Davies, Grace Gwyneddon

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

(1879–1944)

Ganed y gasglwraig alawon canu gwerin Grace Roberts (Grace Davies yn ddiweddarach) yng nghymdogaeth Anfield, Lerpwl (gw. Thomas 1999).

Yn dilyn hyfforddiant fel pianyddes yn yr Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain a chyfnod fel cantores yn Ffrainc a’r Eidal, daeth i berfformio yn un o gyngherddau Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Caernarfon, 1906, ac i gyfrannu i gyfarfod y Cymmrodorion yn Neuadd y Sir, lle canodd drefniant o waith Arthur Somervell o’r alaw Gymreig, ‘Cnot y Coed’. Bu’r profiad eisteddfodol hwnnw yn symbyliad iddi ddilyn trywydd newydd yn ei gyrfa gan fod nifer o Gymry blaenllaw’r gogledd yn bresennol (gan gynnwys ei darpar ŵr, Robert Gwyneddon Davies) ac unigolion a oedd yn awyddus i ddiogelu’r canu brodorol a esgeuluswyd yn y 19g. ac a oedd yn prysur ddiflannu o’r tir.

Erbyn Prifwyl Llangollen, 1908, roedd Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru wedi’i sefydlu a Grace Gwyneddon Davies yn aelod blaenllaw o’r pwyllgor gwaith. Yn 1911 dechreuodd hi a’i gŵr gyfrannu’n gyhoeddus i fywyd y Gymdeithas drwy draddodi darlithoedd ar faes canu gwerin yn nalgylch Caernarfon ac ar hyd gogledd Cymru. ‘Robin’ a fyddai’n traethu a Grace yn darparu’r enghreifftiau priodol ar gân.

Hwyliodd y ddau hefyd i Iwerddon i ddarlithio ar faes caneuon gwerin yng Nghymru i gynulleidfa yng Ngholeg y Drindod, Dulyn, a phan ymwelodd y cwpl ag Unol Daleithiau America a Chanada flynyddoedd yn ddiweddarach, ystyrid hynny’n gam allweddol ymlaen yn hanes a datblygiad Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru am nad oedd neb erioed cyn hynny wedi mentro mor bell er budd cerddoriaeth werin y genedl. Sail i gyflwyniadau a darlithoedd cyhoeddus Robert a Grace Gwyneddon Davies oedd eu profiad uniongyrchol, o 1913 ymlaen, ym myd casglu a chofnodi alawon Cymreig (Davies 1923, 95).

Oherwydd eu cysylltiadau teuluol ag Ynys Môn troesant i gyfeiriad Dwyran i chwilio am ddeunydd cerddorol. I fferm Tyddyn-y-gwynt (Dwyran) ac at Owen Parry, un o denantiaid y fro, yr aeth Grace Gwyneddon Davies yn gyntaf a chael stôr o ganeuon swynol ganddo. Yn eu plith casglwyd deunydd y llofft stabl a chaneuon gweision fferm yr ynys. Pan ymddangosodd ei chyfrol gyntaf o Alawon Gwerin Môn yn 1914 cafwyd ynddi drefniannau syml o saith alaw Gymreig ar gyfer llais a chyfeiliant piano ac yn eu plith, cofnodwyd caneuon fel ‘Cob Malltraeth’, ‘Y Gelynen’, ‘Cwyn Mam-y-’nghyfraith’ a ‘Titrwm, tatrwm’ (Davies 1914). Erbyn 1924, roedd ail gasgliad Alawon Gwerin Môn wedi ymddangos o’r wasg a’r gyfrol hon hefyd yn gofnod o ganu Owen Parry ac eithrio un eitem, sef fersiwn o ‘Lisa Lân’ a gafwyd gan ei ferch, Margaret (Maggie) Jones, ar fferm Talybont, Dwyran (Davies 1924).

Pan ymddangosodd rhai o drefniannau Grace Gwyneddon Davies ar restr testunau’r Eisteddfod Genedlaethol am y tro cyntaf yn 1918, ailsefydlwyd y cyswllt agos a fu rhyngddi a’r Brifwyl – cyswllt uniongyrchol a barhaodd am gyfnod o bum mlynedd ar hugain. Bu’n feirniad swyddogol yn adran y canu gwerin rhwng 1921 ac 1933 ac yn rhannu ei chyfrifoldebau â Mary Davies a Philip Thomas, yn ogystal â David de Lloyd a W. S. Gwynn Williams. Fel cantores a cherddor ymarferol, sylweddolai bwysigrwydd cefnogi’r gwaith casglu yn ogystal ag ysgolheictod y mudiad canu gwerin, ond yn sail i hyn oll, roedd rhaid perfformio’r alawon ac ymestyn eu cylchrediad er mwyn eu cynnal a’u diogelu.

Wyn Thomas

Llyfryddiaeth

Grace Gwyneddon Davies, Alawon Gwerin Môn (Caernarfon, 1914)
Robert Gwyneddon Davies, ‘The Collecting of Anglesey Folk Songs’, Anglesey Antiquarian and Field Club: Transactions, Cyf. 1923 (Llangefni, 1923), 95
Grace Gwyneddon Davies, Ail Gasgliad o Alawon Gwerin Môn: A Second Collection of Folk Songs from Anglesey (Wrecsam, 1924)
Wyn Thomas, Meistres Graianfryn a cherddoriaeth frodorol yng Nghymru (Aberystwyth, 1999)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.