Davies, Rhian

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Ganed Rhian Davies yn Sir Drefaldwyn. Wedi derbyn hyfforddiant fel cantores aeth ymlaen i astudio yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, Coleg yr Iesu, Rhydychen a Phrifysgol Bangor lle cwblhaodd ei doethuriaeth. Bu’n gymrawd ym Mhrifysgol Indiana yn Bloomington am gyfnod ynghyd â gweithio yng Nghanolfan Ymchwil Dyniaethau Harry Ransom ym Mhrifysgol Texas yn Austin, a Llyfrgell Genedlaethol Awstralia, Canberra.

Mae ei gwaith ymchwil yn canolbwyntio ar ddeunyddiau cerddorol mewn casgliadau cyhoeddus a phreifat. Mae ei darganfyddiadau wedi esgor ar nifer o berfformiadau modern am y tro cyntaf a rhai perfformiadau cyntaf byd-eang yn Ynysoedd Prydain, Unol Daleithiau America, Canada ac Awstralia, a phriodolir ei hymchwil i adferiad llawer o gyfansoddwyr i’r storfa, yn arbennig Morfydd Llwyn Owen, testun traethawd ymchwil ei doethuriaeth a’r llyfr bywgraffiadol Never So Pure A Sight (Llandysul, 1994). Mae hi wedi sgriptio a chynhyrchu rhaglenni dogfen ar nifer o sianelau teledu ac wedi ymddangos ar raglenni radio megis Classic FM, BBC Radio 3 a Radio Cymru. Ers 2006 bu’n Gyfarwyddwr Artistig Gŵyl Gregynog, gŵyl gerddoriaeth glasurol hynaf Cymru.



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.