’n dysgu yn Berlin am gyfnod a châi ei gydnabod fel athro llais da, cymaint felly nes iddo gael swydd yn 1904 fel Athro llais yn yr Academi Gerdd Frenhinol. Yn 1905 ysgrifennodd lyfr dylanwadol, The Singing of the Future.

Richard Elfyn Jones



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.