Davies, J. Ffos (1882-1931)

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 21:36, 31 Mai 2021 gan CadiW (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Brodor o Flaenffos, Pren-gwyn ger Llandysul oedd John Ffos Davies; casglwr a chofnodwr caneuon gwerin Ceredigion. Wedi cyfnod fel myfyriwr dan ofal yr Athro Henry Walford Davies (1869–1941) yn adran gerdd Prifysgol Cymru, Aberystwyth, fe’i penodwyd yn athro mewn ysgol gynradd yn Oakengates, Swydd Amwythig, cyn iddo ddychwelyd i swydd debyg yn ysgol Cilcennin. Oherwydd anawsterau ariannol yn ystod ei gyfnod yn y brifysgol, ni lwyddodd i sicrhau gradd mewn cerddoriaeth ond yr oedd er hynny yn gerddor amlochrog a dawnus a fu’n weithgar yn y maes drwy gydol ei oes.

Bu’n filwr yn y Rhyfel Mawr ac fe’i clwyfwyd yn bur ddifrifol yn ystod y gyflafan. Roedd yn ŵr diwylliedig a gynhaliai ysgolion nos ar gyfer gweision fferm y gymdogaeth; roedd hefyd yn ganwr tenor ac yn sylfaenydd côr eisteddfodol yn Felin-fach yn yr 1920au. Cychwynnodd ar ei waith fel casglwr alawon gwerin ymhlith ei ddisgyblion yn nalgylch Cribyn cyn troi at drigolion yr ardal yn fwy cyffredinol gan gynnwys Dafydd Jones (Maesymeillion) a Thomas Herbert (Cribyn) a ganodd rai o’r caneuon hynaf iddo. Ymhlith ei alawon gwelir ‘Y March Glas’, ‘Cân y Lleuen’, ‘Cân y trên’ a ‘Cân ffarwel i ferched Llanwenog’, ond cofnododd hefyd rai caneuon Americanaidd a ddaeth yn boblogaidd yn Sir Aberteifi yr adeg honno, gan gynnwys ‘Twll bach y clo’, ‘Y llong na ddychwelodd yn ôl’, ‘Barf a Locsen’ a ‘Yr Hogen goch’.

Yn ei lawysgrifau, sydd ar gadw yn Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan, gwelir iddo nodi ei ganeuon mewn sol-ffa ac fe’u dosbarthwyd yn ofalus yn ôl eu swyddogaeth (e.e. caneuon serch, caneuon gwaith, baledi ac ati). Cyhoeddwyd ei gasgliad o ganeuon brodorol dan y teitl Forty Welsh Traditional Tunes yn 1929 gan Gymdeithas Hynafiaethau Ceredigion ar gais David Thomas, Arolygydd ei Mawrhydi, a sylweddolodd werth yr hyn a gyflawnodd Ffos Davies yn ei gynefin. D. Rees Davies (Cledlyn; 1875–1964), bardd ac ysgolfeistr yng Nghwrtnewydd, a fu’n gyfrifol am olygu a safoni’r geiriau (lluniodd yntau rai penillion newydd ar gyfer y caneuon yn ogystal) a David de Lloyd a fu’n gyfrifol am olygu’r gerddoriaeth.

Daw’r caneuon o sawl ffynhonnell lafar gan gynnwys y llofft stabl (lle’r oeddynt yn gyfrwng diddanwch gweision fferm), baledi storïol, caneuon efail y gof a chaneuon neithior. Er mor arwyddocaol yw’r casgliad cyhoeddedig yn hanes diwylliannol canolbarth Cymru, gwelir bod y deunydd gwreiddiol wedi’i addasu a’i dacluso gryn dipyn cyn ei ddwyn i sylw’r cyhoedd. O ganlyniad collwyd naws ac arddull anffurfiol caneuon J. Ffos Davies, ond diogelwyd y fersiynau gwreiddiol i’r sawl sy’n ymddiddori yn y maes.

Wyn Thomas

Llyfryddiaeth

  • David de Lloyd, Forty Welsh Traditional Tunes – arranged for two voices and piano (Llundain, 1929)
  • ‘J. Ffos Davies’, Clonc (Papur Bro Llanbedr Pont Steffan a’r gymdogaeth), 1 (Awst, 1984)
  • Meinir Angharad Jones, ‘J. Ffos Davies, casglydd caneuon gwerin Ceredigion’ (traethawd BA Coleg Cerdd a Drama Cymru, Caerdydd, 1992)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.